Cylchlythyr Adeiladu – Crynodeb o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Read more

October 22nd, 2021

Technoleg Newydd ym maes Adeiladu

Croeso i’n hail gylchlythyr gan City and Guilds ac EAL. Bydd y cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi bob chwarter a bydd yn cynnwys:

  • Casgliad o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol y gellir ei defnyddio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  • Dolenni at adnoddau perthnasol
  • Cysylltiadau defnyddiol yn y diwydiant
  • Manylion digwyddiadau a hyfforddiant
  • Datblygiadau newydd yn y diwydiant a fydd yn helpu wrth gyflwyno’r cyrsiau Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.

Themâu’r cylchlythyr

Thema’r Cylchlythyr cychwynnol hwn yw Technoleg Newydd ym maes Adeiladu. Os oes themâu eraill yr hoffech i ni roi sylw iddynt yn y diweddariad chwarterol hwn i’r diwydiant, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at Charlie.evans@cityandguilds.com

Defnyddio Technoleg i Addysg Adeiladu CONVERT

Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) yn ail-lansio prosiect blaenllaw sy’n cael ei ariannu gan CITB o’r enw CONVERT (Hyfforddiant Adnoddau Rhith-Amgylchedd Adeiladu).  Mae CONVERT yr hydref hwn yn paratoi i gynnig cyfleoedd trochi gan ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd Realiti Rhithwir a Realiti Cymysg arloesol i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach ac Uwch.  

Mae cyfleoedd dysgu CONVERT yn cael eu darparu drwy ei bartneriaeth unigryw rhwng sefydliadau addysgol ledled y DU, gan gynnwys Coleg Bridgewater a Taunton, Coleg Cambria, Canolfan Arloesi Construction Scotland, Coleg Leeds, Prifysgol Cymru, Canolfan Arloesedd Adeiladu Cymru Dewi Sant a Chanolfan Arloesi Adeiladu Waltham Forest. 

Nod y prosiect yw creu gwely prawf lle mae Dysgu Trochi yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â dulliau dysgu ac addysgu traddodiadol i gyd-destunoli’r ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth.  Ar ben hynny, mae gwreiddio dysgwyr yn ein rhith-amgylchedd ar draws pedair galwedigaeth allweddol yn y diwydiant yn cynyddu eu sgiliau ac yn eu hymgyfarwyddo â chyfarpar arbenigol. Mae hyn yn ei dro yn lleihau gwallau, damweiniau, amser a chostau.  Roedd hyn i gyd yn bosibl drwy ddefnyddio Dysgu Trochi mewn ffordd bwrpasol a gwybodus. 

Dyma’r datrysiadau CONVERT:

  • Defnyddio Dronau Adeiladu (Realiti Rhithwir)
  • Peiriannau Gwaith Coed a Chwistrellu Paent (Realiti Rhithwir a Realiti Cymysg)
  • Gweithio ar Uchder – Sgaffaldiau (Realiti Rhithwir)
  • Porydd Elfen Amgylchedd Adeiledig Rhithiol, sef Virtual Built Environment Element Explorer – VBEEE (Realiti Rhithwir)

Dywedodd Gareth Wyn Evans, Pennaeth Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru:

“Nod datrysiadau CONVERT arloesol CWIC yw gyrru addysg adeiladu yn ei blaen a hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau sy’n torri tir newydd ym myd addysg.”

“O safbwynt addysg a’r diwydiant adeiladu, mae hyfforddiant trochi a hyfforddiant o bell yn ddiddorol, yn gost-effeithiol ac yn ddiogel, ac mae’n rhoi profiad go iawn i’r hyfforddeion nad yw bob amser ar gael mewn cyfleusterau addysgol.

Mae CONVERT yn gwneud hyn drwy ganiatáu i ddysgwyr archwilio, ymgyfarwyddo, ac ymarfer yn ein hamgylchedd efelychol.  Yn ei dro, gall dysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad heb amharu ar ganlyniadau yn y byd go iawn. 

