Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc sy’n cael ei drafod a’i dderbyn yn fwy agored mewn cymdeithas. Mae hyn hefyd yn digwydd yn y gweithle; fodd bynnag, mae’r diwydiant adeiladu yn dal i boeni am y stigma sy’n gysylltiedig â datgelu cyflwr iechyd meddwl. Mae gwroliaeth (machismo) yn hollbresennol ym maes adeiladu, ac fe deimlir hynny gan y gweithwyr sy’n ceisio cymorth ar gyfer yr hyn a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel ‘epidemig tawel’ (Stevenson a Farmer 2017).
Mae’r canfyddiad bod y diwydiant yn y trydydd safle o ran y sector sy’n peri’r mwyaf o straen yn y Deyrnas Unedig – gyda 82% o weithwyr yn profi straen ar ryw adeg bob wythnos – yn ategu’r angen am ddeialog gadarnhaol a newid agwedd ynghylch iechyd meddwl (Farrell 2018). Er bod cyfraddau adrodd yn codi, mae amharodrwydd i drafod iechyd meddwl yn agored yn y gweithle yn dal i fod (Van Ek a Le Feuvre 2021).
Adleisir y teimlad hwn gan Emma Mamo, Pennaeth Lles yn y Gweithle yn Mind, a dynnodd sylw at y diffyg parodrwydd i drafod iechyd meddwl mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, fel adeiladu. Mae hyn, yn ei dro, yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod cyfraddau hunanladdiad yn dal yn syfrdanol o uchel ymysg crefftwyr y sector adeiladu yn y DU. Mae’r ddelwedd ar y dudalen hon yn dangos murlun ac arno 687 o festiau llachar, sy’n cynrychioli nifer cyfartalog y marwolaethau blynyddol oherwydd hunanladdiad ymysg crefftwyr yn y DU yn 2021.
Mae dynion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer dynion, ac mae mwy o weithwyr adeiladu’n marw o ganlyniad i hunanladdiad nag o ganlyniad i syrthio bob blwyddyn, gyda dau berson yn gweithio yn y sector hwn yn colli eu bywydau oherwydd hunanladdiad bob dydd (APHC 2022). Mae hyn yn dangos bod angen newid a chael sgwrs agored am iechyd meddwl, gan fod 83% o bobl ym maes adeiladu wedi cael problem iechyd meddwl a 91% wedi teimlo eu bod wedi cael eu llethu (APHC 2022). Nid yw’r ystadegau hyn yn rhywbeth y gallwn fforddio ei anwybyddu.
Her arall yw bod y ddyletswydd gofal mewn deddfwriaeth bresennol yn rhoi pwyslais ar iechyd corfforol. Byddai ymgorffori iechyd meddwl o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (HASAWA), a gwneud materion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhai y mae modd adrodd arnynt o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR), yn amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl ac yn ei wneud yn gydradd ag iechyd corfforol. Byddai newid deddfwriaethol yn gorfodi’r cwricwlwm addysg presennol i ddarparu ar gyfer y newidiadau (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae addysg yn hanfodol i wella ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg cyflogwyr a gweithwyr, ac nid yn y gweithle yn unig, ond hefyd drwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn meithrin diwylliant o ddeall a derbyn yn gymdeithasol, gan gefnogi’r newid is-ddiwylliannol sy’n dechrau dod i’r amlwg (Van Ek a Le Feuvre 2021).
Mae newid ar y gorwel, wrth i agweddau a chanfyddiadau esblygu, ond mae’n araf – ac mae rhwystrau i’w goresgyn o hyd: ofni stigma, cywilydd a gweithwyr yn dewis bod yn hunanddibynnol (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae’n deg dweud bod llu o ymgyrchoedd wedi cael eu cynnal, gyda’r nod o godi proffil iechyd meddwl a chreu amgylchedd llawer mwy agored sy’n annog diwylliant o gefnogi a thrafod. Yn yr un modd, mae nifer o sefydliadau sy’n helpu gweithwyr adeiladu mewn ffyrdd cadarnhaol ac sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol. Mae angen i ni godi proffil iechyd meddwl a gwaith y sefydliadau hyn ymysg dysgwyr, gan mai nhw sydd ar lawr gwlad ac yn gallu rhannu neges gadarnhaol, yn ogystal â meithrin newid i gefnogi’r datblygiadau arloesol sydd eisoes yn dod i’r amlwg.
Mae’n anorfod y bydd trawsnewid diwylliant diwydiant cyfan yn cymryd amser, ond gyda dull amlochrog a chefnogaeth barhaus, mae newid yn bosibl. Mae gennym ni’r momentwm, felly gadewch i ni ei ddefnyddio fel grym ar gyfer gwelliant cadarnhaol a pharhaol.
Rhif Cyswllt y Samariaid: 116 123
Gwefan y Samariaid:
www.samaritans.org/how-we-can-help/contact-samaritan/ (Saesneg)
www.samaritans.org/cymru/how-we-can-help/contact-samaritan/welsh-language-phone-line/ (Cymraeg)
Rhif Cyswllt Mind: 0300 123 3393
Gwefan Mind: www.mind.org.uk/need-urgent-help/using-this-tool/
Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu: 0345 605 1956
Tecstiwch: HARDHAT i 85258
Ap Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu: Chwiliwch am: Construction Industry Helpline
Gwefan y Diwydiant Adeiladu: www.constructiondustryhelpline.com
Mae Diwydiant Adeiladu Mwy Amrywiol yn Ddiwydiant Adeiladu Cryfach
Gall bod yn fwy cynhwysol a hyrwyddo amrywiaeth helpu i gau’r bwlch sgiliau
Mae’r sector adeiladu’n chwarae rhan hollbwysig yn economi’r DU, gan gyfrannu £110 biliwn y flwyddyn – 7% o’r cynnyrch domestig gros (GDP) – a darparu gwaith i oddeutu 3.1 miliwn o unigolion, sy’n cyfrif am tua 9% o gyfanswm cyflogaeth y DU. Yn anffodus, mae’r diwydiant hwn yn wynebu argyfwng sylweddol y mae cofnod da ohono: y ‘bwlch sgiliau’. Mae 22% o’r gweithlu presennol dros 50 oed ac mae 15% yn eu 60au. Ar yr un pryd, yn y farchnad lafur bresennol, mae’r diwydiant hefyd yn colli gweithwyr iau i sectorau sy’n cystadlu ag ef, lle mae’r gwaith yn cael ei ystyried yn fwy sefydlog neu’n fwy atyniadol a lle mae’r cyflogau’n fwy cystadleuol (constructionmaguk.co.uk 2023). Yn yr un modd, esboniodd Minett (2021) bod y cenedlaethau iau o’r farn gyffredinol yw nad yw gweithio ym maes adeiladu yn ddymunol. Mae arolygon barn yn dangos mai dim ond 5% o ddysgwyr sy’n ystyried dilyn rolau yn y sector.
Fe wnaeth Evans (RICS 2019) ein hatgoffa bod her i’w goresgyn o ran esbonio i bobl ifanc beth sy’n ddeniadol am adeiladu. Ar ben hynny, awgrymodd Minett (2021) fod Brexit wedi cyflwyno cymhlethdodau newydd i wladolion yr UE sy’n chwilio am waith yn y DU, gan fynnu eu bod yn mynd drwy broses ymgeisio fisa ddrud a chymhleth.
Mae RICS (2019) wedi tynnu sylw at heriau eraill mae’r diwydiant yn eu hwynebu. Er enghraifft, fel y soniwyd o’r blaen, mae canfyddiad nad yw swyddi o reidrwydd mor ddiogel â’r swyddi mewn diwydiannau eraill. Os na roddir sylw i’r bwlch sgiliau hwn, gallai achosi oedi gyda phrosiectau a risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch, oherwydd bod angen defnyddio gweithwyr dibrofiad, a bod pwysau ar led yr elw presennol ac amserlenni tynn (On-Site Magazine 2022).
Felly, beth yw’r atebion i’r broblem hon? Sut ydyn ni’n denu’r genhedlaeth nesaf o dalent i’n diwydiant er mwyn iddyn nhw allu disodli ein gweithlu sy’n heneiddio? Wrth ystyried gofynion cynyddol sector adeiladu’r DU, amcangyfrifir bod angen cymaint â 266,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2026 i fodloni’r cwota hwn yn ddigonol (Maggiaini 2022). Mae gennym ni’r hen ddulliau a ddefnyddir yn aml, sef addysg a chodi ymwybyddiaeth. Mae’r rhain yn adnabyddus, gan eu bod yn gweithio, ond mae angen mwy o bresenoldeb mewn lleoliadau addysgol. Gall cydweithio â sefydliadau a chynnig rhaglenni lle cyflwynir pynciau sy’n gysylltiedig ag adeiladu ennyn diddordeb a darparu profiadau ymarferol, yn ogystal â hyrwyddo effaith gadarnhaol adeiladu, fel creu strwythurau eiconig a chyfrannu at gymunedau lleol. Bydd hyn i gyd yn helpu i feithrin ymdeimlad o bwrpas a balchder ymysg darpar weithwyr proffesiynol (Approach Personnel 2023).
Ffordd arall yw mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae goresgyn delwedd hanesyddol y diwydiant o fod yn un sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn nod sylweddol, oherwydd efallai na fydd menywod yn ystyried adeiladu fel llwybr gyrfa sy’n apelio atynt oherwydd y rhagdybiaethau, fel yr oriau hir ac chyfran y dynion gwyn hŷn yn y maes. Mae menywod yn cyfrif am ychydig o dan hanner cyfanswm gweithlu’r DU ond dim ond 11% o’r gweithlu adeiladu, a dim ond 1% o’r gweithwyr ar safleoedd adeiladu (Cyngor y Diwydiant Adeiladu 2023). Mae gan y diwydiant adeiladu broblem amrywiaeth yn gyffredinol, gyda dim ond 5.4% o’i weithwyr yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae cyfraith bresennol y DU yn gwarchod grwpiau lleiafrifol rhag gwahaniaethu, ond nid yw’n ofyniad cyfreithiol i fonitro amrywiaeth yn y gweithle ac nid yw’n orfodol ymgymryd â hyfforddiant ar amrywiaeth na pholisïau gwrth-gamwahaniaethol.
Gyda chyfran sylweddol o’r diwydiant adeiladu yn ddynion gwyn, mae risg sylweddol o ragfarn ddiarwybod wrth wneud penderfyniadau, a thuedd i ddiwylliannau gael eu siapio o amgylch y farn fwyafrifol (Sefydliad Siartredig Adeiladu 2023). Gall hyn arwain at ddiwylliant yn y gweithle lle mae ymddygiad ac iaith amhriodol yn cael eu hystyried yn arfer ‘normal’, gan roi’r argraff i’r rheini sy’n wynebu’r ymddygiad hwn nad adeiladu yw’r llwybr gyrfa iddynt. Mae’r bwlch sgiliau yn fater cyfredol y mae angen mynd i’r afael ag ef, a gallai dod yn fwy amrywiol a chynhwysol fynd ymhell i gynnal ein diwydiant.
Felly, mae Cyngor y Diwydiant Adeiladu (2023) wedi awgrymu bod angen newid diwylliannol; dylid cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac i gael eu haddysgu am fanteision gweithlu amrywiol. Mae newid amlwg yr oedd mawr ei angen wedi bod ym maes adeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf – tuag at ddeall yn well a derbyn manteision Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae ymchwil wedi dangos bod hyn yn wir dro ar ôl tro: mae cwmnïau rhywedd-amrywiol 14% yn fwy tebygol o berfformio’n well na chwmnïau nad ydynt yn gwmnïau amrywiol, ac mae gweithleoedd ethnig amrywiol 35% yn fwy tebygol o berfformio’n well (NCFD 2016).
Gyda’r gwelliannau clir a phendant hyn mewn canlyniadau, mae angen i’r diwydiant adeiladu weithredu’n gyflym i sicrhau’r manteision hyn. Eglurodd CIOB (2023) os yw’r diwydiant am wireddu ei uchelgeisiau i fod yn fwy cynhwysol a mwy amrywiol, mae angen i newid ddechrau gydag arweinyddiaeth. Mae gan arweinwyr botensial enfawr i ddylanwadu ar eraill drwy eu hagweddau cynhwysol, cefnogol a pharchus eu hunain. Mae mwy o hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac ymwybyddiaeth o’r rhain, wedi’i gysylltu ag ymddygiad cadarnhaol a newid diwylliannol. Ar ben hynny, dylai rhaglenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant bennu disgwyliadau a safonau, goblygiadau sawl math o ragfarn, a’r effaith y mae systemau, prosesau a diwylliannau sefydliadau yn ei chael o ran naill ai creu neu annog cynhwysiant (CIOB 2023).
Fel sector sydd â phrinder sgiliau ar y gorwel, dylai cwmnïau adeiladu fod yn ystyried ffyrdd o annog mwy o bobl nag erioed i ddilyn gyrfa yn y diwydiant. Gallai agor cyfleoedd i ymgeiswyr amrywiol, a allai fod wedi teimlo eu bod wedi’u heithrio neu nad oes croeso iddynt yn y diwydiant adeiladu, fod yn ateb i’r prinder sgiliau ac i wella amrywiaeth yn y gweithle (Mintett 2021).
Fodd bynnag, dim ond hanner y gwaith yw annog grwpiau amrywiol i ymuno â’r diwydiant adeiladu. Efallai mai’r cymhelliant mwyaf i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau hwn yw gweld amrywiaeth yn llwyddo ar waith. Mae ehangu’r gronfa dalent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni hyn, gan y bydd yn galluogi gweithwyr â phrofiad helaeth sydd heb gael eu cyrraedd o’r blaen – yn ogystal â thalent newydd sydd â sgiliau cyfredol a safbwyntiau arloesol – i hybu cynhyrchiant, grymuso creadigrwydd a gwella perfformiad masnachol (Maggiaini 2022). Gwelir yr effaith gylchol wrth i arallgyfeirio’r gweithlu adeiladu arwain at fwy o anogaeth i Bobl Ddu, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a menywod ymuno â’r diwydiant. O ganlyniad, mae angen ymrwymiad parhaus i feithrin diwylliant cynhwysol sy’n cymell unigolion amrywiol i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu.
Mae adeiladu’n dal yn hollbwysig i greu a chynnal ein hamgylchedd adeiledig; rydyn ni’n byw mewn cymdeithasau amrywiol a chynhwysol ac mae angen i’r gwaith adeiladu adlewyrchu hyn. Gan fod cymaint o wybodaeth a phrofiad yn cael eu colli o’n diwydiant drwy boblogaeth waith sy’n heneiddio, mae ‘cyfle rhagorol’ i newid y diwylliant a symud tuag at ddiwydiant mwy amrywiol a chynhwysol sy’n denu pobl o drawstoriad o gymdeithas, ac sy’n gwerthfawrogi eu safbwyntiau, eu profiadau a’u syniadau.
Mae paratoi ar gyfer dyfodol adeiladu yn y DU yn golygu cydweithio rhwng y llywodraeth, arweinwyr y diwydiant a sefydliadau addysgol. Gall mentrau ar y cyd sy’n cefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac yn cael gwared ar rwystrau rhag mynediad feithrin cyfleoedd cyfartal, codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd adeiladu, a thynnu sylw at botensial y diwydiant ar gyfer twf ac arloesi.
Cefnogi cynhadledd ColegauCymru fel y Prif Noddwr: Mynd i’r afael â’r materion a’r cyfleoedd y mae’r maes datblygu sgiliau yn eu hwynebu yng NghymruCynhaliwyd Cynhadledd flynyddol ColegauCymru eleni ar 12 Hydref yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd. Roedd yn anrhydedd i City & Guilds gael bod yn brif noddwr yn y digwyddiad, a ddaeth ag addysgwyr ac arweinwyr diwydiant ynghyd i drafod y materion allweddol sy’n wynebu addysg bellach yng Nghymru.
Gan fod disgwyl i’r cyd-destun addysg yng Nghymru drawsnewid yn sylweddol yn dilyn cyhoeddi cynlluniau i ailwampio’r broses o ddarparu a llywodraethu datblygu sgiliau ôl-16, roedd gan y rhai a oedd yn bresennol a’r siaradwyr gwadd ddigon i’w drafod. Gyda’r sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn ystod digwyddiad hollbwysig ar galendr addysg Cymru, roeddem yn falch o gael Angharad Lloyd-Beynon, Sian Beddis ac Eric Oliver yn cynrychioli City & Guilds yn y gynhadledd.
Cyfle i rwydweithio cyn y digwyddiad
Cyn y gynhadledd, ar 11 Hydref, aeth Angharad am ginio â’r penaethiaid coleg a’r Prif Weithredwyr a oedd wedi cael eu gwahodd i’r digwyddiad, ym mwyty hyfforddi Y Dosbarth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn ogystal â rhoi cyfle iddi siarad yn uniongyrchol â’r bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, roedd hyn hefyd yn gyfle i gael gweld sut roedd gwaith datblygu sgiliau City & Guilds yn mynd, gyda’r bwyd yn y bwyty yn cael ei baratoi a’i weini gan ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau City & Guilds.
Hefyd, clywodd y gwesteion yn y cinio gan y siaradwr ar gyfer y noson, sef Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru. Rhannodd Rhun ei feddyliau am bwysigrwydd colegau Addysg Bellach yng Nghymru a’r cyfleoedd y gallant eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu sgiliau hanfodol i sicrhau cyflogaeth.
