Adeiladu – Gwaith Coed ar y Safle

Lefel 2

Mae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Gwaith Coed ar y Safle wedi’i lunio i alluogi dysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o waith coed ar y safle. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion gweithleoedd adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.

Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd naill ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen 8042 a/neu’r cymhwyster/cymwysterau Dilyniant 8042 Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu sy’n cwblhau’r asesiadau a’r dysgu yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn, ynghyd â chadarnhad y cyflogwr, yn golygu y bydd modd profi bod dysgwyr yn alwedigaethol hyfedr.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16 oed a hŷn sy’n gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd.

Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gynllunio a chyflawni prosiectau gwaith coed ar y safle, yn unol â safonau galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol, cyn adolygu ansawdd allbynnau’r prosiect.

Mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol:

  • gweithio yn y sector adeiladu
  • deddfwriaeth berthnasol
  • gwaith coed ar y safle

a sgiliau mewn

  • dehongli gwybodaeth, dewis a defnyddio adnoddau
  • mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol
  • gosod cydrannau’r ffics cyntaf
  • gosod cydrannau’r ail ffics
  • codi cydrannau fframwaith strwythurol.

Mae’r cymhwyster wedi’i lunio i gael ei gwblhau’n rhan-amser fel rhan o brentisiaeth. Cyn yr asesiadau, mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu perfformiad a’u gallu yn gyntaf er mwyn sicrhau bod eu cyflogwr yn hapus.

Ar gael cyn bo hir – Pecyn Asesu Gwaith Coed ar y Safle

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster, ynghyd â chadarnhad o hyfedredd galwedigaethol gan gyflogwr, yn rhoi i’r dysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn gallu gweithio ym maes gwaith coed ar y safle ledled y DU. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gymhwyster crefft Gwaith Coed ar y Safle Lefel 3.

This page was last updated on 19/06/2026 at 14:33 pm