Dim mwy o ddal ein tafod! Mae angen i ni siarad

Read more

January 3rd, 2024

Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc sy’n cael ei drafod a’i dderbyn yn fwy agored mewn cymdeithas. Mae hyn hefyd yn digwydd yn y gweithle; fodd bynnag, mae’r diwydiant adeiladu yn dal i boeni am y stigma sy’n gysylltiedig â datgelu cyflwr iechyd meddwl. Mae gwroliaeth (machismo) yn hollbresennol ym maes adeiladu, ac fe deimlir hynny gan y gweithwyr sy’n ceisio cymorth ar gyfer yr hyn a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel ‘epidemig tawel’ (Stevenson a Farmer 2017).  

Mae’r canfyddiad bod y diwydiant yn y trydydd safle o ran y sector sy’n peri’r mwyaf o straen yn y Deyrnas Unedig – gyda 82% o weithwyr yn profi straen ar ryw adeg bob wythnos – yn ategu’r angen am ddeialog gadarnhaol a newid agwedd ynghylch iechyd meddwl (Farrell 2018). Er bod cyfraddau adrodd yn codi, mae amharodrwydd i drafod iechyd meddwl yn agored yn y gweithle yn dal i fod (Van Ek a Le Feuvre 2021).  

Adleisir y teimlad hwn gan Emma Mamo, Pennaeth Lles yn y Gweithle yn Mind, a dynnodd sylw at y diffyg parodrwydd i drafod iechyd meddwl mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, fel adeiladu. Mae hyn, yn ei dro, yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod cyfraddau hunanladdiad yn dal yn syfrdanol o uchel ymysg crefftwyr y sector adeiladu yn y DU. Mae’r ddelwedd ar y dudalen hon yn dangos murlun ac arno 687 o festiau llachar, sy’n cynrychioli nifer cyfartalog y marwolaethau blynyddol oherwydd hunanladdiad ymysg crefftwyr yn y DU yn 2021.

Darllenwch yr erthygl 

Mae dynion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer dynion, ac mae mwy o weithwyr adeiladu’n marw o ganlyniad i hunanladdiad nag o ganlyniad i syrthio bob blwyddyn, gyda dau berson yn gweithio yn y sector hwn yn colli eu bywydau oherwydd hunanladdiad bob dydd (APHC 2022). Mae hyn yn dangos bod angen newid a chael sgwrs agored am iechyd meddwl, gan fod 83% o bobl ym maes adeiladu wedi cael problem iechyd meddwl a 91% wedi teimlo eu bod wedi cael eu llethu (APHC 2022). Nid yw’r ystadegau hyn yn rhywbeth y gallwn fforddio ei anwybyddu.  

Her arall yw bod y ddyletswydd gofal mewn deddfwriaeth bresennol yn rhoi pwyslais ar iechyd corfforol. Byddai ymgorffori iechyd meddwl o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (HASAWA), a gwneud materion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhai y mae modd adrodd arnynt o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR), yn amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl ac yn ei wneud yn gydradd ag iechyd corfforol. Byddai newid deddfwriaethol yn gorfodi’r cwricwlwm addysg presennol i ddarparu ar gyfer y newidiadau (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae addysg yn hanfodol i wella ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg cyflogwyr a gweithwyr, ac nid yn y gweithle yn unig, ond hefyd drwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn meithrin diwylliant o ddeall a derbyn yn gymdeithasol, gan gefnogi’r newid is-ddiwylliannol sy’n dechrau dod i’r amlwg (Van Ek a Le Feuvre 2021).  

