Mae Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi pasio eu Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ond sydd heb gyflogwr eto i barhau â Phrentisiaeth, gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau peirianneg gwasanaethau adeiladu eraill sy’n berthnasol i grefft o’u dewis.
Mae’n addas ar gyfer:
- dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector adeiladu neu’r amgylchedd adeiledig, gan ganolbwyntio ar beirianneg gwasanaethau adeiladu
- dysgwyr sydd wedi pasio eu cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ond sydd heb gyflogwr eto i barhau â phrentisiaeth.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi eu dilyniant llwyddiannus gyda’r rhaglen hon.
Mae dysgwyr yn dewis crefft i arbenigo ynddi o fewn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu ac i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r grefft honno, fel y’i cynhwysir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Bydd dysgwyr yn canolbwyntio eu hamser ar un uned grefft o’u dewis.
Unedau crefft:
- Systemau ac offer electro-dechnegol gosod
- Plymio a gwresogi.
Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau tair uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu:
- cyflogaeth
- sgiliau cyflogadwyedd; ac
- arferion adeiladu cyffredinol.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at wella sgiliau’r dysgwyr cyn iddyn nhw ddechrau prentisiaeth.
Mae’r cymhwyster yn 540 o Oriau Dysgu dan Arweiniad. Gall dysgwyr gwblhau’r cyfleuster hwn naill ai’n llawn-amser dros flwyddyn gyfan neu’n rhan-amser, er enghraifft ar raglenni datblygiad proffesiynol parhaus.
I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- un prawf aml-ddewis sydd wedi’i osod a’i farcio’n allanol
- un prosiect sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
- un drafodaeth lafar sydd wedi’i gosod yn allanol a’i marcio’n fewnol.
Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) Pecyn Asesu (PDF)
EAL Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) – Pecyn Prosiect Ymarferol – B (PDF)
Gallwch archebu’r asesiad ar y sgrin drwy fynd i ‘eal.Surpass.com’ drwy hyb EAL. Mae’r rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae canllawiau ar yr opsiynau asesu dwyieithog ar gael ar i’w llwytho i lawr oddi ar wefan EAL: Cyfarwyddiadau Asesu Dwyieithog.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr ddatblygu i:
- EAL Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Plymio a Gwresogi
- EAL Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Electro-dechnegol
- cyflogaeth mewn maes sy’n gysylltiedig â pheirianneg gwasanaethau adeiladu.
- Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) Llawlyfr Cymwysterau (Uploaded on 03/10/2022 at 12:01 pm)
- Canllawiau Cefnogi Canolfannau – Cefnogi canolfannau i ddarparu a sicrhau ansawdd cymwysterau Sgiliau i Gymru (Uploaded on 24/05/2023 at 07:35 am)