Gwybodaeth i gyflogwyr

Bu City & Guilds ac EAL yn gweithio gyda chyflogwyr yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig ledled Cymru i ddatblygu’r cymwysterau hyn er mwyn i ddysgwyr allu bod yn hyderus y byddant yn barod ar gyfer y gweithle.

Byddem yn annog sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o’r cymwysterau ymysg eich staff, eich cysylltiadau a’ch rhwydweithiau ehangach. Mae’r pecyn briffio yn rhoi erthyglau byr a hir i chi eu copïo a’u gludo yn eich cylchlythyrau, yn amlinellu manteision y cymwysterau o ran cynhyrchu eich eitemau newyddion eich hun ohonynt, ac yn cynnig negeseuon trydar y gallwch eu postio’n hawdd.

Llwytho’r pecyn briffio i lawr.

Cynhaliodd y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, adolygiad o gymwysterau yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig a bu’n gweithio gyda City & Guilds ac EAL i sicrhau bod y gyfres hon o gymwysterau yn diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

Mae’r cymwysterau newydd yn lleihau cymhlethdod ac yn gwella ansawdd y canlyniadau dysgu a’r profiad. Mae CITB, sef Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr (NFB), Cymdeithas y Contractwyr Trydanol (ECA), Cymdeithas y Contractwyr Plymio a Gwresogi (APHC) a Cymdeithas Gwasanaethau Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu (BESA) yn gwbl gefnogol i’r gyfres ac roeddent yn bartneriaid gweithredol yn y broses ddatblygu.

Mae’r gyfres hon o gymwysterau ar gael ar gyfer cyllid cyhoeddus i bobl ifanc 16-19 oed yng Nghymru a dyma’r unig gymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 a Lefel 3 sydd ar gael ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru (ac eithrio darpariaeth Lefel 1 a rhai cymwysterau arbenigol).

Mae’r sgiliau’n cyd-fynd â’r cerdyn sgiliau perthnasol a dderbynnir gan y diwydiant. Rydym wedi cydweithio ag amrywiaeth eang o gynrychiolwyr y sector a’r rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, i sicrhau bod y cymwysterau’n cynnwys deunydd perthnasol a chyfredol i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae’r cymwysterau’n seiliedig ar safonau galwedigaethol sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac oherwydd hyn, ar ôl eu cwblhau, bydd dysgwyr yn gymwys i weithio yng Nghymru a ledled y DU.

Mae’r cymwysterau ‘Sylfaen’ a ‘Dilyniant’ yn sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth allweddol, a bydd dysgwyr sy’n dilyn y cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 yn rhoi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ar waith i feithrin cymhwysedd yn y gweithle.

Bydd cymwysterau presennol yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a’u cydnabod, ond mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf gan weithwyr a’u bod yn parhau i ddatblygu eu sgiliau. Efallai y bydd angen uwchsgilio staff mewn meysydd fel technolegau datblygol ac atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau cyn- 1919.

Mae City & Guilds ac EAL wedi datblygu’r wefan Sgiliau i Gymru hon fel un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar gyfer y cymwysterau hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd drwy gadw llygad ar y wefan hon a chofrestru i gael y newyddion, y digwyddiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf am gymwysterau er mwyn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn eich blwch derbyn.

Cofrestrwch fi ar gyfer negeseuon e-bost