Prentisiaeth lefel 2 newydd i gefnogi prentisiaid adeiladu

March 4th, 2026

Llywodraeth Cymru a Medr yn cyhoeddi llwybrau prentisiaeth lefel 2 newydd i gefnogi prentisiaid adeiladu

Ar ôl ymgysylltu â chyflogwyr adeiladu, rhanddeiliaid yn y sector, darparwyr a dysgwyr, mae Llywodraeth Cymru a Medr wedi cyhoeddi y bydd llwybrau prentisiaeth lefel 2 newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Medr i ganfod sut gellir diwygio’r gyfres bresennol o gymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu er mwyn cyflwyno cymwysterau lefel 2 a fyddai’n cael eu cynnwys yn y prentisiaethau hyn.

Mae City & Guilds yn cynnal trafodaethau agos â Cymwysterau Cymru, ac mae wedi dechrau datblygu cymwysterau prentisiaeth lefel 2 mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd a sgaffaldio.

‘Mae galw amlwg am brentisiaethau adeiladu Lefel 2 yng Nghymru, ac mae’r llwybrau newydd a gyhoeddwyd yn brawf bod ein hymrwymiad i brentisiaethau yn parhau’n gadarn. Gall y sector fod yn hyderus bod Cymru’n adeiladu system fodern, hyblyg ar gyfer prentisiaethau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.’

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.

Mae City & Guilds wedi ymrwymo o hyd i gefnogi’r sector Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru. Bydd yn darparu rhagor o wybodaeth wrth i’n gwaith ar y cyd â Cymwysterau Cymru fynd ymlaen.

Darllenwch y cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru, Medr a Cymwysterau Cymru.