Paratoi i ddarparu Lefel 3 mewn Gwaith Peiriannau Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Mae’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.

Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cyflawni dysgu seiliedig ar waith, sydd mewn addysg bellach neu sydd mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgol. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 neu 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Dilyniant mewn Adeiladu

Mae’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu wedi’i ddatblygu fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Adeiladu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 2 neu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’w crefft adeiladu.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn rhaglen ddysgu amser llawn am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cyflawni’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ond sydd heb brentisiaeth eto.

Adeiladu – Gweithrediadau Peiriannau

Mae’r City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gweithrediadau Peiriannau ei ddatblygu i alluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau galwedigaethol mewn crefft adeiladu o’u dewis.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft o’u dewis, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.

Paratoi i ddarparu’r cymhwyster Sylfaen – Gweithrediadau adeiladu a gwasanaethau peirianneg sifil Gweithrediadau adeiladu a gwasanaethau peirianneg sifil, Gweithrediadau offer