Mynd yn Wyrdd – Cipolwg ar Fod yn Wyrdd a Chynaliadwyedd yn y diwydiant Adeiladu

Read more

April 20th, 2023

Cynaliadwyedd, Gwyrdd, Beth mae hynny’n ei olygu?  

Mae gan y diwydiant adeiladu ddyletswydd gofal i’r amgylchedd. Rydyn ni’n defnyddio llawer iawn o adnoddau naturiol gyda phrosiectau pwrpasol gan chwilio am gynnyrch arbenigol i fodloni gofynion cleientiaid heb fawr o feddwl am eu heffaith. Yn yr un modd, mae cymdeithas yn defnyddio llawer iawn o dir i ddiwallu anghenion yr ‘argyfwng tai’, ond ar ba gost i’r amgylchedd? Ein diwydiant sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â’r mater hwn, ond mae hyn yn codi’r cwestiwn ynghylch sut. Cyn gynted ag y bydd rhywun yn sôn am gynaliadwyedd neu dechnoleg werdd mewn perthynas ag adeiladu, mae gan bawb farn -yn enwedig gan fod newid yn yr hinsawdd yn bwnc cyfredol, ac mae’r termau gwyrdd a chynaliadwy wedi dod i olygu’r un peth bron. Felly, er mwyn deall y gwahaniaeth allweddol hwn, aeth PECB (2021) ati i ddisgrifio bod mynd yn wyrdd yn golygu defnyddio cynnyrch a gwasanaethau sy’n ecogyfeillgar. Mae cynaliadwyedd yn golygu defnyddio cynnyrch neu wasanaethau mewn ffordd nad yw’n niweidio adnoddau cenedlaethau’r dyfodol. Felly, efallai bod cynnyrch terfynol yn wyrdd, ond efallai na fydd y broses o’i weithgynhyrchu neu gynhyrchu yn gynaliadwy o gwbl. Er enghraifft, wrth gynhyrchu cynnyrch sydd angen llawer o ynni, ni ellir ystyried bod hynny’n gynaliadwy. Os caiff yr un cynnyrch eu gwneud o adnoddau adnewyddadwy, gellir eu hystyried yn wyrdd (PECB, 2021). Felly, wrth gymhwyso hyn i’r diwydiant adeiladu, mae angen gwahaniaethu rhwng datblygiadau cynaliadwy a datblygiadau gwyrdd.  

Y prif wahaniaeth rhwng datblygu cynaliadwy a datblygu gwyrdd yw bod datblygu cynaliadwy yn canolbwyntio ar gymdeithas, yr amgylchedd, diwylliant ac economi, tra bod datblygu gwyrdd yn canolbwyntio’n llwyr ar yr amgylchedd. Er enghraifft, mae adeiladau cynaliadwy yn ystyried y tair colofn cynaliadwyedd (pobl, planed ac elw) yn ystod y gwaith adeiladu, ac mae adeiladau gwyrdd yn canolbwyntio’n llwyr ar yr amgylchedd (British Assessment Bureau, 2021, Pediaa.Com, 2021). Gan fod y prif wahaniaethau’n amlwg erbyn hyn, mae dal angen mynd i’r afael â’r termau niferus sy’n gysylltiedig ag adeiladu gwyrdd a chynaliadwy. Gall y jargon hwn ymddangos yn ddyrys i’w ddefnyddio; mae gwefan Green Spec (cliciwch y ddolen isod) wedi creu rhestr o dermau sy’n cael eu defnyddio yn y maes adeiladu hwn i’ch helpu i ddadansoddi’r ystod o dermau sy’n cael eu defnyddio fel arfer. Mae’r ail ddolen o’r wefan Designing Buildings yn rhoi trosolwg o adeiladu cynaliadwy yn y DU (Y Deyrnas Unedig). Drwy ddeall yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn y maes hwn sy’n datblygu drwy’r amser, mae gennym gyfle i sicrhau bod ein dysgwyr yn gyfarwydd â’r derminoleg hon, ac y bydd hyn yn eu galluogi i gael dechrau da a mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gyda meddwl agored a chwilfrydig.  

