Adeiladu – Sgaffaldio

Lefel 2

Mae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Sgaffaldio wedi’i lunio i alluogi dysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o sgaffaldio. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion gweithleoedd adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.

Bydd y cymhwyster hwn, ynghyd â chadarnhad y cyflogwr, yn golygu y bydd modd profi bod dysgwyr yn alwedigaethol hyfedr.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16 oed a hŷn sy’n gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd.

Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gynllunio a chyflawni prosiectau sgaffaldio, yn unol â safonau cenedlaethol cydnabyddedig, cyn adolygu ansawdd eu gwaith.

Mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol:

  • gweithio yn y sector adeiladu
  • deddfwriaeth berthnasol
  • canllawiau technegol ar sgaffaldio
  • systemau sgaffaldio ac atal cwympiadau, a sgiliau mewn dehongli gwybodaeth, dewis a defnyddio adnoddau
  • mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol
  • sefydlu systemau diogelu rhag cwympo
  • codi a datgysylltu gwahanol fathau o strwythurau sgaffaldiau gan gynnwys rhai annibynnol, cawell adar, cantilifer, tyrau symudol a sefydlog, lifft mynediad i gerddwyr a chyfrwy to.

Mae’r cymhwyster wedi’i lunio i gael ei gwblhau’n rhan-amser fel rhan o brentisiaeth. Cyn yr asesiadau, mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu perfformiad a’u gallu yn gyntaf er mwyn sicrhau bod eu cyflogwr yn hapus.

Ar gael cyn bo hir – Pecyn Asesu Sgaffaldio

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, ynghyd â chael cadarnhad o hyfedredd galwedigaethol gan gyflogwr a bodloni’r gofynion hyfforddi ac asesu a osodir gan Gynllun Cofnod Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu (CISRS), bydd gan ddysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i allu gweithio fel Sgaffaldwyr ledled y DU. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gymhwyster Sgaffaldiwr Uwch.

This page was last updated on 19/06/2026 at 14:33 pm