Y Bartneriaeth rhwng Coleg Penybont a Persimmon Homes in Wales Astudiaeth achos

Read more

February 27th, 2023

Mae’r gyfres newydd o gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu yng Nghymru gan City and Guilds ac EAL wedi cael eu datblygu drwy weithio’n agos gydag arbenigwyr blaenllaw i sicrhau eu bod yn cynnig llwybr dilyniant syml a chlir sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau pellach a symud ymlaen. Ar yr un pryd, maent yn helpu dysgwyr i ennill sgiliau a phrofiad o safon diwydiant, gan gefnogi datblygiad gyrfa a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae’r cymwysterau’n cael eu darparu yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru ar y cyd â’r datblygwr, Persimmon Homes Wales. Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 gyda’r datblygwr.

Da i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr

Wrth drafod y diwygiadau, rhannodd Angharad Lloyd Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliad a Phartneriaethau City and Guilds, ei barn am werth y cymwysterau diweddaraf:

“Gydag EAL, rydyn ni’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i gael cyfleoedd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cymwysterau newydd hyn yn galluogi pobl i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu gyda llwybrau dilyniant clir.”

Dechreuodd y cydweithio rhwng Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Persimmon Homes yn 2017 gyda 10 dysgwr i ddechrau, a thros y blynyddoedd mae’r nifer hwnnw wedi cynyddu i gynnwys prentisiaethau gwaith coed a gosod brics. Dywedodd Pennaeth Cwricwlwm STEM yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, Rachel Edmonds-Naish, sut y gall y newid sicrhau bod dysgwyr yn elwa mwy fyth ar eu hastudiaethau:

“Mae’r cymwysterau newydd hyn yn rhoi amrywiaeth ehangach o lawer o gyfleoedd i ddysgwyr nag o’r blaen, ac yn rhoi sylw i’r sector adeiladu, gwasanaethau adeiladu a pheirianneg. Yn hytrach na dysgu eu crefft yn unig, maen nhw’n dysgu dwy grefft i ddechrau, ac am gyd-destun ehangach yr hyn mae’n ei olygu i weithio yn y sector adeiladu.”

Mae Carl Davey, Cyfarwyddwr Ansawdd Rhanbarthol yn Persimmon Homes Cymru, wedi gweld â’i lygaid ei hun sut mae cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi helpu i fynd ati’n lleol i ddatblygu’r gweithwyr talentog sydd eu hangen ar eu busnes, gan sicrhau model busnes cynaliadwy a chadw talent yn y sector hollbwysig hwn.

“Rydyn ni wedi meithrin perthynas lwyddiannus â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr dros y blynyddoedd diwethaf, gan ymgysylltu â myfyrwyr o raglenni llawn-amser a chynnig y cyfle iddynt symud ymlaen i’r diwydiant drwy ein rhaglen brentisiaethau.”

Ychwanegodd Betty Lee, Prentis Saer yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr:

“Byddwn yn argymell y cwrs sylfaen i bobl eraill oherwydd mae’n ffordd dda o ddechrau arni ym maes adeiladu ac mae hefyd yn fan cychwyn os ydych chi eisiau symud ymlaen. Gallwch chi fynd ymlaen i wneud lefel dau, lefel tri, neu hyd yn oed fynd ymlaen wedyn i wneud cwrs rheoli. Rydw i’n ystyried dilyn y cwrs rheoli, neu hyd yn oed ddechrau fy musnes fy hun.”

Mae’n deg dweud bod dyfodol cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru bellach yn nwylo medrus ac uchelgeisiol iawn ei brentisiaid, gan osod sylfeini ar gyfer adeiladu o safon diwydiant ynghyd â llwybrau gwell ar gyfer eu dyfodol disglair eu hunain.