Mae City & Guilds ac EAL yn ystyried diogelu data yn fater difrifol, ac yn ymroi i fod yn onest am sut rydym yn ymdrin â phreifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma’n nodi sut byddwn yn trin y data personol y byddwch chi’n ei roi i ni gan ddilyn cyfraith berthnasol ar ddiogelu data, yn enwedig y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016/679 (“GDPR”).
Pwy ydyn ni?
Mae Sefydliad City and Guilds o Lundain (“City & Guilds”) a chwmni Excellence, Achievement and Learning Limited (“EAL”) ill dau yn ‘rheolwyr data’ annibynnol o’r data personol byddwch chi’n ei roi i ni yng nghyswllt darparu cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru drwy Ganolfannau a Gymeradwywyd gan EAL a City & Guilds.
Mae City & Guilds yn elusen wedi’i hymgorffori gan y Siarter Frenhinol, a’i rhif cofrestru yw 312832 (Cymru a Lloegr) a SC039576 (Yr Alban). Cyfeiriad cofrestredig City & Guilds yw Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, Llundain EC1A 9DE. Os oes gennych chi gwestiynau am y Polisi hwn, neu’r modd y mae City & Guilds yn prosesu data personol, neu ynghylch rhoi eich hawliau ar waith, anfonwch neges e-bost at gdpr@cityandguilds.com neu ysgrifennwch at Data Protection, City & Guilds, Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, Llundain EC1A 9DE.
Mae EAL yn gwmni wedi’i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru’r cwmni 02700780. Mae swyddfa gofrestredig EAL yn EAL, Uned 2, The Orient Centre, Greycaine Road, Watford, Herts, WD24 7GP. Gallwch gysylltu â nhw drwy anfon e-bost at gdpr@eal.org.uk neu ysgrifennu at y Pennaeth Rheoleiddio a Llywodraethu (The Head of Governance and Regulation), Data Protection, EAL Ltd, Unit 2, The Orient Centre, Greycaine Road, Watford, WD24 7GP.
Pa ddata personol rydym ni’n ei gasglu?
Os byddwch yn holi neu’n cofrestru i gael ein cynnyrch a’n gwasanaethau, byddwn yn casglu eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a’ch swydd. Ni fyddwn yn casglu data personol sensitif amdanoch chi.
At ba ddibenion y byddwn ni’n defnyddio eich data personol?
Dibenion contract
Os ydych chi wedi cofrestru i gael ein cynnyrch a’n gwasanaethau, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:
- darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau i chi yn unol â’r contract;
- cyfathrebu â chi yng nghyswllt darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau dan gontract;
- anfon cylchlythyrau, arolygon, digwyddiadau, cynigion, gwybodaeth hyrwyddo atoch chi sy’n gysylltiedig â’r nwyddau a’r gwasanaethau a mathau eraill o gynnyrch a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi; a
- cyfathrebu â chi at ddibenion gweinyddol fel creu cyfrif, diogelwch a chymorth.
Buddiannau dilys
Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol at ddibenion sydd o fewn ein buddiannau dilys, gan gynnwys:
- anfon cylchlythyrau, arolygon, digwyddiadau, cynigion, gwybodaeth hyrwyddo atoch chi sy’n gysylltiedig â’n nwyddau a’n gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi;
- gwella ansawdd y profiad wrth i chi ddefnyddio ein nwyddau a’n gwasanaethau, gan gynnwys profi gwahanol ddyluniadau tudalen i weld pa un sydd orau;
- dadansoddi data, i weld pa mor effeithiol yw ymgyrchoedd hyrwyddo.
Efallai bydd gennych yr hawl i wrthwynebu’r prosesu hyn os dyna yw eich dymuniad. Mae rhagor o wybodaeth isod o dan y pennawd Eich Hawliau.
Negeseuon marchnata
Os ydych chi wedi datgan eich caniatâd i gael negeseuon marchnata, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:
- anfon cylchlythyrau, arolygon, digwyddiadau, cynigion, gwybodaeth hyrwyddo atoch chi sy’n gysylltiedig â’n nwyddau a’n gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi;
- datblygu, gwella, ac anfon deunydd marchnata a hysbysebu ar gyfer y cynnyrch a’r gwasanaethau.
Dibenion cyfreithiol
Efallai hefyd y byddwn yn prosesu eich data personol os bydd angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, gan gynnwys ymateb i geisiadau gan awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu’r llywodraeth, neu er mwyn atal troseddau neu dwyll.
Pa mor hir byddwn ni’n cadw eich data personol?
