Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Mae’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.

Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cyflawni dysgu seiliedig ar waith, sydd mewn addysg bellach neu sydd mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgol. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 neu 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Dilyniant mewn Adeiladu

Mae’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu wedi’i ddatblygu fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector Adeiladu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 2 neu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’w crefft adeiladu.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn rhaglen ddysgu amser llawn am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cyflawni’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ond sydd heb brentisiaeth eto.

Paratoi i ddarparu’r cwrs Sylfaen mewn Galwedigaethau Pren Paratoi i ddarparu’r cwrs Sylfaen mewn Galwedigaethau crefftau coed Paratoi i ddarparu’r cwrs Sylfaen mewn Galwedigaethau crefftau coed