Mae City & Guilds ac EAL yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu set newydd o gymwysterau i greu dyfodol gwell i chi yn yr amgylchedd adeiledig.
Ewch i’n tudalen we Dewch o hyd i Ganolfan i hidlo cymwysterau sydd ar gael ac i ddod o hyd i’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant agosaf atoch chi sy’n eu darparu.
Cynhaliodd Cymwysterau Cymru adolygiad o gymwysterau yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig a chyhoeddi eu canfyddiadau yn Adeiladu’r Dyfodol: Adroddiad ar yr Adolygiad Sector o’r System Gymwysterau mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Canfuwyd y dylid gwneud nifer o newidiadau i’r system i symleiddio’r cyd-destun cymwysterau gan wneud llwybrau dilyniant yn gliriach, ac yn y sector hwn sy’n datblygu’n gyflym, bod y cymwysterau’n cyd-fynd â’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano er mwyn i ddysgwyr fod yn barod ar gyfer byd gwaith.
Os oes gennych eisoes gymhwyster cymhwysedd adeiladu cydnabyddedig sy’n ofynnol ar gyfer eich rôl ar hyn o bryd, a bod eich Cerdyn Sgiliau yn ddilys, bydd hyn yn dal i gael ei gydnabod a’i dderbyn i weithio ar safleoedd yng Nghymru a ledled y DU.
Mae cymwysterau ar gael ar Lefel 2 a 3 ac mae CBAC wedi datblygu cymhwyster TGAU, Safon UG a Safon Uwch. Mae’r cymwysterau hyn yn darparu nifer o ffyrdd o ychwanegu at eich gwybodaeth a’ch sgiliau i barhau â’ch dysgu, ac i weithio yn y sector. Mae llwybrau sy’n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chyflogaeth yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith.
Ydyn. Mae’r rhan fwyaf o’r cymwysterau’n cynnig llwybr i symud ymlaen i astudiaethau pellach, ac mae’r cymhwyster prentisiaeth yn galluogi symud ymlaen i grefft o’ch dewis ym myd cyflogaeth. Mae’r cymhwyster dilyniant Lefel 2 a’r brentisiaeth Lefel 3 yn darparu amrywiaeth o lwybrau i ddewis ohonynt.
Ydyn. Mae’r cymwysterau galwedigaethol newydd wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth. Mae’r cymwysterau’n seiliedig ar safonau galwedigaethol sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac oherwydd hyn, ar ôl eu cwblhau, byddwch yn gymwys i weithio yng Nghymru a ledled y DU. Mae’r cymwysterau Sylfaen a Dilyniant yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth eang, a sylfaen gadarn i ddysgwyr ar draws y sector ar Lefel 2, ac mae’r cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 yn cyd-fynd â’r cerdyn sgiliau perthnasol sy’n cael ei dderbyn gan y diwydiant.
Byddwch, mae’r holl gymwysterau newydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gofynnwch i’ch darparwr hyfforddiant, eich coleg neu eich ysgol sut maen nhw’n darparu’r cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae City & Guilds ac EAL wedi datblygu’r wefan Sgiliau i Gymru hon fel un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar gyfer y cymwysterau hyn.
Gallwch hefyd siarad â’ch coleg neu’ch darparwr hyfforddiant lleol yng Nghymru amdanynt.