Er bod Covid-19 wedi cyfyngu ar ein mynediad at amgylcheddau gwaith byw, mae Realiti Rhithwir, yn enwedig drwy’r prosiect CONVERT, wedi galluogi dysgwyr i brofi syniadau, cydrannau a nodweddion cyn eu neilltuo ar gyfer adeiladu, lle mai dim ond mewn gwerslyfrau a chyflwyniadau ar-lein y maen nhw wedi dod ar draws y pwnc o’r blaen.  Mae hyn i bob pwrpas yn digideiddio’r ddarpariaeth ac yn ceisio newid canfyddiadau o’r sector adeiladu sy’n esblygu. Gyda’r cynllun peilot wedi’i gwblhau erbyn hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno mynediad at ein datrysiadau ymhellach.” 

Mae CWIC eisoes wedi treialu ei chyfleoedd ‘rhith- ymarferol’ mewn partneriaeth â CIOB. Treialwyd rhaglen gyda dysgwyr addysg bellach, lle defnyddiwyd ein meddalwedd arddull gemau. Roedd y cynllun peilot yn galluogi’r dysgwyr i archwilio a phrofi’r broses adeiladu drwy adeiladu amrywiaeth o wahanol adeiladau ar-lein.  Ar ôl ei gwblhau, roedd y dysgwyr yn gallu cymharu’r mesurau perfformiad, cynaliadwyedd a chost a oedd yn rhan o’r adeilad gorffenedig.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich dysgwyr a’ch myfyrwyr elwa o’r profiadau cyffrous hyn, cysylltwch â Julie Evans (julie.evans@uwtsd.ac.uk)

Rheoli Gwybodaeth Adeiladu (BIM)

Ni fyddai unrhyw gylchlythyr am dechnoleg newydd yn gyflawn heb sôn am BIM. Ysgrifennwyd yr erthygl ddiddorol hon gan Nigel Robins. Nigel yw’r prif ddadansoddwr data ar hyn o bryd ar Raglen Adfer a Thrwsio Palas San Steffan (Senedd y DU). Mae ganddo gefndir ym meysydd treftadaeth a chadwraeth, yn enwedig adeiladau diwydiannol.

BIM, y cyfleoedd newydd ar gyfer cadwraeth treftadaeth

Golwg ddigidol ar Balas San Steffan sy’n dangos yr holl simneiau a’r llefydd tân (lliw glas). Rydyn ni’n defnyddio modelau digidol i amcangyfrif yr holl waith rydyn ni’n bwriadu ei wneud.)

Sgriw bychan wedi’i wneud â llaw yn eu miloedd yn y 1840au gyda gorffeniad tyllog. Mae BIM yn caniatáu i ni ddeall y pethau mawr a’r pethau bach iawn. Mae angen i ni gyfrifo faint o sgriwiau sydd eu hangen arnom i adnewyddu’r drysau i gyd!

Pan gefais fy nghyflwyno gyntaf flynyddoedd lawer yn ôl i fyd Modelu Gwybodaeth Adeiladau (BIM), dywedodd fy hyfforddwr “mae’r diwydiant adeiladu wedi bod yn gwneud pethau yr un fath ers miloedd o flynyddoedd…mae concrit yn cael ei dywallt, mae brics yn cael eu pentyrru, mae pren yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fframiau a ffitiadau a systemau gwresogi a dŵr yn cael eu dylunio”. Mae adeiladu modern yn newid y technegau hynny, ond yn yr un modd, mae llawer o dechnegau adeiladu traddodiadol yn cael eu hailwerthuso a’u deall o safbwynt cynaliadwyedd. Mae technegau TG a data modern yn fy ngalluogi i olrhain cadwyni cyflenwi ar gyfer pren a deunyddiau eraill a deall effaith adeiladu ac adfer ar amgylcheddau ac adnoddau lleol a chenedlaethol.

Fy ngwaith ar hyn o bryd yw cymhwyso technoleg newydd i adfer ac atgyweirio Palas San Steffan. Mae’r rhaglen adfer yn gymysgedd cymhleth o waith atgyweirio cerrig traddodiadol, cadwraeth ffenestri lliw, plastr, a miloedd o osodion a ffitiadau mewn pres, haearn a gwydr. Bellach, gellir sganio gwrthrychau i’w trwsio neu eu hadfer mewn 3D ac asesu eu cyflwr cyn datgymalu neu ddechrau gweithio. Mae defnyddio technegau sganio laser modern yn ein galluogi i gofnodi’n fanwl iawn waith cerrig neu ffenestri problemus y gallai fod angen eu newid. Bellach mae gennyf fynediad at fodel digidol 3D o’r ystafelloedd rwy’n bwriadu eu hadfer, a gallaf ddeall a chynllunio ar gyfer adfer papur wal, lloriau, plastr, drysau a ffenestri mewn manylder nad oedd yn bosibl prin 5 mlynedd yn ôl. Gallaf greu model digidol o adeilad cyfan a chysylltu fy holl wybodaeth â lleoliadau penodol mewn copi digidol dyblyg o’r adeilad ei hun. Mae hyn eisoes yn cael budd wrth i ni gofnodi union fanylion daearegol pob gwaith trwsio cerrig rydyn ni’n ei gwblhau.

Mae deall fy adeilad ym myd newydd BIM yn golygu y gallaf ragweld faint o waith trwsio traddodiadol y bydd ei angen ac a fydd gennyf gyfleoedd i ddefnyddio dulliau a thechnegau newydd. Rwy’n gwybod bod rhai o’r hen ffenestri llithro mewn aloi anarferol o efydd a phlwm ac efallai y bydd yn rhaid eu hargraffu mewn 3D gan na allwn atgynhyrchu’r aloi na’r castiau cain o’r 1840au. Mae sganiau eraill o ddrysau derw o’r 1850au yn fy helpu i ddeall bod angen i mi gael 120 o sgriwiau pres bach ar gyfer pob drws wedi’i adnewyddu. Mae’n bwysig gwybod hyn pan fydd gennych chi dair mil o ddrysau i gynllunio ar eu cyfer!

Felly, mae fy myd digidol nawr yn cael ei ddefnyddio i ddod â thechnegau adeiladu a saernïo modern at ei gilydd a’u cyfuno â dulliau traddodiadol o atgyweirio ac asesu effeithiau ac olion traed cynaliadwyedd. Gallaf efelychu perfformiad ynni’r gwaith atgyweirio ac arbrofi gyda gwahanol ddulliau o adfer.

Mae’n hawdd dod o hyd i bopeth rydyn ni’n ei greu ar sgriniau ffôn, felly mae gan y swyddog cadwraeth neu grefftwr yr holl wybodaeth hanfodol yn y lle iawn a’r amser iawn – mantais anhygoel wrth geisio arbed amser ac arian!

Efallai mai’r peth gorau am hyn oll yw gallu cyfuno sgiliau adeiladu traddodiadol â thechnoleg TG arloesol, sydd eisoes yn trawsnewid y ffordd rydyn ni’n gofalu am ein hamgylchedd adeiledig.

Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC

Yma yng Nghymru, mae SPECIFIC, yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn arwain y ffordd mewn ymchwil i systemau a thechnolegau ynni ar gyfer adeiladau. Mae’r prosiect wedi datblygu cysyniad o’r enw ‘Adeiladau Gweithredol’ lle mae adeiladau wedi’u cynllunio i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni adnewyddadwy eu hunain. Eu nod yw datblygu technolegau fforddiadwy y gellir eu cynhyrchu mewn swmpo ran cyfaint, eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ar ddiwedd eu hoes.

Defnyddir adeiladau arddangos SPECIFIC i brofi a dilysu syniadau newydd. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys ystafell ddosbarth, swyddfa a warws. Maen nhw hefyd yn cefnogi Grŵp Pobl i ddatblygu 16 o gartrefi ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.

Bydd gwella perfformiad ynni adeiladau yn rhan hanfodol o ymdrechion i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rhan greiddiol o waith SPECIFIC yw rhannu dysgu a chefnogaeth i eraill er mwyn mabwysiadu a gwella dyluniad adeiladau carbon isel. Drwy ymgysylltu’n rhagweithiol â’r diwydiant adeiladu a busnes, maen nhw wedi helpu dros 200 o sefydliadau i redeg yn fwy cynaliadwy neu i ddatblygu cynnyrch a phrosesau carbon isel. Maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau allgymorth gydag ysgolion a cholegau i annog datblygu sgiliau perthnasol ar gyfer y diwydiant adeiladu yn y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith arloesol hwn ar gael yn yr astudiaethau achos a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r technolegau newydd sydd wedi cael eu defnyddio, fel ffotofoltaigau organig a storio gwres solar.

Ewch i wefan SPECIFIC

Casgliad B1M o fideos addysgiadol ac ysbrydoledig.

Os ydych chi’n chwilio am adnoddau i ysbrydoli, i ennyn diddordeb ac i ysgogi eich dysgwyr, yna peidiwch ag edrych ymhellach na’r B1M. Mae gwefan B1M yn datgan ‘rydyn ni wrth ein bodd yn adeiladu, ac rydyn ni am i’r byd i gyd ei garu hefyd’. Mae’r wefan yn cynnig fideos byr o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau adeiladu, gan gynnwys technolegau newydd. Y newyddion da yw eu bod i gyd yn rhad ac am ddim!

Gallwch ddod o hyd i fideos am bynciau sy’n amrywio o BIM, Roboteg Adeiladu, Dinasoedd Clyfar a Bywyd Micro – dim ond rhai ohonyn nhw a enwir yma.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

Sut bydd y tŷ 3-D hwn yn newid y byd: Mae’r fideo hwn yn dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y dechnoleg ar gyfer adeiladau wedi’u hargraffu mewn 3-D ac yn trafod yr arbedion cyffredinol a’r arbedion effeithlonrwydd y gall hyn eu cynnig.

Gweld y fideo

Pam y dylai pob adeilad fod yn bren: Mae’r fideo hwn yn dangos sut mae dulliau prosesu arloesol wedi adfer pren wrth i’r deunydd adeiladu pwysig hwn gamu i’r dyfodol.

Gweld y fideo

Sut gall adeiladau bweru ein byd: Mae’r fideo hwn yn archwilio sut y gallwn gynhyrchu ynni, arbed ynni a gwella effeithlonrwydd ynni hen adeiladau gan ddefnyddio technoleg newydd.

Gweld y fideo

Deunyddiau arloesol ym maes adeiladu: Dyma glip byr diddorol sy’n egluro concrid hunan-drwsio, teils llawr sy’n cynhyrchu ynni a dulliau argraffu 4-d a allai arwain at ddatblygiadau enfawr mewn plymio a meysydd adeiladu eraill.

Gweld y fideo

Adeiladu oddi ar y safle

Mae tai ‘modiwlaidd’ sydd wedi’u gwneud yn y ffatri yn opsiwn ar gyfer cynyddu’n gyflym nifer y tai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel sy’n cael eu hadeiladu ledled Cymru. 

Gan fod modd cynhyrchu cartrefi modiwlaidd yn unol â safonau llym mewn amgylchedd ffatri a reolir, maen nhw’n goresgyn yr her o geisio adeiladu ym mhob tywydd ac yn agor y posibilrwydd o goleddu technoleg i gyflwyno arbedion effeithlonrwydd pellach yn y broses gynhyrchu.

I gael rhagor o wybodaeth am y ffeithiau a’r camsyniadau a dyfodol adeiladau modiwlaidd, efallai y bydd y weminar hon sydd wedi’i recordio yn ddefnyddiol i chi. Mae’r weminar yn cael ei chyflwyno gan Ben Wernick, Rheolwr-gyfarwyddwr Wernick Construction a chefnogwyd y digwyddiad gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).

Gweld y weminar

Cyfleoedd DPP – Sioeau masnach

Os ydych chi’n chwilio am gyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Wythnos Adeiladu’r DU yw digwyddiad amgylchedd adeiledig mwyaf y DU ac fe’i cynhelir yn Birmingham rhwng 5 a 7 Hydref 2021 a Llundain rhwng 3 a 5 Mai 2022.

Mae’n rhoi sylw i amrywiaeth enfawr o bynciau diddorol, gan gynnwys technolegau newydd ym maes adeiladu. Os na allwch chi ddod i’r digwyddiadau, mae platfform ar-lein y gallwch gofrestru ar ei gyfer.

Ewch i wefan Wythnos Adeiladu’r DU

Yng Nghymru, mae Sioe Adeiladu Cymru wedi cael ei gohirio tan 2022 ond bydd yn cyflwyno gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau newydd ac arloesol, datblygiadau yn y diwydiant adeiladu a seminarau llawn gwybodaeth gan Arbenigwyr y DU.

Ewch i’r wefan (Saesneg yn unig)