Dolenni Defnyddiol  

Diweddariadau i Reoliadau Adeiladu Cymru 

Fel y gwyddom, mae gan Lywodraeth Cymru ymreolaeth ddatganoledig dros Reoliadau Adeiladu 2010, yn dilyn datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru yn 2011. Cyn 2011, roedd y Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol ledled Cymru a Lloegr. Yng Nghymru, rydym yn dal yn rhwym wrth Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2010 dilynol. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r rheoliadau adeiladu a’r dogfennau cymeradwy yn cael eu hadolygu’n gyson. Mae hyn yn golygu bod y safonau rheoleiddio adeiladu presennol yn gyfystyr â safonau adeiladu Cymru.  

Mae hyn yn cynnwys, yn 2014, gosod systemau chwistrellu dŵr awtomatig – cafodd hyn ei wneud yn orfodol yng Nghymru ar gyfer yr holl eiddo preswyl wedi’u haddasu a’r eiddo a oedd yn cael ei adeiladu o’r newydd. Dim ond un enghraifft yw hon o pan fo dogfennau cymeradwy rheoliadau adeiladu yn cael eu datblygu’n gyson er mwyn diwallu anghenion ein hamgylchedd adeiledig sy’n newid drwy’r amser. Gan symud i fis Tachwedd 2022, fe welsom yr ystod ddiweddaraf o ddogfennau cymeradwy yn cael eu datgan o dan Reoliadau Adeiladu 2010. Bydd y safonau newydd hyn yn sicrhau y bydd gwaith adeiladu yn y dyfodol yn arwain at safon byw well o ran effeithlonrwydd ynni, sy’n amserol iawn gyda’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ynni. Mae Rhan L Cymru yn dilyn newidiadau yn Lloegr yn agos ac yn disgrifio y bydd gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon mewn cartrefi newydd o dan y safonau newydd o’i gymharu â safonau Rhan L Cymru 2014. Mae hyn yn cymharu â gostyngiad o 31% mewn allyriadau carbon a nodir yn y diweddariad yn Lloegr, ond mae newidiadau eraill yn cyd-fynd i raddau helaeth â safonau Lloegr. Mae safon ofynnol effeithlonrwydd ynni newydd wedi’i chyflwyno hefyd ar gyfer adeiladau newydd, wedi’i gosod ar radd B tystysgrif perfformiad ynni sylfaenol (EPC). Ochr yn ochr â hyn, mae’n ofynnol erbyn hyn i gyflwyno profion aerglos gorfodol ar gyfer pob cartref (Elmhurst Energy, 2022, Ideal Heating, 2022). Ar ben hynny, mae’r risg o orboethi mewn adeiladau wedi cael sylw penodol yn ei ddogfen gymeradwy ei hun (Rhan O). Nid yw hyn yn cael ei gynnwys yn Rhan L mwyach.  

Bydd y mesurau hyn yn helpu Cymru i gyrraedd ei nod sero net. Gan edrych tua’r dyfodol, rhaid i Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW) sicrhau ei fod yn ymwybodol o ddatblygiadau nid yn unig yn ein diwydiant, ond hefyd wrth i dechnoleg esblygu i sicrhau bod y dogfennau cymeradwy yn gyfredol ac yn parhau i arwain y ffordd tuag at ein nod ar y cyd o gyrraedd sero net erbyn 2050. Rhaid i ni, fel addysgwyr, fod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn gan mai ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod ein dysgwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.  

