{"id":460,"date":"2020-02-28T14:26:10","date_gmt":"2020-02-28T14:26:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/?page_id=460"},"modified":"2025-11-02T11:57:53","modified_gmt":"2025-11-02T11:57:53","slug":"hysbysiad-preifatrwydd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd","title":{"rendered":"Hysbysiad preifatrwydd"},"content":{"rendered":"<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<p>Mae City &amp; Guilds ac EAL wedi ymrwymo i ddiogelu data ac i brosesu data personol yn deg ac yn dryloyw. Mae&#8217;r hysbysiad preifatrwydd hwn (Hysbysiad) yn egluro sut mae City &amp; Guilds yn trin data personol ymwelwyr \u00e2&#8217;r Wefan yn unol \u00e2&#8217;r ddeddf diogelu data berthnasol, gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016\/679 (GDPR yr UE), GDPR y DU, a Deddf Diogelu Data 2018.<\/p>\n<p>Os byddwch chi&#8217;n ymweld \u00e2&#8217;n Gwefan, darllenwch yr Hysbysiad hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni, sut a pham rydym yn casglu, storio, defnyddio a rhannu eich data personol (prosesu), eich hawliau mewn perthynas \u00e2&#8217;ch data personol, sut i gysylltu \u00e2 ni, a sut i gysylltu ag awdurdodau goruchwylio os hoffech chi roi gwybod am bryder am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol.<\/p>\n<p>Ydych chi&#8217;n ddysgwr sy&#8217;n awyddus i gael gwybod mwy am sut rydym yn prosesu eich data personol? Darllenwch ein <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/help-for-learners\/learner-policy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiad preifatrwydd i ddysgwyr<\/a> i gael gwybodaeth sy&#8217;n benodol i chi.<\/p>\n<p>Ydych chi&#8217;n gwsmer sy&#8217;n awyddus i gael gwybod mwy am sut rydym yn prosesu eich data personol? Darllenwch ein <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/customer-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiad preifatrwydd i gwsmeriaid<\/a> i gael gwybodaeth sy&#8217;n benodol i chi.<\/p>\n<p>Ydych chi&#8217;n Gydymaith, sy\u2019n gweithio gyda City &amp; Guilds, ac yn awyddus i gael gwybod mwy am sut rydym yn prosesu eich data personol? Darllenwch ein <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/associate-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiad preifatrwydd i gymdeithion<\/a> i gael gwybodaeth sy&#8217;n benodol i chi.<\/p>\n<p>Ydych chi&#8217;n chwilio am wybodaeth am sut mae un o fusnesau City &amp; Guilds yn prosesu eich data personol? Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/our-businesses-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiadau preifatrwydd<\/a> ein cwmn\u00efau eraill, sy\u2019n cynnwys manylion hysbysiadau preifatrwydd ein holl gwmn\u00efau eraill.<\/p>\n<h2>Pwy ydym ni?<\/h2>\n<p>Mae City &amp; Guilds yn gweithredu ac yn berchen ar <a href=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\">https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy<\/a> (Gwefan). Mae&#8217;r Hysbysiad hwn, ynghyd \u00e2 thelerau defnyddio ein Gwefan ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt yn y telerau, yn egluro ar ba sail y mae City &amp; Guilds yn prosesu data personol drwy ein Gwefan, neu mewn perthynas \u00e2 darparu gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau i chi.<\/p>\n<p>At ddibenion y ddeddf diogelu data berthnasol, gan gynnwys GDPR y DU a&#8217;r Ddeddf Diogelu Data, mae City &amp; Guilds Limited (\u201cCity &amp; Guilds\u201d) ac Excellence, Achievement and Learning Limited (\u201cEAL\u201d) yn &#8216;rheolydd data&#8217; annibynnol ar gyfer y data personol rydych chi&#8217;n ei ddarparu i ni mewn perthynas \u00e2 darparu cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru drwy Ganolfannau Cymeradwy City &amp; Guilds ac EAL.<\/p>\n<p>City &amp; Guilds Limited (Cwmni Cofrestredig 16513878) yw&#8217;r Sefydliad Dyfarnu ar gyfer cymwysterau City &amp; Guilds. Ein cyfeiriad cofrestredig yw Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, Llundain, EC1A 9DE (City &amp; Guilds, ni, neu ein).<\/p>\n<p>Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y Polisi hwn, am y ffordd y mae City &amp; Guilds yn prosesu data personol, neu am arfer unrhyw un o&#8217;ch hawliau, anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:dp@cityandguilds.com\">dp@cityandguilds.com<\/a>; neu ysgrifennwch at Data Protection, City &amp; Guilds, Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, Llundain, EC1A 9DE.<\/p>\n<p>Mae EAL yn gwmni sydd wedi&#8217;i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru&#8217;r cwmni, sef 02700780.\u00a0 Cyfeiriad swyddfa gofrestredig EAL yw Lytchett House, 13 Freeland Park, Wareham Road, Poole, Dorset, BH16 6FA. Gallwch gysylltu \u00e2 nhw drwy anfon e-bost i <a href=\"mailto:GDPR@Enginuity.org\">GDPR@Enginuity.org<\/a> neu ysgrifennu i\u2019r cyfeiriad canlynol: The Head of Governance and Regulation, Data Protection, Lytchett House, 13 Freeland Park, Wareham Road, Poole, Dorset, BH16 6FA.<\/p>\n<h2>Pa ddata personol rydym ni&#8217;n ei gasglu?<\/h2>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn yn casglu ac yn prosesu&#8217;r data personol canlynol:<\/p>\n<p>Data personol rydych chi&#8217;n ei roi i ni:<\/p>\n<p>Os byddwch chi&#8217;n:<\/p>\n<ul>\n<li>llenwi ffurflen ar ein Gwefan;<\/li>\n<li>llenwi arolwg;<\/li>\n<li>gohebu \u00e2 ni dros y ff\u00f4n, drwy e-bost, neu&#8217;n ysgrifenedig;<\/li>\n<li>mynd i ddigwyddiad a drefnir gennym ni neu gan sefydliadau eraill;<\/li>\n<li>dilyn cwrs neu fodiwl e-ddysgu a gynigir gennym ni;<\/li>\n<li>rhoi gwybod am broblem;<\/li>\n<li>cofrestru i dderbyn ein gohebiaeth;<\/li>\n<li>creu cyfrif gyda ni;<\/li>\n<li>ymrwymo i gontract gyda ni i dderbyn cynhyrchion a\/neu wasanaethau;<\/li>\n<li>gwneud ymholiadau gwerthu;<\/li>\n<li>rhyngweithio&#8217;n gymdeithasol \u00e2 ni drwy gyfryngau cymdeithasol;<\/li>\n<li>mae\u2019n bosibl y byddwn yn casglu eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ff\u00f4n, enw&#8217;r sefydliad a\/neu swydd.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Data personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi<\/h2>\n<p>Os byddwch yn ymweld \u00e2&#8217;n Gwefan, mae\u2019n bosibl y byddwn yn casglu&#8217;r data a\/neu&#8217;r wybodaeth bersonol ganlynol yn awtomatig:<\/p>\n<ul>\n<li>gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys cyfeiriad protocol y rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu&#8217;ch cyfrifiadur \u00e2&#8217;r Rhyngrwyd, gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr a\u2019r fersiwn, gosodiad cylchfa amser, mathau o ategion porwr a\u2019r fersiynau, llwyfan a system weithredu; a<\/li>\n<li>gwybodaeth am eich ymweliad \u00e2&#8217;n Gwefan, fel y cynnyrch a\/neu&#8217;r gwasanaethau y gwnaethoch chwilio amdanynt a&#8217;u gweld, amseroedd ymateb tudalennau, gwallau llwytho i lawr, hyd ymweliadau \u00e2 thudalennau penodol, gwybodaeth am y ffordd y gwnaethoch chi ddefnyddio tudalennau (fel sgrolio, clicio, a hofran y llygoden), a dulliau a ddefnyddiwyd i adael y dudalen.