Mae’r telerau ac amodau hyn o ran defnyddio’r wefan (“Telerau”) yn golygu eich defnydd chi o www.www.skillsforwales.wales (“y Wefan”). Drwy fynd i’r Wefan, rydych yn cytuno i gadw at y Telerau hyn.
Gwybodaeth amdanom ni
a. Mae’r Wefan yn cael ei gweithredu gan sefydliad City & Guilds o Lundain (“City & Guilds”) a chwmni Excellence, Achievement and Learning Limited (“EAL”) (“rydym” neu “ein” neu “ni”). Mae City & Guilds yn elusen wedi’i hymgorffori gan y Siarter Frenhinol, a’i rhif cofrestru yw 312832 (Cymru a Lloegr) a SC039576 (Yr Alban). Cyfeiriad cofrestredig City & Guilds yw Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, Llundain EC1A 9DE. Rhif TAW City & Guilds yw 788 6564 55. Mae EAL yn gwmni wedi’i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru’r cwmni 02700780. Mae swyddfa gofrestredig EAL yn EAL, Uned 2, The Orient Centre, Greycaine Road, Watford, Herts, WD24 7GP. Rydym yn cael ein rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau.
2. Gwybodaeth Bersonol
a. Os byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, byddwn yn gwneud hynny’n unol â’n polisi preifatrwydd.
3. Mynd ar y Wefan
a. Gallwn atal dros dro, diwygio, neu dynnu unrhyw wasanaeth neu gynnwys sy’n cael ei ddarparu ar neu drwy’r Wefan heb rybudd.
b. Gallwn gyfyngu ar fynediad defnyddwyr sydd wedi cofrestru â ni i’r Wefan (yn gyfan gwbl neu’n rhannol).
c. Os ydych chi’n dewis enw defnyddiwr, cyfrinair neu wybodaeth ddiogelwch arall, neu’n cael un ohonynt, mae’n rhaid i chi drin y wybodaeth honno’n gyfrinachol. Gallwn analluogi unrhyw enw defnyddiwr neu gyfrinair unrhyw bryd os ydyn ni’n credu eich bod chi’n torri’r Telerau hyn.
4. Hawliau eiddo deallusol
a. City & Guilds neu EAL yw perchennog, neu trwyddedai awdurdodol, holl hawliau eiddo deallusol y Wefan, a’r cynnwys sydd ar gael ar y Wefan. Mae gwaith o’r fath yn cael ei ddiogelu gan gyfraith hawlfraint a chytuniadau ledled y byd. Mae pob hawl o’r fath wedi’i chadw.
b. Gellir gweld, gwrando, lawrlwytho ac argraffu cynnwys oddi ar y Wefan er mwyn darparu hyfforddiant ac addysg sy’n ymwneud â’r cymwysterau’n unig.
c. Ni chewch ddefnyddio, copïo, dosbarthu, gwerthu, trwyddedu na rhyddhau unrhyw gynnwys y Wefan at unrhyw ddiben arall, yn enwedig at ddibenion masnachol, heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni i wneud hynny yn gyntaf.
d. Os hoffech holi ynghylch defnyddio unrhyw gynnwys ar y Wefan, cysylltwch â digitalmarketing@cityandguilds.com.
5. Nodau masnach
a. Mae ‘City & Guilds’ yn nod masnach cofrestredig ar gyfer Sefydliad City & Guilds o Lundain, ac ni ellir ei ddefnyddio, mewn unrhyw ffordd, heb gael trwydded nod masnach ysgrifenedig gennym ni yn gyntaf. Os hoffech holi ynghylch defnyddio nod masnach sy’n eiddo i ni, cysylltwch â digitalmarketing@cityandguilds.com.
b. Mae ‘EAL’ yn nod masnach cofrestredig, ac ni ellir ei ddefnyddio, mewn unrhyw ffordd, heb gael trwydded nod masnach ysgrifenedig gennym ni yn gyntaf. Os hoffech holi ynghylch defnyddio nod masnach sy’n eiddo i ni, cysylltwch â digitalmarketing@cityandguilds.com.
6. Dolenni i’r wefan
a. Gallwch greu dolen i dudalen ar y Wefan ar yr amod na fyddwch yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth nac ardystiad gennym ni pan nad ydym wedi rhoi hynny.
b. Ni ddylid fframio’r Wefan ar unrhyw wefan arall.
7. Dolenni o’r Wefan
a. Mae dolenni o’r Wefan i wefannau trydydd parti yno at ddibenion cyfeirio yn unig. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys nac argaeledd y gwefannau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt.
8. Ein Hatebolrwydd
a. Mae’r cynnwys sydd ar gael ar y Wefan er gwybodaeth i chi yn unig ac er mwyn rhoi gwybodaeth i chi amdanom ni, ein cynnyrch a’n gwasanaethau, newyddion, nodweddion a gwefannau a gwasanaethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Nid yw’n cynnwys cyngor technegol, ariannol na chyfreithiol nac unrhyw fath arall o gyngor, ac ni ddylech ddibynnu arnyn nhw.
b. I’r graddau y caniateir drwy gyfraith, dyma rydyn ni’n eu heithrio’n benodol:
i. yr holl amodau, gwarantau a’r holl delerau eraill a allai cael eu gosod yn statudol, gan gyfraith gyffredin neu gyfraith tegwch;
ii. unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol gan unrhyw ddefnyddiwr yng nghyswllt y Wefan a/neu mewn cysylltiad â defnyddio, neu anallu i ddefnyddio’r Wefan, gan gynnwys (heb gyfyngiad) unrhyw atebolrwydd am golli: incwm neu refeniw; busnes; elw; contractau; arbedion disgwyliedig; data; ewyllys da; amser rheoli neu swyddfa; ac am unrhyw fath arall o golled neu ddifrod, sut bynnag y bydd yn codi ac os bydd yn cael ei achosi gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri’r contract neu gan unrhyw beth arall, hyd yn oed os oes modd ei ragweld.
Nid yw’r ddarpariaeth hon yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth nac anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, atebolrwydd am gam-gynrychioli neu gan gam-gynrychioli twyllodrus; neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan gyfraith berthnasol.
9. Feirysau
a. Ni ddylech gamddefnyddio’r Wefan drwy gyflwyno firysau cyfrifiadur na deunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’r Wefan, y gweinydd y mae’r Wefan wedi’i chadw arno, nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r Wefan.
b. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled na difrod sy’n cael ei achosi gan unrhyw firws na deunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio cyfarpar y cyfrifiadur oherwydd eich defnydd o’r Wefan, neu oherwydd eich bod chi wedi lawrlwytho unrhyw ddeunydd sydd wedi’i rannu arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.
10. Amrywiad
a. Gallwn newid y Telerau hyn o bryd i’w gilydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Telerau hyn yn rheolaidd gan y byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi derbyn amrywiad os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r Wefan ar ôl i unrhyw amrywiad gael ei bostio.
11. Cysylltu â ni
a. Os oes gennych unrhyw bryderon am gynnwys sydd ar y Wefan, cysylltwch â digitalmarketing@cityandguilds.com.
12. Y gyfraith berthnasol
a. Dylid llywodraethu a dehongli’r Telerau hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n ymwneud â nhw neu eu pwnc yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 28/2/2020.
This page was last updated on 05/03/2020 at 16:40 pm