Mae newid ar y gorwel, wrth i agweddau a chanfyddiadau esblygu, ond mae’n araf – ac mae rhwystrau i’w goresgyn o hyd: ofni stigma, cywilydd a gweithwyr yn dewis bod yn hunanddibynnol (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae’n deg dweud bod llu o ymgyrchoedd wedi cael eu cynnal, gyda’r nod o godi proffil iechyd meddwl a chreu amgylchedd llawer mwy agored sy’n annog diwylliant o gefnogi a thrafod. Yn yr un modd, mae nifer o sefydliadau sy’n helpu gweithwyr adeiladu mewn ffyrdd cadarnhaol ac sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol. Mae angen i ni godi proffil iechyd meddwl a gwaith y sefydliadau hyn ymysg dysgwyr, gan mai nhw sydd ar lawr gwlad ac yn gallu rhannu neges gadarnhaol, yn ogystal â meithrin newid i gefnogi’r datblygiadau arloesol sydd eisoes yn dod i’r amlwg.  

Mae’n anorfod y bydd trawsnewid diwylliant diwydiant cyfan yn cymryd amser, ond gyda dull amlochrog a chefnogaeth barhaus, mae newid yn bosibl. Mae gennym ni’r momentwm, felly gadewch i ni ei ddefnyddio fel grym ar gyfer gwelliant cadarnhaol a pharhaol.  

Rhif Cyswllt y Samariaid: 116 123
Gwefan y Samariaid:
www.samaritans.org/how-we-can-help/contact-samaritan/ (Saesneg) 
www.samaritans.org/cymru/how-we-can-help/contact-samaritan/welsh-language-phone-line/ (Cymraeg) 
Rhif Cyswllt Mind: 0300 123 3393
Gwefan Mind: www.mind.org.uk/need-urgent-help/using-this-tool/
Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu: 0345 605 1956
Tecstiwch: HARDHAT i 85258
Ap Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu: Chwiliwch am: Construction Industry Helpline
Gwefan y Diwydiant Adeiladu: www.constructiondustryhelpline.com

Photo: Ironmongery direct

Mae Diwydiant Adeiladu Mwy Amrywiol yn Ddiwydiant Adeiladu Cryfach  

Gall bod yn fwy cynhwysol a hyrwyddo amrywiaeth helpu i gau’r bwlch sgiliau  

Mae’r sector adeiladu’n chwarae rhan hollbwysig yn economi’r DU, gan gyfrannu £110 biliwn y flwyddyn – 7% o’r cynnyrch domestig gros (GDP) – a darparu gwaith i oddeutu 3.1 miliwn o unigolion, sy’n cyfrif am tua 9% o gyfanswm cyflogaeth y DU. Yn anffodus, mae’r diwydiant hwn yn wynebu argyfwng sylweddol y mae cofnod da ohono: y ‘bwlch sgiliau’.  Mae 22% o’r gweithlu presennol dros 50 oed ac mae 15% yn eu 60au. Ar yr un pryd, yn y farchnad lafur bresennol, mae’r diwydiant hefyd yn colli gweithwyr iau i sectorau sy’n cystadlu ag ef, lle mae’r gwaith yn cael ei ystyried yn fwy sefydlog neu’n fwy atyniadol a lle mae’r cyflogau’n fwy cystadleuol (constructionmaguk.co.uk 2023). Yn yr un modd, esboniodd Minett (2021) bod y cenedlaethau iau o’r farn gyffredinol yw nad yw gweithio ym maes adeiladu yn ddymunol. Mae arolygon barn yn dangos mai dim ond 5% o ddysgwyr sy’n ystyried dilyn rolau yn y sector.  

Fe wnaeth Evans (RICS 2019) ein hatgoffa bod her i’w goresgyn o ran esbonio i bobl ifanc beth sy’n ddeniadol am adeiladu. Ar ben hynny, awgrymodd Minett (2021) fod Brexit wedi cyflwyno cymhlethdodau newydd i wladolion yr UE sy’n chwilio am waith yn y DU, gan fynnu eu bod yn mynd drwy broses ymgeisio fisa ddrud a chymhleth.  

Mae RICS (2019) wedi tynnu sylw at heriau eraill mae’r diwydiant yn eu hwynebu. Er enghraifft, fel y soniwyd o’r blaen, mae canfyddiad nad yw swyddi o reidrwydd mor ddiogel â’r swyddi mewn diwydiannau eraill. Os na roddir sylw i’r bwlch sgiliau hwn, gallai achosi oedi gyda phrosiectau a risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch, oherwydd bod angen defnyddio gweithwyr dibrofiad, a bod pwysau ar led yr elw presennol ac amserlenni tynn (On-Site Magazine 2022).  

