{"id":2779,"date":"2024-01-03T10:30:34","date_gmt":"2024-01-03T10:30:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/?p=2779"},"modified":"2024-01-03T10:31:39","modified_gmt":"2024-01-03T10:31:39","slug":"dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad","title":{"rendered":"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc sy\u2019n cael ei drafod a\u2019i dderbyn yn fwy agored mewn cymdeithas. Mae hyn hefyd yn digwydd yn y gweithle; fodd bynnag, mae\u2019r diwydiant adeiladu yn dal i boeni am y stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 datgelu cyflwr iechyd meddwl. Mae gwroliaeth (<em>machismo<\/em>) yn hollbresennol ym maes adeiladu, ac fe deimlir hynny gan y gweithwyr sy\u2019n ceisio cymorth ar gyfer yr hyn a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel \u2018epidemig tawel\u2019 (Stevenson a Farmer 2017).\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r canfyddiad bod y diwydiant yn y trydydd safle o ran y sector sy&#8217;n peri&#8217;r mwyaf o straen yn y Deyrnas Unedig \u2013 gyda 82% o weithwyr yn profi straen ar ryw adeg bob wythnos \u2013 yn ategu\u2019r angen am ddeialog gadarnhaol a newid agwedd ynghylch iechyd meddwl (Farrell 2018). Er bod cyfraddau adrodd yn codi, mae amharodrwydd i drafod iechyd meddwl yn agored yn y gweithle yn dal i fod (Van Ek a Le Feuvre 2021).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Adleisir y teimlad hwn gan Emma Mamo, Pennaeth Lles yn y Gweithle yn Mind, a dynnodd sylw at y diffyg parodrwydd i drafod iechyd meddwl mewn diwydiant sy\u2019n cael ei ddominyddu gan ddynion, fel adeiladu. Mae hyn, yn ei dro, yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod cyfraddau hunanladdiad yn dal yn syfrdanol o uchel ymysg crefftwyr y sector adeiladu yn y DU. Mae\u2019r ddelwedd ar y dudalen hon yn dangos murlun ac arno 687 o festiau llachar, sy\u2019n cynrychioli nifer cyfartalog y marwolaethau blynyddol oherwydd hunanladdiad ymysg crefftwyr yn y DU yn 2021.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/scaffmag.com\/2023\/05\/giant-vest-mural-shines-a-light-on-uk-trade-suicides\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Darllenwch yr erthygl<\/a>\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dynion sy\u2019n gweithio yn y diwydiant adeiladu dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na\u2019r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer dynion, ac mae mwy o weithwyr adeiladu\u2019n marw o ganlyniad i hunanladdiad nag o ganlyniad i syrthio bob blwyddyn, gyda dau berson yn gweithio yn y sector hwn yn colli eu bywydau oherwydd hunanladdiad bob dydd (APHC 2022). Mae hyn yn dangos bod angen newid a chael sgwrs agored am iechyd meddwl, gan fod 83% o bobl ym maes adeiladu wedi cael problem iechyd meddwl a 91% wedi teimlo eu bod wedi cael eu llethu (APHC 2022). Nid yw\u2019r ystadegau hyn yn rhywbeth y gallwn fforddio ei anwybyddu.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Her arall yw bod y ddyletswydd gofal mewn deddfwriaeth bresennol yn rhoi pwyslais ar iechyd corfforol. Byddai ymgorffori iechyd meddwl o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (HASAWA), a gwneud materion iechyd meddwl sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gwaith yn rhai y mae modd adrodd arnynt o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR), yn amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl ac yn ei wneud yn gydradd ag iechyd corfforol. Byddai newid deddfwriaethol yn gorfodi\u2019r cwricwlwm addysg presennol i ddarparu ar gyfer y newidiadau (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae addysg yn hanfodol i wella ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg cyflogwyr a gweithwyr, ac nid yn y gweithle yn unig, ond hefyd drwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn meithrin diwylliant o ddeall a derbyn yn gymdeithasol, gan gefnogi\u2019r newid is-ddiwylliannol sy\u2019n dechrau dod i\u2019r amlwg (Van Ek a Le Feuvre 2021).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae newid ar y gorwel, wrth i agweddau a chanfyddiadau esblygu, ond mae&#8217;n araf \u2013 ac mae rhwystrau i&#8217;w goresgyn o hyd: ofni stigma, cywilydd a gweithwyr yn dewis bod yn hunanddibynnol (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae&#8217;n deg dweud bod llu o ymgyrchoedd wedi cael eu cynnal, gyda&#8217;r nod o godi proffil iechyd meddwl a chreu amgylchedd llawer mwy agored sy&#8217;n annog diwylliant o gefnogi a thrafod. Yn yr un modd, mae nifer o sefydliadau sy\u2019n helpu gweithwyr adeiladu mewn ffyrdd cadarnhaol ac sy\u2019n cynnig amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol. Mae angen i ni godi proffil iechyd meddwl a gwaith y sefydliadau hyn ymysg dysgwyr, gan mai nhw sydd ar lawr gwlad ac yn gallu rhannu neges gadarnhaol, yn ogystal \u00e2 meithrin newid i gefnogi\u2019r datblygiadau arloesol sydd eisoes yn dod i\u2019r amlwg.