Cefnogaeth

Read more
Bydd y cymwysterau galwedigaethol newydd yn gymwysterau cymeradwy cyfyngedig ac felly byddant ond ar gael wrth City & Guilds | EAL - byddant yn ymddangos ar gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW). Mae hyn yn golygu mai nhw fydd yr unig fersiwn o'r cymwysterau hyn a fydd yn gymwys i gael cyllid cyhoeddus. O fis Medi 2021, byddant yn ymddangos yn fframweithiau Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW).
Cynhaliodd Cymwysterau Cymru adolygiad o gymwysterau yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig a chyhoeddwyd eu canfyddiadau yn yr adroddiad Adeiladu'r Dyfodol: Adroddiad yr Adolygiad Sector o'r System Gymwysterau ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig. Canfuwyd y dylid gwneud nifer o newidiadau i'r system i symleiddio tirwedd cymwysterau gan wneud llwybrau dilyniant yn fwy eglur, ac yn y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym, bod y cymwysterau'n cyd-fynd â'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano fel y gall dysgwyr fod yn barod ar gyfer byd gwaith.
Bydd y cymwysterau newydd Lefel 2 a Lefel 3 ar gael i’w dysgu am y tro cyntaf o 1 Medi 2021, a Lefel 3 o Medi 2022.
Mae City & Guilds | EAL yn datblygu cymwysterau Lefel 2 a 3, ac mae CBAC yn datblygu TGAU, UG a Safon Uwch. Bydd y cymwysterau hyn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd i barhau â'ch dysgu, a gweithio yn y sector. Mae yna lwybrau sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau, cyflogaeth yn ogystal â dysgu yn y gwaith.
Byddan. Cynlluniwyd y cymwysterau galwedigaethol newydd i'ch paratoi'n fwy trylwyr ar gyfer cyflogaeth. Bydd y cymwysterau yn seiliedig ar safonau galwedigaethol sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, ac oherwydd hyn, byddwch yn gymwys i weithio ledled y DU. Bydd cyflwyno'r cymwysterau Sylfaen a Dilyniant yn rhoi gwybodaeth eang, dealltwriaeth a sylfaen gadarn i ddysgwyr ar draws y sector ar Lefel 2, tra bydd y brentisiaeth yn arwain at gymhwysedd galwedigaethol i gael mynediad at gerdyn sgiliau. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau’r cynllun cerdyn sector er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r cynlluniau cerdyn perthnasol.
Byddan. Mae'r rhan fwyaf o'r cymwysterau yn cynnig llwybr i symud ymlaen at astudiaethau pellach, tra bod y cymhwyster prentisiaeth yn galluogi symud ymlaen at faes cyflogaeth o’u dewis. Mae'r cymhwyster dilyniant Lefel 2 a phrentisiaeth Lefel 3 yn cynnig ystod o lwybrau i ddewis ohonynt.
Byddwch, bydd yr holl gymwysterau newydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gofynnwch i'ch darparwr hyfforddiant, coleg neu ysgol sut maen nhw'n bwriadu cyflwyno'r cymwysterau yn Gymraeg.
Mae City & Guilds ac EAL wedi datblygu gwefan Sgiliau i Gymru fel un ffynhonnell o wybodaeth am y cymwysterau hyn sy’n cael eu datblygu. Gallwch hefyd siarad â'ch coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yng Nghymru amdanynt.
Bydd y cymwysterau newydd ar gael i’w dysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2021. Dim ond dysgwyr sy'n cofrestru ar 1 Medi 2021 neu ar ôl hynny fydd yn cael cymryd y cymwysterau newydd. Bydd y cymwysterau presennol yn aros yn eu lle tan y dyddiad hwnnw. Bydd y broses derfynol o gofrestru dysgwyr cymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu Lefel 2 a Lefel 3 cyfredol, a ddefnyddir gan ganolfannau ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed a phrentisiaid, yn digwydd ym mis Awst 2021.
Mae City & Guilds ac EAL wedi datblygu gwefan Sgiliau i Gymru fel un ffynhonnell o wybodaeth am y cymwysterau hyn sy’n cael eu datblygu. Cadwch lygad ar y wefan a chofrestrwch am y newyddion, digwyddiadau a chymwysterau diweddaraf – yn syth i’ch mewnflwch. Cofrestrwch am y negeseuon e-bost
Os ydych chi eisoes yn astudio ar gyfer cymhwyster mewn adeiladu neu beirianneg gwasanaethau adeiladu cyn Medi 2021, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi. Byddwch yn parhau â'ch astudiaethau cyfredol nes cwblhau'r cymhwyster. Byddwn yn darparu gwybodaeth i'ch canolfan i'ch helpu i archwilio pa gyfleoedd dilyniant a allai fod ar gael i chi.
Os oes gennych gymhwyster eisoes sy'n ofynnol ar hyn o bryd ar gyfer eich rôl a bod eich Cerdyn Sgiliau yn ddilys, bydd hyn yn dal i gael ei gydnabod a'i dderbyn i weithio ar safle yn y DU. Byddwn yn gweithio'n agos â sefydliadau’r cynllun cerdyn sgiliau i sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn darparu'r lefel gywir o sgil i'w hychwanegu at y rhestr ofynnol o gymwysterau cenedlaethol ar gyfer y cerdyn sgiliau priodol.

Mae’n ddrwg gennym.

Does dim modd dod o hyd i’r hyn roeddech chi’n chwilio amdano :(
Rhowch gynnig arall arni drwy newid eich hidlydd neu’ch chwiliad.