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Data personol rydym yn ei dderbyn gan ffynonellau eraill<\/h2>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn data personol amdanoch os ydych chi&#8217;n defnyddio unrhyw un o&#8217;r gwefannau eraill rydym ni, neu un o&#8217;r cwmn\u00efau eraill ym musnes City &amp; Guilds, neu&#8217;r gwasanaethau a\/neu&#8217;r cynhyrchion eraill rydym ni, neu gwmni arall ym musnes City &amp; Guilds, yn eu darparu. Mae rhagor o wybodaeth am fusnes City &amp; Guilds ar gael <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/our-businesses-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;n cwmn\u00efau cysylltiedig, gan gynnwys ar brosesu data personol \u2013 darllenwch <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/our-businesses-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiadau preifatrwydd<\/a> ein cwmn\u00efau eraill i gael gwybod mwy.<\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n diwtor, yn brentis neu&#8217;n ddysgwr, mae\u2019n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn data personol amdanoch gan ganolfan, cwsmer, cyflogwr, darparwr cyflogwr, neu ddarparwr hyfforddiant cysylltiedig, pan fyddan nhw\u2019n cofrestru i dderbyn cynnyrch a\/neu wasanaethau gennym ni.<\/p>\n<h2>Data personol am bobl eraill<\/h2>\n<p>Os byddwch yn darparu data personol i ni am unrhyw un ar wah\u00e2n i chi\u2019ch hun, fel eich perthnasau, perthynas agosaf, cynghorwyr neu gyflenwyr, rhaid i chi sicrhau eu bod yn deall sut bydd eu data personol yn cael ei brosesu, a&#8217;u bod wedi caniat\u00e1u i chi ddatgelu\u2019r data i ni ac i ganiat\u00e1u i ni, a&#8217;n darparwyr gwasanaeth trydydd parti, ei brosesu.<\/p>\n<h2>Data categori arbennig<\/h2>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn hefyd yn casglu a\/neu&#8217;n derbyn data categori arbennig, fel data am eich iechyd meddwl neu gorfforol, neu am gyflwr corfforol neu feddyliol sydd gennych chi. Er enghraifft, mae\u2019n bosibl y byddwn yn casglu a\/neu&#8217;n derbyn data categori arbennig i&#8217;n galluogi i weinyddu ceisiadau am addasiadau rhesymol, neu mewn perthynas ag ymchwiliad, cwyn neu ap\u00eal.<\/p>\n<h2>Sut ydym ni&#8217;n defnyddio eich data personol?<\/h2>\n<p>Pan fyddwn yn gofyn i chi roi data personol i ni, byddwn yn dweud yn glir a oes rhaid i&#8217;r data personol rydym yn gofyn amdano gael ei ddarparu er mwyn i ni allu darparu unrhyw gynnyrch a\/neu wasanaethau i chi, neu a allwch chi ddewis peidio \u00e2 darparu unrhyw ddata personol rydym yn gofyn amdano.<\/p>\n<p>Mewn rhai amgylchiadau, rydym yn rhannu data personol o fewn busnes City &amp; Guilds, gan gynnwys cwmn\u00efau City &amp; Guilds sydd wedi&#8217;u cofrestru yn y DU a thu hwnt, er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol, y ffordd rydym yn ymgysylltu \u00e2 chwsmeriaid, a chyfleoedd gwerthu ar draws ein busnes. Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/our-businesses-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiadau preifatrwydd<\/a> ein cwmn\u00efau eraill i gael gwybod mwy.<\/p>\n<p>Mae unrhyw fynediad a rennir at ddata personol yn rhwym wrth gyfyngiadau cyfreithiol a chontractiol.<\/p>\n<p><strong>Cyflawni contract<\/strong>: mae\u2019n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol i gyflawni contract, neu i gymryd camau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chontract, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>darparu cynhyrchion a\/neu wasanaethau i chi;<\/li>\n<li>cyfathrebu \u00e2 chi mewn perthynas \u00e2 darparu cynhyrchion a\/neu wasanaethau dan gontract; a<\/li>\n<li>rhoi cymorth gweinyddol i chi, fel creu cyfrif, diogelwch, ac ymateb i broblemau.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Buddiannau dilys<\/strong>: mae\u2019n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol pan fydd hynny\u2019n angenrheidiol er mwyn sicrhau ein buddiannau dilys ein hunain, neu fuddiannau dilys trydydd parti, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>cyfathrebu \u00e2 chi mewn perthynas ag unrhyw broblemau, cwynion, neu anghydfod;<\/li>\n<li>datblygu, gwella yn ogystal \u00e2 marchnata a hysbysebu cynhyrchion a\/neu wasanaethau a gynigir gennym ni neu gan aelod arall o fusnes City &amp; Guilds;<\/li>\n<li>trefnu i chi gael cydnabyddiaeth ddigidol pan fyddwch wedi cwblhau cwrs neu fodiwl e-ddysgu&#8217;n llwyddiannus neu wedi bod mewn digwyddiad, neu i gydnabod cyflawniad;<\/li>\n<li>gwella ansawdd y profiad pan fyddwch yn defnyddio ein cynnyrch a\/neu ein gwasanaethau, gan gynnwys profi perfformiad ein Gwefan a\u2019ch profiad ohoni fel cwsmer;<\/li>\n<li>dadansoddi data gwerthu\/marchnata, gan bennu effeithiolrwydd ymgyrchoedd hyrwyddo; ac<\/li>\n<li>atal a chanfod troseddau a\/neu gynorthwyo i arestio neu erlyn troseddwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu eich data personol yn unol \u00e2&#8217;n buddiannau dilys er mwyn darparu cylchlythyrau, arolygon neu wybodaeth i chi am ein dyfarniadau a&#8217;n digwyddiadau, ein cynigion a&#8217;n hyrwyddiadau, sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chynnyrch a\/neu wasanaethau a gynigir gennym ni neu gan gwmni arall ym musnes City &amp; Guilds, a allai fod o ddiddordeb i chi. Pan fyddwch yn cael gohebiaeth o&#8217;r fath gennym ni am farchnata, gallwch newid eich dewisiadau neu ddad-danysgrifio o negeseuon marchnata ar unrhyw adeg drwy glicio&#8217;r ddolen dad-danysgrifio mewn e-bost gennym ni.<\/p>\n<p>Cofiwch fod gennych hawl i wrthwynebu i\u2019ch data personol gael ei brosesu ar sail buddiannau dilys fel y nodir isod, o dan y pennawd Eich hawliau.<\/p>\n<p><strong>Pan fydd hynny&#8217;n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith<\/strong>:\u00a0 cawn hefyd brosesu eich data personol os yw hynny&#8217;n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith.<\/p>\n<p><strong>Cydsyniad<\/strong>: mae\u2019n bosibl y byddwn yn prosesu eich data categori arbennig pan fyddwch wedi rhoi cydsyniad penodol i ni wneud hynny.<\/p>\n<p>O ran data categori arbennig, mae\u2019n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu data o&#8217;r fath os yw hynny\u2019n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio \u00e2 chyfrifoldebau cyfreithiol (fel addasiadau rhesymol), am resymau sy\u2019n ymwneud \u00e2 budd sylweddol i&#8217;r cyhoedd, gan gynnwys atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon, neu er mwyn cydymffurfio \u2013 neu helpu trydydd part\u00efon i gydymffurfio \u2013 ag unrhyw ofynion rheoleiddio sy&#8217;n ymwneud ag ymchwilio i weithredoedd anghyfreithlon, anonestrwydd neu gamymarfer.<\/p>\n<h2>Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol?<\/h2>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol \u00e2 darparwyr gwasanaeth trydydd parti dibynadwy, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>cynghorwyr cyfreithiol a phroffesiynol eraill, ymgynghorwyr, ac arbenigwyr proffesiynol;<\/li>\n<li>darparwyr gwasanaethau sy\u2019n cyflawni gwaith dan gontract i ni mewn perthynas \u00e2&#8217;n Gwefan neu\u2019n darparu gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau, fel darparwyr gwasanaethau TG a gwasanaethau rheoli cysylltiadau \u00e2 chwsmeriaid;<\/li>\n<li>llwyfan ein partner cydnabyddiaeth ddigidol, a&#8217;n<\/li>\n<li>darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio sy&#8217;n ein helpu i wella ac optimeiddio ein Gwefan.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwn yn sicrhau bod contract ar waith gyda darparwyr gwasanaethau trydydd parti o&#8217;r fath sy&#8217;n cynnwys rhwymedigaethau i ofalu bod unrhyw ddata personol a rennir \u00e2 nhw yn cael ei ddiogelu, ei gadw\u2019n gyfrinachol a\u2019i brosesu\u2019n gyfreithlon, a rhwymedigaethau sy&#8217;n cynnal eich hawliau a&#8217;ch rhyddid mewn perthynas \u00e2 data personol.