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n anorfod y bydd trawsnewid diwylliant diwydiant cyfan yn cymryd amser, ond gyda dull amlochrog a chefnogaeth barhaus, mae newid yn bosibl. Mae gennym ni&#8217;r momentwm, felly gadewch i ni ei ddefnyddio fel grym ar gyfer gwelliant cadarnhaol a pharhaol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhif Cyswllt y Samariaid:<\/strong> 116 123<br><strong>Gwefan y Samariaid:<\/strong> <br><a href=\"http:\/\/www.samaritans.org\/how-we-can-help\/contact-samaritan\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.samaritans.org\/how-we-can-help\/contact-samaritan\/<\/a> (Saesneg)\u00a0<br><a href=\"http:\/\/www.samaritans.org\/cymru\/how-we-can-help\/contact-samaritan\/welsh-language-phone-line\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.samaritans.org\/cymru\/how-we-can-help\/contact-samaritan\/welsh-language-phone-line\/<\/a> (Cymraeg)\u00a0<br><strong>Rhif Cyswllt Mind<\/strong>: 0300 123 3393<br><strong>Gwefan Mind:<\/strong> <a href=\"http:\/\/www.mind.org.uk\/need-urgent-help\/using-this-tool\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.mind.org.uk\/need-urgent-help\/using-this-tool\/<\/a><br><strong>Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu:<\/strong> 0345 605 1956<br><strong>Tecstiwch:<\/strong> HARDHAT i 85258<br><strong>Ap Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu:<\/strong> Chwiliwch am: Construction Industry Helpline<br><strong>Gwefan y Diwydiant Adeiladu:<\/strong> <a href=\"http:\/\/www.constructiondustryhelpline.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.constructiondustryhelpline.com<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/image-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2781\" srcset=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/image-1024x1024.png 1024w, https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/image-700x700.png 700w, https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/image-350x350.png 350w, https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/image-768x768.png 768w, https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/image.png 1080w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Photo: Ironmongery direct<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae Diwydiant Adeiladu Mwy Amrywiol yn Ddiwydiant Adeiladu Cryfach\u00a0\u00a0<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall bod yn fwy cynhwysol a hyrwyddo amrywiaeth helpu i gau\u2019r bwlch sgiliau&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r sector adeiladu\u2019n chwarae rhan hollbwysig yn economi\u2019r DU, gan gyfrannu \u00a3110 biliwn y flwyddyn \u2013 7% o\u2019r cynnyrch domestig gros (GDP) \u2013 a darparu gwaith i oddeutu 3.1 miliwn o unigolion, sy\u2019n cyfrif am tua 9% o gyfanswm cyflogaeth y DU. Yn anffodus, mae\u2019r diwydiant hwn yn wynebu argyfwng sylweddol y mae cofnod da ohono: y \u2018bwlch sgiliau\u2019.&nbsp; Mae 22% o\u2019r gweithlu presennol dros 50 oed ac mae 15% yn eu 60au. Ar yr un pryd, yn y farchnad lafur bresennol, mae\u2019r diwydiant hefyd yn colli gweithwyr iau i sectorau sy\u2019n cystadlu ag ef, lle mae\u2019r gwaith yn cael ei ystyried yn fwy sefydlog neu\u2019n fwy atyniadol a lle mae\u2019r cyflogau\u2019n fwy cystadleuol (constructionmaguk.co.uk 2023). Yn yr un modd, esboniodd Minett (2021) bod y cenedlaethau iau o\u2019r farn gyffredinol yw nad yw gweithio ym maes adeiladu yn ddymunol. Mae arolygon barn yn dangos mai dim ond 5% o ddysgwyr sy\u2019n ystyried dilyn rolau yn y sector.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth Evans (RICS 2019) ein hatgoffa bod her i\u2019w goresgyn o ran esbonio i bobl ifanc beth sy\u2019n ddeniadol am adeiladu. Ar ben hynny, awgrymodd Minett (2021) fod Brexit wedi cyflwyno cymhlethdodau newydd i wladolion yr UE sy&#8217;n chwilio am waith yn y DU, gan fynnu eu bod yn mynd drwy broses ymgeisio fisa ddrud a chymhleth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae RICS (2019) wedi tynnu sylw at heriau eraill mae&#8217;r diwydiant yn eu hwynebu. Er enghraifft, fel y soniwyd o\u2019r blaen, mae canfyddiad nad yw swyddi o reidrwydd mor ddiogel \u00e2&#8217;r swyddi mewn diwydiannau eraill. Os na roddir sylw i\u2019r bwlch sgiliau hwn, gallai achosi oedi gyda phrosiectau a risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch, oherwydd bod angen defnyddio gweithwyr dibrofiad, a bod pwysau ar led yr elw presennol ac amserlenni tynn (<em>On-Site Magazine<\/em> 2022).