Mae’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.
Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cyflawni dysgu seiliedig ar waith, sydd mewn addysg bellach neu sydd mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgol. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 neu 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.
Dilyniant mewn AdeiladuMae’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu wedi’i ddatblygu fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Adeiladu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 2 neu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’w crefft adeiladu.
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn rhaglen ddysgu amser llawn am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cyflawni’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ond sydd heb brentisiaeth eto.
Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuMae’r Cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i lunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.
Mae’r cymhwyster wedi’i anelu at ddysgwyr rhan-amser sydd wedi ennill Prentisiaeth Adeiladu neu Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu, ac nad ydynt wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu o’r blaen. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuLefel 2 a 3 eraillsy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.
Gellir dilyn y cymhwyster dros flwyddyn gan amlaf fel rhaglen ddysgu ran-amser yn rhan o fframwaith Prentisiaeth; neu ar gyfer gweithredwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn y sector yn fwy cyffredinol.
Adeiladu – Teilsio Waliau a LloriauMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Teilsio Waliau a Lloriau yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill mewn crefftau eraill.
Adeiladu – Plastro SoledMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Plastro Soled yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill mewn crefftau eraill.
Adeiladu – Peintio ac AddurnoMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Peintio ac Addurno yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill mewn crefftau eraill.
Adeiladu – Gwaith Coed ar y SafleMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Gwaith Coed ar y Safle yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill mewn crefftau eraill.
Adeiladu – Gwaith Coed PensaernïolMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Gwaith Coed Pensaernïol yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill mewn crefftau eraill.
Adeiladu – Gosod BricsMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Gosod Brics yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill mewn crefftau eraill.
Adeiladu – Leinio Sych – GosodMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) Leinio Sych – Gosod yn galluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn y grefft.