<\/p>\n<p>Pan fydd derbynnydd trydydd parti wedi&#8217;i leoli y tu allan i&#8217;r DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad neu diriogaeth gymeradwy arall, byddwn yn sicrhau bod y broses o drosglwyddo data personol yn cael ei diogelu gan fesurau diogelu priodol, gan gynnwys cytundeb trosglwyddo data rhyngwladol y DU a\/neu gymalau contractiol safonol yr UE, fel y bo&#8217;n berthnasol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol \u00e2 chwmn\u00efau ym musnes City &amp; Guilds, gan gynnwys cwmn\u00efau City &amp; Guilds sydd wedi cofrestru yn y DU a thu hwnt. Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.cityandguilds.com\/help\/our-businesses-privacy-notice\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbysiadau preifatrwydd<\/a> ein cwmn\u00efau eraill i gael gwybod mwy.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu data personol (gan gynnwys unrhyw ddata categori arbennig) ag awdurdodau gorfodi&#8217;r gyfraith neu awdurdodau neu asiantaethau eraill os yw hynny\u2019n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith, neu pan fyddwn o&#8217;r farn bod hynny&#8217;n angenrheidiol er mwyn sicrhau ein buddiannau dilys. Gallai hyn gynnwys y canlynol \u2013 nid yw\u2019r rhestr hon yn gyflawn: ymateb i geisiadau am wybodaeth gan awdurdodau neu asiantaethau o&#8217;r fath, neu rannu gwybodaeth \u00e2 nhw mewn perthynas \u00e2&#8217;n prosesau sicrhau ansawdd, ymchwiliadau, cwynion neu apeliadau.<\/p>\n<p>Pan fydd data personol yn cael ei rannu ag awdurdod cyhoeddus, dylech fod yn ymwybodol y bydd yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac y gallai ddod o fewn cwmpas unrhyw gais Rhyddid Gwybodaeth yn y dyfodol a gyflwynir i awdurdod cyhoeddus o&#8217;r fath.<\/p>\n<h2>Am faint y byddwn yn cadw eich data personol?<\/h2>\n<p>Byddwn yn cadw eich data personol drwy gydol unrhyw gontract rhyngom. Wedi hynny, byddwn yn cadw data personol er mwyn:<\/p>\n<ul>\n<li>darparu gwybodaeth am eich perthynas \u00e2 City &amp; Guilds;<\/li>\n<li>ymateb i unrhyw gwestiynau, cwynion neu honiadau a wneir gennych chi, ar eich rhan neu amdanoch chi;<\/li>\n<li>cydymffurfio ag unrhyw ofynion cadw cofnodion gan drydydd parti perthnasol (ee, gofynion rheoleiddiwr); a<\/li>\n<li>chydymffurfio ag unrhyw ofynion archwilio, contractiol, cyfreithiol, a rheoleiddiol eraill, neu unrhyw orchmynion gan lysoedd neu awdurdodau cymwys.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwn hefyd yn cadw data personol sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;n prosesau sicrhau ansawdd, ymchwiliadau, apeliadau a chwynion, er mwyn cydymffurfio \u00e2 gofynion archwilio, contractiol, cyfreithiol a rheoleiddiol eraill perthnasol, neu unrhyw orchmynion gan lysoedd neu awdurdodau cymwys.<\/p>\n<p>Nid yw City &amp; Guilds yn cadw data personol am gyfnod hirach na&#8217;r hyn sy&#8217;n angenrheidiol at y dibenion uchod.<\/p>\n<h2>Sut rydym yn defnyddio eich data personol?<\/h2>\n<p>Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau ein bod ni, a&#8217;n darparwyr gwasanaeth trydydd parti, yn diogelu eich data personol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein staff yn ymwybodol o&#8217;u rhwymedigaethau diogelu gwybodaeth, darparu hyfforddiant, a chyfyngu mynediad at eich data personol i ddim ond staff sydd angen ei weld at ddibenion busnes gwirioneddol.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn cymryd camau rhesymol i ddiogelu eich data personol rhag cael ei golli neu ei ddinistrio, ac mae gennym weithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri amodau diogelu data. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am unrhyw amheuaeth o dorri amodau diogelu data pan fydd rhaid i ni wneud hynny yn \u00f4l y gyfraith.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, mae ein proses rheoli prosiectau a rheoli newid yn cynnwys asesiad strwythuredig o risgiau yn ymwneud \u00e2 phreifatrwydd data a diogelu data. Nod y broses hon yw sicrhau bod yr holl newidiadau arfaethedig a wneir i system City &amp; Guilds o bryd i&#8217;w gilydd yn cyd-fynd yn llawn \u00e2 gofynion diogelu data ac arferion da i gynnal hawliau a rhyddid gwrthrychau&#8217;r data mewn perthynas \u00e2 data personol.<\/p>\n<p>Cofiwch, os oes gennych chi fel ymwelydd \u00e2&#8217;r Wefan enw defnyddiwr neu gyfrinair (neu wybodaeth adnabod arall) sy&#8217;n eich galluogi i gael mynediad at rai gwasanaethau neu rannau o&#8217;n Gwefan, chi sy&#8217;n gyfrifol am gadw&#8217;r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio \u00e2 rhannu cyfrineiriau ag unrhyw un.<\/p>\n<p>Yn anffodus, nid yw&#8217;r broses o drosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn un gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data personol sy&#8217;n cael ei drosglwyddo i&#8217;n Gwefan; os byddwch chi\u2019n trosglwyddo unrhyw ddata personol, rydych chi\u2019n gwneud hynny ar eich risg eich hun. Ar \u00f4l i ni dderbyn eich data personol, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i geisio atal mynediad heb awdurdod.<\/p>\n<h3>Eich hawliau<\/h3>\n<p>O dan y ddeddf diogelu data berthnasol, mae gennych wahanol hawliau mewn perthynas \u00e2&#8217;n gwaith o brosesu eich data personol:<\/p>\n<h3>Hawl Mynediad<\/h3>\n<p>Mae gennych hawl i ofyn am gopi o&#8217;r data personol sydd gennym amdanoch, drwy gysylltu \u00e2 ni gan ddefnyddio\u2019r cyfeiriad e-bost neu&#8217;r cyfeiriad post a nodwyd isod. Cofiwch gynnwys gwybodaeth gyda&#8217;ch cais a fydd yn ein galluogi i gadarnhau pwy ydych chi. Byddwn yn ymateb o fewn mis i&#8217;r cais. Cofiwch fod eithriadau i&#8217;r hawl hon. Mae\u2019n bosibl na fyddwn yn gallu darparu\u2019r holl ddata i chi os, er enghraifft, y byddai darparu&#8217;r data i chi yn datgelu data personol am berson arall, os yw\u2019r gyfraith yn ein hatal rhag datgelu data o&#8217;r fath, os nad oes sail dros eich cais, neu os yw eich cais yn ormodol.<\/p>\n<h3>Yr hawl i gywiro<\/h3>\n<p>Ein nod yw cadw eich data personol yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn. Rydym yn eich annog i gysylltu \u00e2 ni gan ddefnyddio&#8217;r manylion cyswllt isod i roi gwybod i ni os oes unrhyw ran o&#8217;ch data personol yn anghywir neu os bydd yn newid, er mwyn i ni allu diweddaru eich data personol.<\/p>\n<h3>Yr hawl i ddileu<\/h3>\n<p>Mae gennych hawl i ofyn am gael dileu eich data personol os, er enghraifft, nad yw&#8217;r data personol bellach yn angenrheidiol at y dibenion y cafodd ei gasglu, os byddwch chi&#8217;n tynnu\u2019n \u00f4l eich caniat\u00e2d iddo gael ei brosesu, os nad oes buddiant dilys trechol i ni barhau i brosesu eich data personol, neu os yw eich data personol wedi cael ei brosesu&#8217;n anghyfreithlon. Os hoffech chi wneud cais i&#8217;ch data personol gael ei ddileu, cysylltwch \u00e2 ni gan ddefnyddio&#8217;r manylion cyswllt isod.<\/p>\n<h3>Yr hawl i wrthwynebu<\/h3>\n<p>Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i wrthwynebu i\u2019ch data personol gael ei brosesu \u2013 er enghraifft, pan fydd eich data personol yn cael ei brosesu ar sail buddiannau dilys ac nad oes buddiant dilys trechol i ni barhau i brosesu eich data personol, neu os yw eich data&#8217;n cael ei brosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os hoffech chi wrthwynebu i\u2019ch data personol gael ei brosesu, cysylltwch \u00e2 ni gan ddefnyddio&#8217;r manylion cyswllt isod.