Cymwysterau Cymru – trefniadau trosiannol CBSE

Read more

July 13th, 2021

Cysylltodd Cymwysterau Cymru â chanolfannau yn gynharach ym mis Chwefror i roi gwybod iddyn nhw eu bod bellach wedi adolygu trefniadau’r cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu a fydd ar waith ar gyfer mis Medi 2021 a mis Medi 2022 oherwydd yr effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi’i chael ar addysgu a hyfforddi ledled Cymru.

Trefniadau cymwysterau yn gryno:

  • Bydd Cymwysterau Cymru yn caniatáu dynodi cymwysterau cyfredol am flwyddyn arall (tan 31 Mai 2022).
  • Bydd y Cymhwyster Sylfaen newydd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) a’r Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ar gael o fis Medi 2021 ymlaen fel y cynlluniwyd.
  • Bydd y cymwysterau Adeiladu Lefel 3 a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 newydd ar gyfer prentisiaethau yn cael eu gohirio am flwyddyn a byddan nhw ar gael i ganolfannau eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2022.

Er y bydd Cymwysterau Cymru yn caniatáu ymestyn y broses o ddynodi’r cymwysterau presennol, byddan nhw’n annog darparwyr i ddechrau dysgwyr ar y cymwysterau newydd cyn gynted â phosibl.

Darllenwch y llythyr gan Cymwysterau Cymru

Gwelwch y ffeithlun gan Cymwysterau Cymru