Felly, beth yw’r atebion i’r broblem hon? Sut ydyn ni’n denu’r genhedlaeth nesaf o dalent i’n diwydiant er mwyn iddyn nhw allu disodli ein gweithlu sy’n heneiddio? Wrth ystyried gofynion cynyddol sector adeiladu’r DU, amcangyfrifir bod angen cymaint â 266,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2026 i fodloni’r cwota hwn yn ddigonol (Maggiaini 2022). Mae gennym ni’r hen ddulliau a ddefnyddir yn aml, sef addysg a chodi ymwybyddiaeth. Mae’r rhain yn adnabyddus, gan eu bod yn gweithio, ond mae angen mwy o bresenoldeb mewn lleoliadau addysgol. Gall cydweithio â sefydliadau a chynnig rhaglenni lle cyflwynir pynciau sy’n gysylltiedig ag adeiladu ennyn diddordeb a darparu profiadau ymarferol, yn ogystal â hyrwyddo effaith gadarnhaol adeiladu, fel creu strwythurau eiconig a chyfrannu at gymunedau lleol. Bydd hyn i gyd yn helpu i feithrin ymdeimlad o bwrpas a balchder ymysg darpar weithwyr proffesiynol (Approach Personnel 2023). 

Ffordd arall yw mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae goresgyn delwedd hanesyddol y diwydiant o fod yn un sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn nod sylweddol, oherwydd efallai na fydd menywod yn ystyried adeiladu fel llwybr gyrfa sy’n apelio atynt oherwydd y rhagdybiaethau, fel yr oriau hir ac chyfran y dynion gwyn hŷn yn y maes. Mae menywod yn cyfrif am ychydig o dan hanner cyfanswm gweithlu’r DU ond dim ond 11% o’r gweithlu adeiladu, a dim ond 1% o’r gweithwyr ar safleoedd adeiladu (Cyngor y Diwydiant Adeiladu 2023). Mae gan y diwydiant adeiladu broblem amrywiaeth yn gyffredinol, gyda dim ond 5.4% o’i weithwyr yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae cyfraith bresennol y DU yn gwarchod grwpiau lleiafrifol rhag gwahaniaethu, ond nid yw’n ofyniad cyfreithiol i fonitro amrywiaeth yn y gweithle ac nid yw’n orfodol ymgymryd â hyfforddiant ar amrywiaeth na pholisïau gwrth-gamwahaniaethol.  

Gyda chyfran sylweddol o’r diwydiant adeiladu yn ddynion gwyn, mae risg sylweddol o ragfarn ddiarwybod wrth wneud penderfyniadau, a thuedd i ddiwylliannau gael eu siapio o amgylch y farn fwyafrifol (Sefydliad Siartredig Adeiladu 2023). Gall hyn arwain at ddiwylliant yn y gweithle lle mae ymddygiad ac iaith amhriodol yn cael eu hystyried yn arfer ‘normal’, gan roi’r argraff i’r rheini sy’n wynebu’r ymddygiad hwn nad adeiladu yw’r llwybr gyrfa iddynt. Mae’r bwlch sgiliau yn fater cyfredol y mae angen mynd i’r afael ag ef, a gallai dod yn fwy amrywiol a chynhwysol fynd ymhell i gynnal ein diwydiant. 

Felly, mae Cyngor y Diwydiant Adeiladu (2023) wedi awgrymu bod angen newid diwylliannol; dylid cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac i gael eu haddysgu am fanteision gweithlu amrywiol. Mae newid amlwg yr oedd mawr ei angen wedi bod ym maes adeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf – tuag at ddeall yn well a derbyn manteision Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae ymchwil wedi dangos bod hyn yn wir dro ar ôl tro: mae cwmnïau rhywedd-amrywiol 14% yn fwy tebygol o berfformio’n well na chwmnïau nad ydynt yn gwmnïau amrywiol, ac mae gweithleoedd ethnig amrywiol 35% yn fwy tebygol o berfformio’n well (NCFD 2016).  

