Gwybodaeth i golegau a darparwyr hyfforddiant

Mae’r gyfres hon o gymwysterau ôl-16 yn helpu dysgwyr i gael dealltwriaeth fwy trylwyr o adeiladu a’r amgylchedd adeiledig ac i baratoi ar gyfer gwaith yn y sector.

Mae’r gyfres hon o gymwysterau galwedigaethol ym maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn gymwysterau cymeradwy cyfyngedig ac felly nid ydynt ond ar gael gan City & Guilds ac EAL. Maen nhw i’w gweld ar gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu mai dyma’r unig fersiwn o’r cymwysterau hyn sy’n gymwys i gael cyllid cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n ymddangos yn fframweithiau Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW).

Mae’r cymwysterau wedi cael eu datblygu gan City & Guilds ac EAL. Os nad ydych chi’n defnyddio cymwysterau sy’n cael eu darparu gan y naill sefydliad na’r llall ar hyn o bryd, a bod eich canolfan yn awyddus i ddarparu unrhyw un o’r cymwysterau hyn, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais ar gyfer cymeradwyo canolfan.

Ewch i’r dudalen we dod yn ganolfan i weld y manylion.

Bydd angen dilysu’r gyfres o gymwysterau yn allanol. Mae’r cymwysterau a’r asesiadau wedi eu cynllunio i gael gwell cydbwysedd rhwng asesu mewnol ac allanol er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ac o ran nifer yr asesiadau ar ganolfannau. Er enghraifft, mae nifer ac amlder asesiadau crynodol yn is felly mae modd mabwysiadu dull mwy cyfannol a synoptig. Mae hyn yn golygu gwahanol ddulliau asesu, yn enwedig ar gyfer y brentisiaeth. Er enghraifft, mae gan y cyflogwr gyfrifoldeb newydd i gadarnhau bod prentis yn gymwys yn erbyn y safon alwedigaethol genedlaethol er mwyn i’r prentis allu cymryd rhan yn yr asesiad terfynol.

Ydyn, mae llawlyfrau manylebau ac asesiadau enghreifftiol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pob un o’r cymwysterau. Mae’r holl asesiadau allanol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae canolfannau a darparwyr hyfforddiant yn cael cymorth i sicrhau bod asesiadau mewnol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym wedi datblygu adnoddau addysgu a dysgu i’ch helpu i ddarparu’r wybodaeth sylfaenol sy’n ofynnol. Mae adnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys manylebau cymwysterau ac asesiadau enghreifftiol. Ewch i’r dudalen adnoddau ar y we i gael canllawiau a gwybodaeth i’ch helpu i ddarparu’r cymwysterau newydd yn llwyddiannus.

Mae City & Guilds ac EAL wedi datblygu’r wefan Sgiliau i Gymru hon fel un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar gyfer y cymwysterau hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd drwy gadw llygad ar y wefan hon a chofrestru i gael y newyddion, y digwyddiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf am gymwysterau er mwyn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn eich blwch derbyn.

Cofrestrwch fi ar gyfer negeseuon e-bost

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darparu cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch ym maes adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu, yna ewch i wefan CBAC i gael rhagor o wybodaeth. Nid oes angen i ganolfannau sydd wedi’u cofrestru gyda CBAC ar hyn o bryd wneud cais am gymeradwyaeth ychwanegol i gynnig y cymwysterau TGAU, Safon UG na Safon Uwch.