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, beth yw\u2019r atebion i\u2019r broblem hon? Sut ydyn ni\u2019n denu\u2019r genhedlaeth nesaf o dalent i\u2019n diwydiant er mwyn iddyn nhw allu disodli ein gweithlu sy\u2019n heneiddio? Wrth ystyried gofynion cynyddol sector adeiladu\u2019r DU, amcangyfrifir bod angen cymaint \u00e2 266,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2026 i fodloni\u2019r cwota hwn yn ddigonol (Maggiaini 2022). Mae gennym ni&#8217;r hen ddulliau a ddefnyddir yn aml, sef addysg a chodi ymwybyddiaeth. Mae\u2019r rhain yn adnabyddus, gan eu bod yn gweithio, ond mae angen mwy o bresenoldeb mewn lleoliadau addysgol. Gall cydweithio \u00e2 sefydliadau a chynnig rhaglenni lle cyflwynir pynciau sy\u2019n gysylltiedig ag adeiladu ennyn diddordeb a darparu profiadau ymarferol, yn ogystal \u00e2 hyrwyddo effaith gadarnhaol adeiladu, fel creu strwythurau eiconig a chyfrannu at gymunedau lleol. Bydd hyn i gyd yn helpu i feithrin ymdeimlad o bwrpas a balchder ymysg darpar weithwyr proffesiynol (Approach Personnel 2023).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ffordd arall yw mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r diffyg amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae goresgyn delwedd hanesyddol y diwydiant o fod yn un sy\u2019n cael ei ddominyddu gan ddynion yn nod sylweddol, oherwydd efallai na fydd menywod yn ystyried adeiladu fel llwybr gyrfa sy\u2019n apelio atynt oherwydd y rhagdybiaethau, fel yr oriau hir ac chyfran y dynion gwyn h\u0177n yn y maes. Mae menywod yn cyfrif am ychydig o dan hanner cyfanswm gweithlu\u2019r DU ond dim ond 11% o\u2019r gweithlu adeiladu, a dim ond 1% o\u2019r gweithwyr ar safleoedd adeiladu (Cyngor y Diwydiant Adeiladu 2023). Mae gan y diwydiant adeiladu broblem amrywiaeth yn gyffredinol, gyda dim ond 5.4% o\u2019i weithwyr yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae cyfraith bresennol y DU yn gwarchod grwpiau lleiafrifol rhag gwahaniaethu, ond nid yw&#8217;n ofyniad cyfreithiol i fonitro amrywiaeth yn y gweithle ac nid yw\u2019n orfodol ymgymryd \u00e2 hyfforddiant ar amrywiaeth na pholis\u00efau gwrth-gamwahaniaethol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda chyfran sylweddol o\u2019r diwydiant adeiladu yn ddynion gwyn, mae risg sylweddol o ragfarn ddiarwybod wrth wneud penderfyniadau, a thuedd i ddiwylliannau gael eu siapio o amgylch y farn fwyafrifol (Sefydliad Siartredig Adeiladu 2023). Gall hyn arwain at ddiwylliant yn y gweithle lle mae ymddygiad ac iaith amhriodol yn cael eu hystyried yn arfer \u2018normal\u2019, gan roi\u2019r argraff i&#8217;r rheini sy&#8217;n wynebu&#8217;r ymddygiad hwn nad adeiladu yw\u2019r llwybr gyrfa iddynt. Mae\u2019r bwlch sgiliau yn fater cyfredol y mae angen mynd i\u2019r afael ag ef, a gallai dod yn fwy amrywiol a chynhwysol fynd ymhell i gynnal ein diwydiant.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, mae Cyngor y Diwydiant Adeiladu (2023) wedi awgrymu bod angen newid diwylliannol; dylid cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac i gael eu haddysgu am fanteision gweithlu amrywiol. Mae newid amlwg yr oedd mawr ei angen wedi bod ym maes adeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf \u2013 tuag at ddeall yn well a derbyn manteision Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae ymchwil wedi dangos bod hyn yn wir dro ar \u00f4l tro: mae cwmn\u00efau rhywedd-amrywiol 14% yn fwy tebygol o berfformio\u2019n well na chwmn\u00efau nad ydynt yn gwmn\u00efau amrywiol, ac mae gweithleoedd ethnig amrywiol 35% yn fwy tebygol o berfformio\u2019n well (NCFD 2016).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019r gwelliannau clir a phendant hyn mewn canlyniadau, mae angen i\u2019r diwydiant adeiladu weithredu\u2019n gyflym i sicrhau\u2019r manteision hyn. Eglurodd CIOB (2023) os yw\u2019r diwydiant am wireddu ei uchelgeisiau i fod yn fwy cynhwysol a mwy amrywiol, mae angen i newid ddechrau gydag arweinyddiaeth. Mae gan arweinwyr botensial enfawr i ddylanwadu ar eraill drwy eu hagweddau cynhwysol, cefnogol a pharchus eu hunain. Mae mwy o hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac ymwybyddiaeth o\u2019r rhain, wedi\u2019i gysylltu ag ymddygiad cadarnhaol a newid diwylliannol. Ar ben hynny, dylai rhaglenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant bennu disgwyliadau a safonau, goblygiadau sawl math o ragfarn, a\u2019r effaith y mae systemau, prosesau a diwylliannau sefydliadau yn ei chael o ran naill ai creu neu annog cynhwysiant (CIOB 2023).