Gyda’r gwelliannau clir a phendant hyn mewn canlyniadau, mae angen i’r diwydiant adeiladu weithredu’n gyflym i sicrhau’r manteision hyn. Eglurodd CIOB (2023) os yw’r diwydiant am wireddu ei uchelgeisiau i fod yn fwy cynhwysol a mwy amrywiol, mae angen i newid ddechrau gydag arweinyddiaeth. Mae gan arweinwyr botensial enfawr i ddylanwadu ar eraill drwy eu hagweddau cynhwysol, cefnogol a pharchus eu hunain. Mae mwy o hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac ymwybyddiaeth o’r rhain, wedi’i gysylltu ag ymddygiad cadarnhaol a newid diwylliannol. Ar ben hynny, dylai rhaglenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant bennu disgwyliadau a safonau, goblygiadau sawl math o ragfarn, a’r effaith y mae systemau, prosesau a diwylliannau sefydliadau yn ei chael o ran naill ai creu neu annog cynhwysiant (CIOB 2023).  

Fel sector sydd â phrinder sgiliau ar y gorwel, dylai cwmnïau adeiladu fod yn ystyried ffyrdd o annog mwy o bobl nag erioed i ddilyn gyrfa yn y diwydiant. Gallai agor cyfleoedd i ymgeiswyr amrywiol, a allai fod wedi teimlo eu bod wedi’u heithrio neu nad oes croeso iddynt yn y diwydiant adeiladu, fod yn ateb i’r prinder sgiliau ac i wella amrywiaeth yn y gweithle (Mintett 2021).  

Fodd bynnag, dim ond hanner y gwaith yw annog grwpiau amrywiol i ymuno â’r diwydiant adeiladu. Efallai mai’r cymhelliant mwyaf i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau hwn yw gweld amrywiaeth yn llwyddo ar waith. Mae ehangu’r gronfa dalent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni hyn, gan y bydd yn galluogi gweithwyr â phrofiad helaeth sydd heb gael eu cyrraedd o’r blaen – yn ogystal â thalent newydd sydd â sgiliau cyfredol a safbwyntiau arloesol – i hybu cynhyrchiant, grymuso creadigrwydd a gwella perfformiad masnachol (Maggiaini 2022). Gwelir yr effaith gylchol wrth i arallgyfeirio’r gweithlu adeiladu arwain at fwy o anogaeth i Bobl Ddu, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a menywod ymuno â’r diwydiant. O ganlyniad, mae angen ymrwymiad parhaus i feithrin diwylliant cynhwysol sy’n cymell unigolion amrywiol i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu. 

Mae adeiladu’n dal yn hollbwysig i greu a chynnal ein hamgylchedd adeiledig; rydyn ni’n byw mewn cymdeithasau amrywiol a chynhwysol ac mae angen i’r gwaith adeiladu adlewyrchu hyn. Gan fod cymaint o wybodaeth a phrofiad yn cael eu colli o’n diwydiant drwy boblogaeth waith sy’n heneiddio, mae ‘cyfle rhagorol’ i newid y diwylliant a symud tuag at ddiwydiant mwy amrywiol a chynhwysol sy’n denu pobl o drawstoriad o gymdeithas, ac sy’n gwerthfawrogi eu safbwyntiau, eu profiadau a’u syniadau.  

Mae paratoi ar gyfer dyfodol adeiladu yn y DU yn golygu cydweithio rhwng y llywodraeth, arweinwyr y diwydiant a sefydliadau addysgol. Gall mentrau ar y cyd sy’n cefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac yn cael gwared ar rwystrau rhag mynediad feithrin cyfleoedd cyfartal, codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd adeiladu, a thynnu sylw at botensial y diwydiant ar gyfer twf ac arloesi.