Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Mae’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.

Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cyflawni dysgu seiliedig ar waith, sydd mewn addysg bellach neu sydd mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgol. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 neu 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Mae Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi pasio eu Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ond sydd heb gyflogwr eto i barhau â Phrentisiaeth, gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau peirianneg gwasanaethau adeiladu eraill sy’n berthnasol i grefft o’u dewis.

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Gwres ac Awyru

Bydd y cymhwyster EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 – Crefftwr Gwresogi ac Awyru yn cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth.  Mae’n galluogi dysgwyr i ddangos ystod eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol fel Crefftwr Gwresogi ac Awyru.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Crefftwr Gwresogi ac Awyru

Bydd y cymhwyster Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Crefftwr Gwresogi ac Awyru yn cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth.  Mae’n galluogi dysgwyr i ddangos ystod eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol fel Crefftwr Gwresogi ac Awyru.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cymwysterau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Plymio a Gwresogi

Bydd y cymhwyster Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Plymio a Gwresogi yn cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth.  Mae’n galluogi dysgwyr i ddangos ystod eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol mewn plymio a gwresogi.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau peirianneg gwasanaethau adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i blymio a gwresogi.

Cymhwyster dilyniant darparu’r uned plymio a gwresogi Cymhwyster Dilyniant: Darparu’r uned plymio a gwresogi Paratoi i ddarparu’r cwrs Cynnydd mewn Plymio a Gwresogi Paratoi i ddarparu’r cymhwyster Sylfaen – Plymio, gwresogi ac awyru Paratoi i ddarparu’r cwrs Sylfaen mewn Plymio a gwresogi domestig Paratoi i ddarparu’r cwrs Sylfaen mewn Plymio a gwresogi domestig