Dolenni Defnyddiol 

Ôl-osod ein Stoc Dai i gyrraedd Sero Net erbyn 2050  

Mae’r 30 miliwn o gartrefi yn y DU yn cyfrif am dros 21% o gyfanswm allyriadau carbon y wlad, gyda thri chwarter hyn yn dod o systemau gwresogi. Mae 85% o gartrefi’r DU ar y rhwydwaith nwy, yn defnyddio tanwyddau ffosil ac yn cynhyrchu llawer iawn o allyriadau carbon (Lily. Glover-Wright, 2021). Nid yw hyn yn mynd i’r afael â phroblem y stoc dai bresennol. Ond, mae ateb yn cael ei gynnig ar ffurf ôl-osod, ond beth yw hyn? Ôl-osod yw’r broses o wneud newidiadau i adeiladau presennol fel bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio a llai o allyriadau. Mae’n golygu gwella perfformiad a chysur thermol eich cartref yn sylweddol, ac mae’n gwella adeiledd yr adeilad. Dylai’r newidiadau hyn hefyd arwain at y fantais o gael cartref mwy cyfforddus ac iachach gyda biliau tanwydd is (Trustmark.org.uk, 2019, Woodfield, 2021). Fel gwlad, ni wnawn lwyddo yn y frwydr yn erbyn yr Argyfwng Hinsawdd os na fyddwn yn mynd ati’n effeithiol i leihau allyriadau carbon o bob un o’n cartrefi. Mae ôl-osod ein cartrefi i ddefnyddio systemau gwresogi carbon isel yn her fawr, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 (Lily. Glover-Wright, 2021, Sero, 2022). Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn i gyd, mae angen gwneud y gwaith yn briodol gyda chynllun a dyluniad pwrpasol ac wedi’i osod gan grefftwyr medrus a chymwys sy’n gweithio yn unol â safonau llym o gymhwysedd technegol (Trustmark.org.uk). 

Er mwyn sicrhau bod y DU ar y trywydd iawn i gyrraedd sero net erbyn 2050, rhaid i bob cartref gael gradd ‘C’ neu uwch ar Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn perthyn i fand ‘D’ ar hyn o bryd. Fel y cynigiwyd, bydd symud i fyny un band yn welliant amlwg i drigolion a’r effaith amgylcheddol anuniongyrchol o ddefnyddio llai o wres ac ynni. Felly, beth yw’r opsiynau? Mae sawl ffordd o ôl-osod tŷ, gan amrywio o welliannau un ystafell i waith ôl-osod tai cyfan, ond mae pob proses wedi’i chynllunio yn y pen draw i chi ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae canolbwyntio ar effeithlonrwydd yn golygu bod ôl-osod yn wahanol i adnewyddu tŷ neu wneud gwelliannau i gartrefi sydd â’r bwriad o wneud cartref yn fwy esthetig. Mae’r mesurau ôl-osod yn cynnwys inswleiddio’r atig a gwydr dwbl neu asesu ac adnewyddu’r tŷ cyfan gyda nifer o fesurau inswleiddio i leihau’r gwres sy’n cael ei golli. Gall gwaith ôl-osod hefyd gynnwys gosod pwmp gwres neu dechnoleg carbon isel debyg i leihau dibyniaeth ar foeleri nwy (Lily. Glover-Wright, 2021, Woodfield, 2021). Ar hyn o bryd, mae’r sector tai cymdeithasol, gyda chyllid gan y llywodraeth, yn ymgymryd â phrosiectau i ôl-osod cartrefi ledled y DU gydag amrywiol dechnolegau carbon isel ac uwchraddio adeiledd yr adeilad i wella gwrthiant thermol. Mae hyn yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol ôl-osod rhannau mawr o’r stoc dai i fod yn fwy effeithlon yn thermol ac i ryddhau llai o allyriadau. Mae’r holl gamau hyn yn helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ac maent yn allweddol i weithio tuag at y targed sero net ar gyfer 2050.  

Dolenni Defnyddiol 

Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) City & Guilds  

Cymwysterau Lefel 3  

Mae City & Guilds yn cynnal nifer o weithdai a sesiynau DPP am y cymhwyster lefel 3 yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Cadwch lygad am ragor o fanylion yn eich blwch derbyn. 

Cyfleoedd Penodol i’r Diwydiant 

Isod mae rhestr o sioeau a allai fod o ddiddordeb i chi fel gweithiwr adeiladu proffesiynol neu gyfle i fynd â’ch dysgwyr iddynt hefyd: