Cylchlythyr Sgiliau i Gymru – Gwanwyn 2021 rhifyn

Read more

June 23rd, 2021

Croeso i’n Cylchlythyr Sgiliau i Gymru, thema’r cylchlythyr cychwynnol hwn yw Adeiladu Treftadaeth:

  • Casgliad o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol y gellir eu defnyddio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  • Dolenni at adnoddau perthnasol
  • Cysylltiadau defnyddiol yn y diwydiant
  • Manylion digwyddiadau, cyflenwyr a hyfforddiant
  • Datblygiadau newydd yn y diwydiant a fydd yn helpu i ddarparu cyrsiau Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.

Thema’r Cylchlythyr cychwynnol hwn yw Adeiladu Treftadaeth.

Cysylltwch i roi gwybod i ni pa themâu eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yn y diweddariad chwarterol hwn i’r diwydiant.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r Cylchlythyr hwn, ond os byddai’n well gennych beidio â’i dderbyn yn y dyfodol, cliciwch ar y botwm ‘dad-danysgrifio’ isod.

Gwych ac Am Ddim! – Adnoddau dysgu ar-lein

Os ydych chi’n chwilio am adnoddau rhyngweithiol i helpu eich dysgwyr i ddeall hen adeiladau – dyma’r lle i chi!

Mae tri modiwl wedi cael eu datblygu diolch i’r Prosiect Adeiladu Treftadaeth yng Nghymru (HECW) a ariennir gan CITB.

Dyma’r modiwlau:

Mae pob modiwl ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe’i hanelir at lefel ragarweiniol o ddealltwriaeth. Mae’r adnoddau hyn am ddim i chi eu defnyddio drwy glicio ar y penawdau uchod.

Olion Rhufeinig prin

Beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n darganfod olion Rhufeinig prin ar safle eich datblygiad tai newydd?

Cliciwch yma i weld y stori lawn ac i gael gwybod mwy am sut mae archaeolegwyr a datblygwyr yn cydweithio i warchod ein treftadaeth.

Hyfforddiant i’r Hyfforddwyr

Mae tiwtoriaid o Goleg Sir Benfro wedi ymuno â thîm Canolfan Tywi ar gyfer y gyntaf mewn cyfres o bum sesiwn hyfforddi treftadaeth. Mae’r tiwtoriaid i gyd yn hynod fedrus a phrofiadol ond roeddent eisiau gloywi eu sgiliau adeiladu treftadaeth er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau yn y cwricwlwm.

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd yr holl fyfyrwyr newydd ym maes Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig yn cael eu dysgu am bwysigrwydd adeiladau hanesyddol yng Nghymru. Byddant yn dysgu sut mae gofalu amdanynt a’u hatgyweirio yn wahanol i ddulliau adeiladu modern. 

Mae’r pynciau yn y gyfres hon o hyfforddiant DPP yn cynnwys:

  • Gwarchod hen adeiladau yng Nghymru: y Rhesymeg
  • Mecanwaith Hen Adeiladau
  • Deunyddiau a dulliau ar gyfer adeiladau traddodiadol
  • Cynaliadwyedd: y persbectif mwy eang a goblygiadau’r sector adeiladu
  • Effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod: y manylion adeiladu

Mae’r cyrsiau’n sesiynau hanner diwrnod a ddarperir ar-lein. Mae Canolfan Tywi hefyd yn datblygu adnoddau i’r Tiwtoriaid eu defnyddio gyda’u dysgwyr. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Tywi a’u cyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwr, cliciwch yma i fynd i’w gwefan.

Ffilmiau byr i gefnogi hyfforddiant adeiladu treftadaeth

Mae cyfres o ffilmiau byr wedi cael eu cynhyrchu gan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru i gefnogi darparwyr hyfforddiant gyda’u darpariaeth.

Mae’r ffilmiau byr yn cynnwys:

Cliciwch ar y dolenni uchod i weld y ffilmiau.

Newid yn yr hinsawdd ac adfer adeiladau – beth yw’r cysylltiad?

Mae sawl rheswm dros ofalu’n briodol am ein hen adeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys rhesymau diwylliannol gan fod gan hen adeiladau gysylltiadau â’r bobl a oedd yn byw neu’n gweithio yno ar un adeg. Maent yn creu cymeriad ac ymdeimlad o le yn lleol. Mae ganddynt werth economaidd gan eu bod yn denu twristiaid ac yn cynnig cymeriad a chynhesrwydd i adeiladau busnes. 

Mae ymchwil gynnar hefyd yn dangos bod ailddefnyddio ac uwchraddio ein stoc o hen adeiladau mewn modd priodol yn gallu creu arbedion carbon sylweddol. I ddysgu mwy am yr ymchwil hon, dilynwch y ddolen yma.

Hyfforddiant Treftadaeth Arbenigol yng Nghymru

Defnyddiwch y dolenni isod i’ch helpu i ddod o hyd i’r Hyfforddiant Adeiladu Treftadaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch.

Mae Grŵp Cenedlaethol Hyfforddi Towyr Cymru yn sefydliad di-elw, sy’n cael ei ariannu gan grant gan CITB. Mae wedi’i sefydlu er mwyn cefnogi, trefnu a chydlynu hyfforddiant toi ar bob lefel ar gyfer ei aelodau. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant toi treftadaeth achrededig. 

Mae Canolfan Tywi yn Sefydliad Hyfforddi Achrededig gan CITB. Mae’n darparu amrywiaeth o gyrsiau adeiladu treftadaeth. I gael manylion eu cyrsiau ymarferol ar blastro calch, gwaith maen a gwaith coed, cliciwch ar y ddolen hon.

Mae gwefan Historic England yn cynnig cronfa enfawr o adnoddau hyfforddi o reoli treftadaeth yn gyffredinol, cadwraeth adeiladau technegol a chyfresi hinsawdd a threftadaeth. Gallwch hefyd archwilio modiwlau e-ddysgu manwl neu ddysgu am reoli prosiectau ar gyfer treftadaeth.

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu

I unrhyw un sy’n ymwneud â gosod gwasanaethau adeiladu mewn Adeiladau Traddodiadol, mae cyfoeth o gyngor ac arweiniad ar gael ar wefan Historic England.

Mae gan wefan Historic England adran benodol ar gyfer peirianneg gwasanaethau adeiladu.

Yma gallwch ddod o hyd i gyngor ar arolygon ac ymchwiliadau cyflwr sef y camau cyntaf wrth ddisodli neu osod gwasanaethau adeiladu newydd neu gynllunio rhaglen cynnal a chadw. Mae cyflwyniad i’r egwyddorion craidd wrth Gosod gwasanaethau adeiladu newydd ynghyd â chyngor ar Cynnal a chadw systemau gwasanaethau adeiladu yn dda mewn adeiladau hanesyddol.

Gallwch hefyd gael mynediad at gyfres o weminarau sy’n cael eu cyflwyno a’u recordio gan Historic England ar thema Gwasanaethau Adeiladu. Mae rhain yn cynnwys: