Swyddi gwag

Mae gennym ni ddetholiad o rolau ar gael i weithio fel cyswllt i gefnogi’r gwaith o ddarparu cymwysterau Adeiladu City & Guilds yng Nghymru. 

Dyma’r rolau sydd ar gael: 

  • Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol (EQA)
  • Aseswyr Allanol (EA)

Mae’r holl rolau sydd ar gael i’w gweld ar wefan City & Guilds.

Rhagor o wybodaeth a gwneud cais (Byddwch yn mynd i dudalen we swyddi gwag Sicrhau Ansawdd Allanol City & Guilds)

Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol (EQA) 

Mae Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol yn cefnogi ac yn monitro’r gwaith o ddarparu ein cymwysterau o ansawdd uchel. Bydd y Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol yn cynnal perthynas waith effeithiol â chanolfannau a City & Guilds, yn ogystal â’r gwaith o gynllunio a monitro sicrwydd ansawdd yn unol â’n gofynion a’n polisïau cymwysterau.

Manteision dod yn Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol

  • Gweithio’n hyblyg o amgylch eich rôl bresennol 
  • Hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr 
  • Cyfle i gyfrannu at broffesiynoli’r sector 

Bydd angen y sgiliau a’r profiad canlynol ar Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol

  • Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg 
  • Cymwysterau D32, 33 a 34 neu gymwysterau A1 a V1 neu’r TAQA Asesydd a Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol  
  • Cymhwyster Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol D35 neu V2 neu TAQA, neu’n barod i weithio tuag at hyn   
  • Yn alwedigaethol gymwys ac yn gyfredol yn y meysydd portffolio, gyda sicrwydd ansawdd allanol, yn unol â gofynion cymwysterau/asesu  
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoledig, yn unol â gofynion sicrhau ansawdd  
  • Profiad o hyfforddi a datblygu  
  • Profiad amlwg o ysgrifennu adroddiadau a chynlluniau gweithredu clir, cywir a chryno  
  • Trwydded yrru neu fynediad at rwydweithiau trafnidiaeth allweddol a dibynadwy 

Gwybodaeth am rôl Aseswyr Allanol

Prif rolau a chyfrifoldebau Asesydd Allanol yw

  • Rhoi cyngor a chefnogaeth i’r tîm Sicrhau Ansawdd a Chyflawni 
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau safoni i sicrhau dull cyson o Asesu Allanol  
  • Cynnal gwybodaeth drylwyr o bolisïau a gweithdrefnau City & Guilds 

Gofynion sylfaenol y Rôl Asesydd Allanol

  • Cymhwysedd galwedigaethol o weithio yn y diwydiant Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, o leiaf, ar yr un lefel â’r cymhwyster rydych chi’n asesu’n allanol ar ei gyfer
  • Bod yn gymwys yn alwedigaethol yn llwybr penodol y cymhwyster rydych chi’n ei asesu – mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob asesydd allu cyflawni’r gofynion llawn yn unedau cymhwysedd y llwybr rydych chi’n ei asesu. Mae cymhwysedd galwedigaethol yn golygu eich bod yn hyddysg yn yr alwedigaeth hefyd
  • Tystiolaeth o gynnal gwybodaeth gyfredol i gynnwys Damcaniaethau, modelau a dulliau gweithredu, deddfwriaeth, polisi cenedlaethol, a gofynion rheoliadol
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Cysylltiedig â Galwedigaeth neu gymwysterau etifeddiaeth cyfwerth
  • Cofnod cyfredol a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus galwedigaethol perthnasol ar yr un lefel neu’n uwch na’r cymhwyster y byddwch yn ei asesu’n allanol
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol a chryno
  • Sgiliau trefnu rhagorol, gallu blaenoriaethu’n effeithiol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur gyda phrofiad o ddarparu adborth cefnogol a chryno i ddysgwyr, aseswyr a staff cyflenwi
  • Hyblygrwydd i deithio ledled Cymru
  • Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a dealltwriaeth o ddiwylliant, polisi a chyd-destun Cymru

Gwnewch gais heddiw – Rhagor o wybodaeth a gwneud cais (Byddwch yn mynd i dudalen we swyddi gwag Sicrhau Ansawdd Allanol City & Guilds)

This page was last updated on 22/11/2023 at 14:18 pm