Ar gyfer canolfannau
Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch os ydych chi’n ganolfan sy’n ystyried darparu ein cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru o 2021 ymlaen.
Ar gyfer cyflogwyr
Dyma’r holl wybdodaeth am ein cymwysterau os ydych chi’n fusnes yn y sectorau Gwasanaethau Adeiladu, Peirianneg neu Adeiladu.
Ar gyfer dysgwyr
Dod o hyd i gyfleoedd mewn cymwysterau a phrentisiaethau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru.
Lefel 3 - Ar gael o fis Medi 2022 ymlaen
Mae City & Guilds ac EAL yn cydweithio i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu y gellir eu hariannu yng Nghymru, a fydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2021 ymlaen.
Mae’r gyfres newydd o gymwysterau yn cael ei datblygu er mwyn diwallu anghenion sector yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, ac yn cael eu llunio ar y cyd â chyflogwyr. Nod y newid hwn yw symleiddio’r sefyllfa gymhleth sydd ohoni yng Nghymru ar hyn o bryd, lle ceir mwy na 400 o gymwysterau, i ddarparu cymwysterau a llwybrau cynnydd clir a fydd yn paratoi dysgwyr yn well ac yn eu gwneud yn fwy hyderus i astudio ymhellach a symud ymlaen i’r gweithle.