Mae adnoddau addysgu a dysgu digidol ar gael am ddim gyda’r cymhwyster hwn, fel a ganlyn:
- Cynlluniau gwaith
- Cyflwyniadau PowerPoint
- Taflenni gwaith
- Cwestiynau amlddewis.
Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu cynllunio i’ch cefnogi i gyflwyno’r unedau gorfodol a’r prif rai dewisol o’r cymhwyster.
Unedau sydd wedi’u cynnwys
- Uned 101: Cyflwyniad i’r amgylchedd adeiledig
- Uned 102: Cyflwyniad i’r crefftau yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Uned 103: Cyflwyniad i gylch bywyd yr amgylchedd adeiledig
- Uned 104 Cyflogadwyedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Uned 105: Amddiffyn iechyd, diogelwch a’r amgylchedd wrth weithio yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Uned 106: Cyflwyniad i dechnolegau newydd yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig
- Uned 107: Gweithio gyda brics, blociau a cherrig
- Uned 108: Galwedigaethau gwaith coed
- Uned 109: Plastro a systemau mewnol
- Uned 110: Galwedigaethau gorffen addurno a phaentio diwydiannol
- Uned 111: Galwedigaethau toi
- Uned 112: Gweithrediadau adeiladu a gweithrediadau peirianneg sifil
- Uned 113: Plymio, gwresogi ac awyru
- Uned 114: Systemau ac offer electrodechnegol
- Uned 116: Teilsio waliau a lloriau
Gwyliwch y weminar i gael cyflwyniad i’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Adnoddau dysgu ac addysgu
Cysylltwch â ni am gymorth
Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnoch i gyflwyno ein cymwysterau’n effeithiol. Gallwn ni eich helpu bob cam o’r ffordd o gynllunio’r rhaglen i’r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth.
Mae croeso i chi gysylltu â gwasanaethau i gwsmeriaid os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Skillsforwales.customer@cityandguilds.com neu ffoniwch 0192 4930 801, rhwng 8am a 5pm.
Adnoddau ar gyfer y cymhwyster mewn Peirianneg Gwasanaethau AdeiladuMae Canllawiau Cyflwyno digidol ar gael am ddim ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu dylunio i helpu i gyflwyno unedau gorfodol a dewisol y cymhwyster, gan gynnig cefnogaeth gyffredinol i diwtoriaid wrth gyflwyno unedau crefft newydd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws ysgrifennu cynlluniau gwaith ac yn sicrhau bod y cynnwys iawn yn cael sylw.
Mae’r cymorth yn cynnwys enghreifftiau o’r canlynol:
- deddfwriaeth, rheoliadau, dogfennau a chanllawiau perthnasol
- systemau gweithdrefnau gwaith diogel
- cyngor ymarferol priodol
- unrhyw gyfarpar arbenigol sydd ei angen a sut mae ei ddefnyddio
- dulliau/technegau da i’w defnyddio
- egwyddorion mathemategol/gwyddoniaeth sylfaenol sy’n sail i’r uned.
Mae adnoddau ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer Uned 201 a Uned 202. Mae’r adnoddau yn cynnwys cynlluniau gwaith, cyflwyniadau Pwynt Pwer, taflenni gwaith a chwestiynau amlddewis.
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau ar gyfer y cymhwyster mewn AdeiladuMae Canllawiau Cyflwyno digidol ar gael am ddim ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu dylunio i helpu i gyflwyno unedau gorfodol a dewisol y cymhwyster, gan gynnig cefnogaeth gyffredinol i diwtoriaid wrth gyflwyno unedau crefft newydd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws ysgrifennu cynlluniau gwaith ac yn sicrhau bod y cynnwys iawn yn cael sylw.
Mae’r cymorth yn cynnwys enghreifftiau o’r canlynol:
- deddfwriaeth, rheoliadau, dogfennau a chanllawiau perthnasol
- systemau gweithdrefnau gwaith diogel
- cyngor ymarferol priodol
- unrhyw gyfarpar arbenigol sydd ei angen a sut mae ei ddefnyddio
- dulliau/technegau da i’w defnyddio
- egwyddorion mathemategol/gwyddoniaeth sylfaenol sy’n sail i’r uned.
Mae adnoddau ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer Uned 201. Mae’r adnoddau yn cynnwys cynlluniau gwaith, cyflwyniadau Pwynt Pwer, taflenni gwaith a chwestiynau amlddewis.
Adnoddau dysgu ac addysgu
Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuMae’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.
Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cyflawni dysgu seiliedig ar waith, sydd mewn addysg bellach neu sydd mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgol. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 neu 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.
Dilyniant mewn AdeiladuMae’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu wedi’i ddatblygu fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Adeiladu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 2 neu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’w crefft adeiladu.
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn rhaglen ddysgu amser llawn am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cyflawni’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ond sydd heb brentisiaeth eto.
Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuMae’r Cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i lunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.
Mae’r cymhwyster wedi’i anelu at ddysgwyr rhan-amser sydd wedi ennill Prentisiaeth Adeiladu neu Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu, ac nad ydynt wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu o’r blaen. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuLefel 2 a 3 eraillsy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.
Gellir dilyn y cymhwyster dros flwyddyn gan amlaf fel rhaglen ddysgu ran-amser yn rhan o fframwaith Prentisiaeth; neu ar gyfer gweithredwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn y sector yn fwy cyffredinol.
Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau AdeiladuMae Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi pasio eu Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ond sydd heb gyflogwr eto i barhau â Phrentisiaeth, gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau peirianneg gwasanaethau adeiladu eraill sy’n berthnasol i grefft o’u dewis.
Cymhwyster dilyniant: Plastro Soled a Leinio Sych – Gosod Cymhwyster Dilyniant – Trosolwg cychwynnol Cymhwyster Dilyniant – Trosolwg cychwynnol Paratoi i ddarparu’r cymhwyster Sylfaen