Adeiladu – Gorchuddio Lloriau

Lefel 3

Mae City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gorchuddio Lloriau wedi’i lunio i alluogi dysgwyr sy’n dysgu yn y gwaith i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o Orchuddio Lloriau a sut mae hyn yn cael ei gyflawni yng Nghymru.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2), neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn, ynghyd â chadarnhad y cyflogwr, yn golygu y bydd modd profi bod dysgwyr yn alwedigaethol hyfedr.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16 oed a hŷn sy’n gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd.
  • dysgwyr sydd un ai wedi pasio’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth.

Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gynllunio a chyflawni prosiectau Gorchuddio Lloriau, yn unol â safonau galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol, cyn adolygu a gwerthuso ansawdd allbynnau’r prosiect. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o sut mae cyflawni eu rolau fel rhan o dimau cynhyrchiol ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Gellir defnyddio’r cymhwyster ledled y DU a’i nod yw datblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda’r stoc adeiladu draddodiadol, newydd a chyn-1919, a deall technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r cymhwyster wedi’i lunio i gael ei gwblhau’n rhan-amser fel rhan o brentisiaeth. Cyn yr asesiadau, mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu perfformiad a’u gallu yn gyntaf er mwyn sicrhau bod eu cyflogwr yn hapus.

Ar gael cyn bo hir – Pecyn Asesu Gorchuddio Lloriau

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddysgwyr allu gweithio ym maes Gorchuddio Lloriau ledled y DU.

This page was last updated on 12/06/2026 at 15:55 pm