Byddwn yn cadw eich data personol dros gyfnod y contract ac am 6 blynedd ar ôl i’r contract ddod i ben neu gael ei derfynu er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol, gofynion archwilio, ceisiadau rheoleiddiol neu orchmynion gan lysoedd cymwys.
Cewch ddad-danysgrifio o negeseuon marchnata unrhyw bryd drwy glicio’r ddolen sydd yn y neges e-bost berthnasol.
Gyda phwy byddwn ni’n rhannu eich data personol?
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon dibynadwy, gan gynnwys:
- ein his-gwmnïau cyfreithiol a/neu gwmnïau cysylltiedig;
- cynghorwyr proffesiynol, ymgynghorwyr, ac arbenigwyr cyfreithiol neu arall;
- darparwyr gwasanaethau sy’n gweithio o dan gontract i ni mewn cysylltiad â darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau fel darparwyr gwasanaethau TG a gwasanaethau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid; a
- darparwyr dadansoddi a chwilotwyr sy’n ein helpu i wella ac optimeiddio ein gwefan.
Byddwn yn gwneud yn siŵr bod contract ar waith gyda phob un o’r rhain sy’n cael data, a bydd y contract hwn yn sicrhau cyfrinachedd, diogelwch yr holl ddata personol sy’n cael eu rhannu â nhw yn ogystal â phrosesu cyfreithiol y data personol.
Os byddwn yn rhannu data personol ag is-gwmnïau/cwmnïau cysylltiol sydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, byddwn yn sicrhau bod dulliau rheoli priodol yn cael eu defnyddio i ddiogelu’r broses o drosglwyddo data personol, sef defnyddio cymalau diogelu data safonol sydd wedi’u mabwysiadu neu eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Beth yw’ch hawliau chi?
Mae gennych chi amrywiol hawliau o ran sut rydym ni’n defnyddio eich data personol:
- Mynediad: Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o’r data personol sydd gennym ni amdanoch chi. Mae eithriadau i’r hawl hon. Efallai na fyddech chi’n cael mynediad pe byddai’n golygu, er enghraifft, bod rhoi’r wybodaeth i chi yn datgelu data personol am rywun arall, neu os cawn ein hatal gan y gyfraith rhag datgelu gwybodaeth o’r fath. Mae gennych chi’r hawl i weld y data personol sydd gan rywun amdanoch chi. Os ydych yn dymuno gwneud hyn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gysylltu â ni.
- Cywirdeb: Ein nod yw cadw eich data personol yn gywir, yn gyfredol, ac yn gyflawn. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni drwy’r manylion cyswllt isod i roi gwybod i ni os bydd unrhyw beth o’ch data personol yn anghywir neu’n newid, er mwyn i ni allu diweddaru eich data personol.
- Gwrthwynebu: O dan rai amgylchiadau, mae gennych chi’r hawl hefyd i wrthwynebu prosesu eich data personol ac i ofyn i ni rwystro, dileu a chyfyngu ar eich data personol. Os hoffech i ni beidio â defnyddio eich data personol mwyach, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gysylltu â ni.
- Cludo gwybodaeth: O dan rai amgylchiadau, mae gennych chi’r hawl i ofyn am i rywfaint o’ch data personol gael ei roi i chi, neu i reolydd data arall, mewn fformat cyffredin ar ffurf y gall peiriant ei darllen. Os hoffech i’ch data personol gael ei gludo i chi, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gysylltu â ni.
- Dileu: Mae gennych chi’r hawl i ddileu eich data personol pan na fydd angen y data personol mwyach at ddibenion eu casglu, neu pan fydd eich data personol, ymhlith achosion eraill, wedi cael ei brosesu’n anghyfreithlon. Os hoffech i’ch data personol gael ei ddileu, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gysylltu â ni.
- Cwynion: Os ydych chi o’r farn bod eich hawliau diogelu data wedi cael eu torri, mae gennych chi’r hawl i gyflwyno cwyn gerbron yr awdurdod goruchwylio priodol neu ofyn i’r llysoedd unioni’r sefyllfa. Ewch i https://ico.org.uk/concerns/ i gael rhagor o wybodaeth am sut mae dweud eich pryder wrth Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU.
Mae eithriadau i’r hawliau hyn. Er enghraifft, pe byddai rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i barhau i brosesu eich data personol.
Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n Polisi yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon, a, lle bo hynny’n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Edrychwch yn rheolaidd i weld a oes unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n Polisi.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 28/2/2020.
This page was last updated on 13/03/2020 at 16:35 pm