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Fel sector sydd \u00e2 phrinder sgiliau ar y gorwel, dylai cwmn\u00efau adeiladu fod yn ystyried ffyrdd o annog mwy o bobl nag erioed i ddilyn gyrfa yn y diwydiant. Gallai agor cyfleoedd i ymgeiswyr amrywiol, a allai fod wedi teimlo eu bod wedi\u2019u heithrio neu nad oes croeso iddynt yn y diwydiant adeiladu, fod yn ateb i\u2019r prinder sgiliau ac i wella amrywiaeth yn y gweithle (Mintett 2021).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, dim ond hanner y gwaith yw annog grwpiau amrywiol i ymuno \u00e2\u2019r diwydiant adeiladu. Efallai mai\u2019r cymhelliant mwyaf i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch sgiliau hwn yw gweld amrywiaeth yn llwyddo ar waith. Mae ehangu\u2019r gronfa dalent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni hyn, gan y bydd yn galluogi gweithwyr \u00e2 phrofiad helaeth sydd heb gael eu cyrraedd o\u2019r blaen \u2013 yn ogystal \u00e2 thalent newydd sydd \u00e2 sgiliau cyfredol a safbwyntiau arloesol \u2013 i hybu cynhyrchiant, grymuso creadigrwydd a gwella perfformiad masnachol (Maggiaini 2022). Gwelir yr effaith gylchol wrth i arallgyfeirio\u2019r gweithlu adeiladu arwain at fwy o anogaeth i Bobl Ddu, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a menywod ymuno \u00e2\u2019r diwydiant. O ganlyniad, mae angen ymrwymiad parhaus i feithrin diwylliant cynhwysol sy\u2019n cymell unigolion amrywiol i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae adeiladu\u2019n dal yn hollbwysig i greu a chynnal ein hamgylchedd adeiledig; rydyn ni&#8217;n byw mewn cymdeithasau amrywiol a chynhwysol ac mae angen i\u2019r gwaith adeiladu adlewyrchu hyn. Gan fod cymaint o wybodaeth a phrofiad yn cael eu colli o\u2019n diwydiant drwy boblogaeth waith sy\u2019n heneiddio, mae \u2018cyfle rhagorol\u2019 i newid y diwylliant a symud tuag at ddiwydiant mwy amrywiol a chynhwysol sy\u2019n denu pobl o drawstoriad o gymdeithas, ac sy\u2019n gwerthfawrogi eu safbwyntiau, eu profiadau a\u2019u syniadau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae paratoi ar gyfer dyfodol adeiladu yn y DU yn golygu cydweithio rhwng y llywodraeth, arweinwyr y diwydiant a sefydliadau addysgol. Gall mentrau ar y cyd sy\u2019n cefnogi grwpiau sy\u2019n cael eu tangynrychioli ac yn cael gwared ar rwystrau rhag mynediad feithrin cyfleoedd cyfartal, codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd adeiladu, a thynnu sylw at botensial y diwydiant ar gyfer twf ac arloesi.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<a class=\"read-more\" href=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\">Read More &rarr;<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":2514,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[2],"tags":[],"class_list":{"0":"post-2779","1":"post","2":"type-post","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","7":"category-uncategorized-cy","8":"odd"},"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad | Skills for Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad | Skills for Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Trafodaeth am iechyd meddwl, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a\u2019r prinder sgiliau sydd ar y gorwel.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Skills for Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-01-03T10:30:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-01-03T10:31:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/shutterstock_1306645942.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"500\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"334\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Eugene Manafa\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Eugene Manafa\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\"},\"author\":{\"name\":\"Eugene Manafa\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/db91ca30a2b9c9504d224e7c9fa8e2b4\"},\"headline\":\"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad\",\"datePublished\":\"2024-01-03T10:30:34+00:00\",\"dateModified\":\"2024-01-03T10:31:39+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\"},\"wordCount\":2124,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/04\\\/shutterstock_1306645942.jpg\",\"articleSection\":[\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\",\"name\":\"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad | Skills for Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/04\\\/shutterstock_1306645942.jpg\",\"datePublished\":\"2024-01-03T10:30:34+00:00\",\"dateModified\":\"2024-01-03T10:31:39+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/04\\\/shutterstock_1306645942.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/04\\\/shutterstock_1306645942.jpg\",\"width\":500,\"height\":334,\"caption\":\"A Spotlight on Green and Sustainability in Construction\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/2024\\\/01\\\/03\\\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Skills for Wales\",\"description\":\"Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"City & Guilds - Skills For Wales\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"\",\"contentUrl\":\"\",\"caption\":\"City & Guilds - Skills For Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/db91ca30a2b9c9504d224e7c9fa8e2b4\",\"name\":\"Eugene Manafa\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.skillsforwales.wales\\\/cy\\\/author\\\/eugene-manafa\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad | Skills for Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad | Skills for Wales","og_description":"Trafodaeth am iechyd meddwl, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a\u2019r prinder sgiliau sydd ar y gorwel.","og_url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad","og_site_name":"Skills for Wales","article_published_time":"2024-01-03T10:30:34+00:00","article_modified_time":"2024-01-03T10:31:39+00:00","og_image":[{"width":500,"height":334,"url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/shutterstock_1306645942.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Eugene Manafa","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Eugene Manafa","Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad"},"author":{"name":"Eugene Manafa","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#\/schema\/person\/db91ca30a2b9c9504d224e7c9fa8e2b4"},"headline":"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad","datePublished":"2024-01-03T10:30:34+00:00","dateModified":"2024-01-03T10:31:39+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad"},"wordCount":2124,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/shutterstock_1306645942.jpg","articleSection":["Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad","name":"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad | Skills for Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/shutterstock_1306645942.jpg","datePublished":"2024-01-03T10:30:34+00:00","dateModified":"2024-01-03T10:31:39+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#primaryimage","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/shutterstock_1306645942.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/shutterstock_1306645942.jpg","width":500,"height":334,"caption":"A Spotlight on Green and Sustainability in Construction"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/2024\/01\/03\/dim-mwy-o-ddal-ein-tafod-mae-angen-i-ni-siarad#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/","name":"Skills for Wales","description":"Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu","publisher":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#organization","name":"City & Guilds - Skills For Wales","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"","contentUrl":"","caption":"City & Guilds - Skills For Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/#\/schema\/person\/db91ca30a2b9c9504d224e7c9fa8e2b4","name":"Eugene Manafa","url":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/author\/eugene-manafa"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2779","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2779"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2779\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2785,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2779\/revisions\/2785"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2514"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2779"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2779"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2779"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}