Adnoddau cymorth gan drydydd partïon

Read more

Gobeithio y bydd y wybodaeth a’r adnoddau cymorth yma yn ddefnyddiol i chi. Maen nhw wedi cael eu darparu gan diwtoriaid, cymdeithasau a rhanddeiliaid y sector. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r rhai sydd wedi bod yn ddigon hael i rannu eu deunyddiau cymorth ac er nad ydyn nhw wedi cael eu mapio i’r cymwysterau newydd, efallai y byddant yn ddefnyddiol i chi.

Nid yw City & Guilds ac EAL yn gyfrifol am yr adnoddau y mae trydydd partïon yn eu darparu.

Go Construct

Mae Go Construct yn fenter ar draws y diwydiant sy’n ceisio denu, hysbysu a chadw gweithlu talentog ar gyfer y sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Mae gan wefan Am Adeiladu becyn cymorth o adnoddau i weithwyr proffesiynol a allai fod yn gysylltiedig â hyrwyddo gyrfaoedd mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Drysau Agored 16-21 Mawrth 2020

Bwriad Wythnos Drysau Agored yw ysbrydoli mwy o bobl i mewn i’r diwydiant adeiladu drwy adael iddynt ‘fynd y tu ôl i’r llenni’ i ddarganfod yr ystod amrywiol a gwerth chweil o lwybrau gyrfa sydd gan y diwydiant i’w cynnig, yn ogystal â newid canfyddiadau pobl o’r sector adeiladu.

Y Gyfnewidfa Addysg Busnes

Mae Gyrfa Cymru yn rheoli rhestr o gyflogwyr sydd â diddordeb mewn ymgysylltu ag ysgolion a cholegau i ddatblygu rhaglenni cyffrous i wella’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr.

Mae’r Gyfnewidfa Addysg Busnes wedi’i chynllunio i’w defnyddio gan athrawon ac ymgynghorwyr gyrfaoedd i ddewis cyflogwyr a all gefnogi eu cwricwlwm drwy amrywiaeth o weithgareddau.

Cysylltwch â’ch cydlynydd Gyrfa Cymru lleol i drafod beth allan nhw ei wneud i chi.

Troi eich Llaw Cymru

Mae’r fenter Troi eich Llaw yn annog ymgysylltiad gan bobl ifanc, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad mewn llwybrau galwedigaethol mewn ystod o sectorau, gan gynnwys adeiladwaith a pheirianneg gwasanaethau adeiladu.

Mae rhai canolfannau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddefnyddio’r offer a’r gweithgareddau sydd ar gael naill ai yn y diwrnodau agored, mewn clybiau neu ar gyfer gwersi.

Mae’n ddrwg gennym.

Does dim modd dod o hyd i’r hyn roeddech chi’n chwilio amdano :(
Rhowch gynnig arall arni drwy newid eich hidlydd neu’ch chwiliad.