<\/p>\n<h3>Yr hawl i gyfyngu ar brosesu<\/h3>\n<p>Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol ymhellach. Mae&#8217;r hawl hon yn codi pan fyddwch chi, er enghraifft, wedi cwestiynu cywirdeb y data personol sydd gennym amdanoch a\u2019n bod ni\u2019n gwirio&#8217;r data personol, pan fyddwch chi wedi gwrthwynebu prosesu ar sail buddiannau dilys a\u2019n bod ni&#8217;n ystyried a oes unrhyw fuddiannau dilys trechol, neu pan fydd y prosesu&#8217;n digwydd yn anghyfreithlon a&#8217;ch bod chi&#8217;n dewis cyfyngu ar brosesu yn hytrach na dileu. Os hoffech chi wneud cais o\u2019r fath, cysylltwch \u00e2 ni gan ddefnyddio&#8217;r manylion cyswllt isod.<\/p>\n<h3>Yr hawl i gludadwyedd data<\/h3>\n<p>Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn a fyddai modd i rywfaint o&#8217;ch data personol gael ei ddarparu i chi, neu i &#8216;reolydd&#8217; arall, mewn fformat cyffredin y gall peiriant ei ddarllen. Mae&#8217;r hawl hon yn codi pan fyddwch wedi darparu eich data personol i ni, gyda&#8217;r prosesu&#8217;n seiliedig ar gydsyniad neu gyflawni contract, a&#8217;r prosesu&#8217;n digwydd drwy ddulliau awtomatig. Os hoffech chi wneud cais o\u2019r fath, cysylltwch \u00e2 ni gan ddefnyddio&#8217;r manylion cyswllt isod.<\/p>\n<p>Cofiwch fod deddfau diogelu data perthnasol yn nodi eithriadau i&#8217;r hawliau hyn. Os na allwn gydymffurfio \u00e2\u2019ch cais oherwydd eithriad, byddwn yn egluro hyn i chi yn ein hymateb.<\/p>\n<h2>Cysylltu<\/h2>\n<p>Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad hwn, am y ffordd y mae City &amp; Guilds yn prosesu data personol drwy ein Gwefan, neu am arfer unrhyw un o&#8217;ch hawliau, gallwch anfon e-bost i <a href=\"mailto:dp@cityandguilds.com\">dp@cityandguilds.com<\/a>; neu ysgrifennu at Data Protection, City &amp; Guilds, Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, Llundain, EC1A 9DE.<\/p>\n<h2>Cwynion<\/h2>\n<p>Os ydych chi&#8217;n credu bod eich hawliau diogelu data wedi cael eu tanseilio, ac nad ydym wedi gallu lleddfu eich pryder, gallwch gyflwyno cwyn i&#8217;r awdurdod goruchwylio perthnasol neu geisio unioni\u2019r sefyllfa drwy&#8217;r llysoedd. Ewch i wefan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU i gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am bryder.<\/p>\n<h2>Newidiadau i&#8217;n Hysbysiad<\/h2>\n<p>Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i&#8217;n Hysbysiad yn y dyfodol yn cael eu nodi ar y Wefan hon a, phan fydd yn briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Cofiwch daro golwg ar y Wefan yn gyson i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i&#8217;n Hysbysiad.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<a class=\"read-more\" href=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd\">Read More &rarr;<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":{"0":"post-460","1":"page","2":"type-page","5":"odd"},"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Hysbysiad preifatrwydd | Sgiliau i Gymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae diogelu data yn fater hynod bwysig i City &amp; Guilds ac EAL, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored yngl\u0177n \u00e2\u2019n dull gweithredu ar gyfer preifatrwydd. Cliciwch i gael gwybod mwy.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Hysbysiad preifatrwydd | Sgiliau i Gymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae diogelu data yn fater hynod bwysig i City &amp; Guilds ac EAL, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored yngl\u0177n \u00e2\u2019n dull gweithredu ar gyfer preifatrwydd. Cliciwch i gael gwybod mwy.