Dilyniant mewn Adeiladu

Lefel 2

Read more

Ar gael o fis Medi 2021 ymlaen

Mae’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu wedi’i ddatblygu fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Adeiladu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 2 neu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’w crefft adeiladu.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn rhaglen ddysgu amser llawn am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cyflawni’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ond sydd heb brentisiaeth eto.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y diwydiant adeiladu
  • dysgwyr sydd wedi pasio’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ond sydd heb gyflogwr eto i fynd ymlaen i ddilyn prentisiaeth.

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi eu dilyniant llwyddiannus gyda’r rhaglen hon.

Mae dysgwyr yn dewis crefft i arbenigo ynddi o fewn y sector adeiladu ac i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r grefft honno, fel y’i cynhwysir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Bydd dysgwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar yr un uned grefft o’u dewis.

Unedau crefft:

  • Gosod brics
  • Saernïaeth Archaeolegol
  • Gwaith Coed ar y Safle
  • Gosod Fframiau Pren
  • Peintio ac addurno
  • Plastro soled
  • Töwr
  • Leinio Sych – Gosod
  • Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir.

Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau tair uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu:

  • cyflogaeth
  • sgiliau cyflogadwyedd; ac
  • arferion adeiladu cyffredinol.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at wella sgiliau’r dysgwyr cyn iddyn nhw ddechrau prentisiaeth.

Mae’r cymhwyster yn 540 o Oriau Dysgu dan Arweiniad. Gall dysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn yn llawn-amser dros flwyddyn gyfan.

I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:

  • un prawf amlddewis sydd wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
  • un prosiect sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis.
  • un drafodaeth lafar sydd wedi’i gosod yn allanol a’i marcio’n fewnol.

Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2) Pecyn Asesu (PDF)

Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2) Pecyn Prosiect Ymarferol Fersiwn A (PDF)

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr ddatblygu i:

  • Adeiladu Lefel 3 Dwy flynedd (maes crefft) – City & Guilds
  • Adeiladu Lefel 3 Tair blynedd (maes crefft) – City & Guilds
  • Cyflogaeth mewn maes sy’n ymwneud ag adeiladu.
This page was last updated on 24/05/2023 at 07:36 am