Mae City & Guilds ac EAL yn gweithio gyda’i gilydd i fod yn unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Adeiladwaith a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru, y gellir eu hariannu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed ac yn barod i’w dysgu am y tro cyntaf o fis Awst 2021. Er mwyn helpu i baratoi canolfannau, darparwyr hyfforddiant a dysgwyr, mae’r gweithgareddau canlynol wedi’u trefnu:
Amserlen ddiwygio
Read moreAwst 2019 - Ebrill 2020
Cyfres o weithgareddau ymgynghori gyda chanolfannau a rhanddeiliaid i drafod cynnwys ac asesiad y cymwysterau.
Mawrth 2020
Yr un ffynhonnell newydd o wybodaeth – sef gwefan ‘Sgiliau i Gymru’ yn mynd yn fyw.
Haf 2020
Bydd fersiynau drafft o fanylebau’r cymwysterau ar gael.
Rhagfyr 2020
Mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu cymeradwyo’r cymwysterau a’r manylebau terfynol a bydd dogfennau allweddol ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Ionawr 2021
Cyfres gyntaf o adnoddau i diwtoriaid/athrawon ar gael.
Gwanwyn 2021
Bydd City & Guilds | EAL yn cynnal digwyddiadau hyfforddi ar gyfer canolfannau sy’n dymuno cyflwyno’r cymwysterau newydd. Bydd cyflwyniadau o geisiadau cymeradwyo canolfannau yn cychwyn.
Awst 2021
Lefel 2
Canllawiau cyflwyno ac asesu ar gael ac mae'r dysgu'n dechrau.
Gwanwyn 2022
Bydd City & Guilds | EAL yn cynnal digwyddiadau hyfforddi ar gyfer canolfannau sy’n dymuno darparu’r cymwysterau Lefel 3 newydd.
Medi 2022
Lefel 3
Canllawiau cyflwyno ac asesu ar gael ac mae'r dysgu'n dechrau.