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Skills for Wales\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-02T11:57:53+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/hysbysiad-preifatrwydd\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/hysbysiad-preifatrwydd\",\"name\":\"Hysbysiad preifatrwydd | Sgiliau i Gymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-02-28T14:26:10+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-02T11:57:53+00:00\",\"description\":\"Mae diogelu data yn fater hynod bwysig i City & Guilds ac EAL, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored yngl\u0177n \u00e2\u2019n dull gweithredu ar gyfer preifatrwydd. Cliciwch i gael gwybod mwy.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/hysbysiad-preifatrwydd#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/hysbysiad-preifatrwydd\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/hysbysiad-preifatrwydd#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Hysbysiad preifatrwydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Skills for Wales\",\"description\":\"Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"City & Guilds - Skills For Wales\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"\",\"contentUrl\":\"\",\"caption\":\"City & Guilds - Skills For Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Hysbysiad preifatrwydd | Sgiliau i Gymru","description":"Mae diogelu data yn fater hynod bwysig i City & Guilds ac EAL, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored yngl\u0177n \u00e2\u2019n dull gweithredu ar gyfer preifatrwydd. Cliciwch i gael gwybod mwy.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Hysbysiad preifatrwydd | Sgiliau i Gymru","og_description":"Mae diogelu data yn fater hynod bwysig i City & Guilds ac EAL, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored yngl\u0177n \u00e2\u2019n dull gweithredu ar gyfer preifatrwydd. Cliciwch i gael gwybod mwy.","og_url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd","og_site_name":"Skills for Wales","article_modified_time":"2025-11-02T11:57:53+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd","name":"Hysbysiad preifatrwydd | Sgiliau i Gymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#website"},"datePublished":"2020-02-28T14:26:10+00:00","dateModified":"2025-11-02T11:57:53+00:00","description":"Mae diogelu data yn fater hynod bwysig i City & Guilds ac EAL, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored yngl\u0177n \u00e2\u2019n dull gweithredu ar gyfer preifatrwydd. Cliciwch i gael gwybod mwy.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/hysbysiad-preifatrwydd#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Hysbysiad preifatrwydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/","name":"Skills for Wales","description":"Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu","publisher":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#organization","name":"City & Guilds - Skills For Wales","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"","contentUrl":"","caption":"City & Guilds - Skills For Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/460","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=460"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/460\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3214,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/460\/revisions\/3214"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=460"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}