Mae City & Guilds ac EAL yn ddau gorff dyfarnu sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio ar ddatblygu cyfres o gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu i Gymru.
Mae gennym dros 140 mlynedd o brofiad o ddatblygu cymwysterau ac asesiadau yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae City & Guilds ac EAL wedi meithrin perthynas wych o gydweithio, felly mae hon yn bartneriaeth go iawn sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r sector i fodloni’r cyfleoedd sydd gan y dyfodol i’w gynnig.
Rydym yn credu’n gryf mewn grymuso pobl gyda chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Ein nod gyda’r gyfres newydd hon o gymwysterau yw helpu pobl i gael swydd, datblygu o fewn y swydd a mynd ymhellach.
Byddwn yn helpu i wneud hyn drwy:
- creu tirwedd addysg glir, symlach o ansawdd
- diwallu anghenion sgiliau Cymru
- datblygu rhaglenni dysgu ac asesiadau sy’n diwallu anghenion cyflogwyr drwy eu rhoi wrth galon y datblygiad
- darparu llwybrau dilyniant clir i ddysgwyr fel eu bod yn deall eu camau gyrfa posibl nesaf
- gwneud dysgwyr yn wybodus, yn fedrus ac yn barod ar gyfer y gweithle modern fel y gallant fod yn weithwyr gwell
- cyflawni’r uchelgais o rymuso cenedl ddwyieithog mewn sector sy’n esblygu’n gyflym.
Ymrwymiad i gefnogi ein cwsmeriaid
Ein nod yw darparu cymwysterau, adnoddau a gwasanaethau o ansawdd uchel a fydd yn helpu canolfannau i alluogi eu dysgwyr i gyflawni eu potensial ac i ddiwallu anghenion gweithle heddiw ac yfory.
Sut rydyn ni’n anrhydeddu ein hymrwymiadau i gwsmeriaid:
This page was last updated on 25/10/2021 at 09:57 am