Gwybodaeth o gynhadledd ColegauCymru 2023
Agorodd y gynhadledd y diwrnod canlynol gyda phawb a oedd yn bresennol yn llawn brwdfrydedd. Gan mai hon oedd cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf ColegauCymru ers 2019, roedd yn gyfle gwych i’r rheini sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u disgwyliadau ar gyfer y blynyddoedd nesaf ym myd addysg yng Nghymru.
Yn dilyn trafodaeth gyntaf y panel, cafwyd anerchiad gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Pwysleisiodd yn ei araith ei fod yn parhau i gefnogi’r sector addysg bellach yng Nghymru, gan gydnabod y gwerth y mae’n ei gynnig o ran cefnogi dysgwyr a chymunedau a helpu i ddatblygu economi gref yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn arwydd pwysig o gefnogaeth i’r gwaith y mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw ledled Cymru yn ei wneud, ac mae’n dangos pwysigrwydd hyfforddiant a datblygu sgiliau i ddyfodol Cymru.
Angharad oedd y nesaf ar y llwyfan, lle’r oedd yn gallu rhannu gwybodaeth am y gwaith y mae City & Guilds yn ei wneud yng Nghymru â’r 150 o bobl a oedd yn bresennol. Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at yr amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg, ac yn enwedig y gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o Sefydliad City & Guilds i ariannu amrywiaeth o brosiectau yng Nghymru.
Roedd yr araith hon hefyd yn gyfle i longyfarch enillwyr Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol a oedd yn bresennol, a dathlu sefydliadau yng Nghymru sydd wedi rhoi gwaith datblygu hyfforddiant a sgiliau rhagorol ar waith, sydd wedi arwain at fanteision i’r sefydliadau. Siaradodd Angharad hefyd am bopeth y mae City & Guilds yn ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Angharad “Fel y gallwch chi ddychmygu, roeddwn i ar bigau drain cyn siarad â chynulleidfa mor fawr a oedd yn cynnwys cyd-weithwyr o Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a chynrychiolwyr o’r holl golegau yng Nghymru gan gynnwys Penaethiaid, Prif Weithredwyr a nifer o randdeiliaid allweddol eraill.”
Ar ôl yr areithiau hyn, clywodd pawb gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd diddorol ar anghenion sgiliau’r dyfodol yng Nghymru, profiad y dysgwr, a sut bydd y Comisiwn newydd yn cefnogi’r sector addysg bellach o hyn allan. Gyda chynrychiolwyr o TUC Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i gyd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o ddysgu a datblygu yng Nghymru, roedd ystod eang o arbenigedd gwerthfawr i’w weld.
I grynhoi: gwybodaeth hanfodol a pharatoadau ar gyfer y dyfodol
Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd i bawb oedd y trafodaethau bywiog ar draws yr wyth gweithdy, gyda phynciau’n cynnwys strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i Gymru, sicrhau dyfodol dwyieithog i addysg bellach, a chyfleoedd a heriau deallusrwydd artiffisial. Mae gwerth y trafodaethau hyn yn tanlinellu’r cyfle gwych y mae’r digwyddiad hwn yn ei roi i rai o’r bobl fwyaf dylanwadol mewn byd addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd i weithio drwy’r materion y mae dysgwyr a darparwyr yng Nghymru yn eu hwynebu.
Roedd Cynhadledd ColegauCymru 2023 yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf y rheini ym mhob rhan o’r ecosystem hyfforddi yng Nghymru i gefnogi dysgwyr ar bob lefel. Drwy roi llwyfan i drafod yr heriau sy’n wynebu’r maes datblygu sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru, rhoddodd y gynhadledd gyfle hefyd i’r rhai a oedd yn bresennol siarad am atebion a pharhau i weithio gyda’i gilydd i greu dyfodol disglair i Gymru.
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru
Queen Elizabeth II – 1926-2022Hoffai pawb yn City & Guilds ac EAL fynegi eu cydymdeimlad dwysaf â’r Teulu Brenhinol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roedd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom, a’r enghraifft orau o wasanaeth cyhoeddus, ymroddiad personol a chadernid y gwyddom amdani. Mae City & Guilds yn falch o fod yn sefydliad Siartredig Brenhinol ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydym ni, a llawer o’n dysgwyr, wedi’i chael drwy’r ymrwymiad a ddangoswyd i bwysigrwydd sgiliau a’n hamcanion elusennol sy’n cael eu cydnabod gan y siarteriaeth hon. Bydd y golled yn cael ei theimlo’n ddwfn drwy’r wlad ac ar draws y byd. Mae ein gwaith hanfodol yn parhau, a byddwn yn rhannu’r newydd diweddaraf â’n canolfannau, ein dysgwyr a rhanddeiliaid eraill wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.