Cefnogi cynhadledd ColegauCymru fel y Prif Noddwr: Mynd i’r afael â’r materion a’r cyfleoedd y mae’r maes datblygu sgiliau yn eu hwynebu yng Nghymru

Read more

November 9th, 2023

Cynhaliwyd Cynhadledd flynyddol ColegauCymru eleni ar 12 Hydref yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd. Roedd yn anrhydedd i City & Guilds gael bod yn brif noddwr yn y digwyddiad, a ddaeth ag addysgwyr ac arweinwyr diwydiant ynghyd i drafod y materion allweddol sy’n wynebu addysg bellach yng Nghymru. 

Gan fod disgwyl i’r cyd-destun addysg yng Nghymru drawsnewid yn sylweddol yn dilyn cyhoeddi cynlluniau i ailwampio’r broses o ddarparu a llywodraethu datblygu sgiliau ôl-16, roedd gan y rhai a oedd yn bresennol a’r siaradwyr gwadd ddigon i’w drafod. Gyda’r sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn ystod digwyddiad hollbwysig ar galendr addysg Cymru, roeddem yn falch o gael Angharad Lloyd-Beynon, Sian Beddis ac Eric Oliver yn cynrychioli City & Guilds yn y gynhadledd. 

Cyfle i rwydweithio cyn y digwyddiad 

Cyn y gynhadledd, ar 11 Hydref, aeth Angharad am ginio â’r penaethiaid coleg a’r Prif Weithredwyr a oedd wedi cael eu gwahodd i’r digwyddiad, ym mwyty hyfforddi Y Dosbarth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn ogystal â rhoi cyfle iddi siarad yn uniongyrchol â’r bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, roedd hyn hefyd yn gyfle i gael gweld sut roedd gwaith datblygu sgiliau City & Guilds yn mynd, gyda’r bwyd yn y bwyty yn cael ei baratoi a’i weini gan ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau City & Guilds. 

Hefyd, clywodd y gwesteion yn y cinio gan y siaradwr ar gyfer y noson, sef Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru. Rhannodd Rhun ei feddyliau am bwysigrwydd colegau Addysg Bellach yng Nghymru a’r cyfleoedd y gallant eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu sgiliau hanfodol i sicrhau cyflogaeth.  

Gwybodaeth o gynhadledd ColegauCymru 2023 

Agorodd y gynhadledd y diwrnod canlynol gyda phawb a oedd yn bresennol yn llawn brwdfrydedd. Gan mai hon oedd cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf ColegauCymru ers 2019, roedd yn gyfle gwych i’r rheini sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u disgwyliadau ar gyfer y blynyddoedd nesaf ym myd addysg yng Nghymru. 

Yn dilyn trafodaeth gyntaf y panel, cafwyd anerchiad gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Pwysleisiodd yn ei araith ei fod yn parhau i gefnogi’r sector addysg bellach yng Nghymru, gan gydnabod y gwerth y mae’n ei gynnig o ran cefnogi dysgwyr a chymunedau a helpu i ddatblygu economi gref yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn arwydd pwysig o gefnogaeth i’r gwaith y mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw ledled Cymru yn ei wneud, ac mae’n dangos pwysigrwydd hyfforddiant a datblygu sgiliau i ddyfodol Cymru. 

Angharad oedd y nesaf ar y llwyfan, lle’r oedd yn gallu rhannu gwybodaeth am y gwaith  y mae City & Guilds yn ei wneud yng Nghymru â’r 150 o bobl a oedd yn bresennol. Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at yr amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg, ac yn enwedig y gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o Sefydliad City & Guilds i ariannu amrywiaeth o brosiectau yng Nghymru. 

Roedd yr araith hon hefyd yn gyfle i longyfarch enillwyr Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol a oedd yn bresennol, a dathlu sefydliadau yng Nghymru sydd wedi rhoi gwaith datblygu hyfforddiant a sgiliau rhagorol ar waith, sydd wedi arwain at fanteision i’r sefydliadau. Siaradodd Angharad hefyd am bopeth y mae City & Guilds yn ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.   

Dywedodd Angharad “Fel y gallwch chi ddychmygu, roeddwn i ar bigau drain cyn siarad â chynulleidfa mor fawr a oedd yn cynnwys cyd-weithwyr o Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a chynrychiolwyr o’r holl golegau yng Nghymru gan gynnwys Penaethiaid, Prif Weithredwyr a nifer o randdeiliaid allweddol eraill.”   

Ar ôl yr areithiau hyn, clywodd pawb gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd diddorol ar anghenion sgiliau’r dyfodol yng Nghymru, profiad y dysgwr, a sut bydd y Comisiwn newydd yn cefnogi’r sector addysg bellach o hyn allan. Gyda chynrychiolwyr o TUC Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i gyd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o ddysgu a datblygu yng Nghymru, roedd ystod eang o arbenigedd gwerthfawr i’w weld. 

I grynhoi: gwybodaeth hanfodol a pharatoadau ar gyfer y dyfodol 

Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd i bawb oedd y trafodaethau bywiog ar draws yr wyth gweithdy, gyda phynciau’n cynnwys strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i Gymru, sicrhau dyfodol dwyieithog i addysg bellach, a chyfleoedd a heriau deallusrwydd artiffisial. Mae gwerth y trafodaethau hyn yn tanlinellu’r cyfle gwych y mae’r digwyddiad hwn yn ei roi i rai o’r bobl fwyaf dylanwadol mewn byd addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd i weithio drwy’r materion y mae dysgwyr a darparwyr yng Nghymru yn eu hwynebu. 

Roedd Cynhadledd ColegauCymru 2023 yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf y rheini ym mhob rhan o’r ecosystem hyfforddi yng Nghymru i gefnogi dysgwyr ar bob lefel. Drwy roi llwyfan i drafod yr heriau sy’n wynebu’r maes datblygu sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru, rhoddodd y gynhadledd gyfle hefyd i’r rhai a oedd yn bresennol siarad am atebion a pharhau i weithio gyda’i gilydd i greu dyfodol disglair i Gymru. 

Rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru