Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Lefel 2

Read more

Ar gael o fis Medi 2021 ymlaen

Mae’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.

Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cyflawni dysgu seiliedig ar waith, sydd mewn addysg bellach neu sydd mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgol. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 neu 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • gweithredwyr safleoedd sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn y sector yn fwy cyffredinol.

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi eu cynnydd llwyddiannus gyda’r rhaglen hon.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned ‘graidd’, sy’n cwmpasu:

  • cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig,
  • cyflogaeth a sgiliau cyflogadwyedd; ac
  • iechyd a diogelwch.

Yn ychwanegol at yr unedau ‘craidd’ hyn, bydd dysgwyr yn dewis dau lwybr er mwyn treulio amser ychwanegol yn dysgu, a fydd yn cynnwys cynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau cyffredinol. Noder: Wrth i’r broses ymgynghori a dyluniad y cymhwyster fynd rhagddynt, gallai teitlau’r llwybrau canlynol newid. Llwybrau:

  • Gweithio gyda briciau, blociau a cherrig
  • Galwedigaethau crefftau coed
  • Peintio ac addurno
  • Plastro a systemau mewnol
  • Plymio a gwresogi domestig
  • Galwedigaethau toi
  • Systemau ac offer electro-dechnegol
  • Gweithrediadau adeiladu a gwasanaethau peirianneg sifil
  • Gweithrediadau offer (yn cael ei drafod)
  • Teilsio waliau a lloriau

Mae’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu:

  • eu dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw’n newid, ac wedi newid, dros amser
  • eu dealltwriaeth o grefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • eu dealltwriaeth o gylch oes adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ym mhob cam
  • eu dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel y bo’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • eu gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • eu sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn bwysig ac yn berthnasol i’r gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • eu gwybodaeth am yr egwyddorion ar gyfer gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch, llesiant a’r amgylchedd, a gallu rhoi’r rheini ar waith
  • yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys 540 awr o ddysgu dan arweiniad. Bydd dysgwyr yn gallu cwblhau’r cymhwyster hwn dros flwyddyn cyn symud ymlaen i’r cymhwyster Dilyniant, neu i brentisiaeth. Bydd yr holl ddysgwyr yn cwblhau’r chwe uned ‘craidd’ a dwy uned crefft.

I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:

  • un prawf amlddewis sydd wedi’i osod a’i farcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol sy’n cwmpasu dau faes crefft
  • un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi’i gosod yn allanol a’i marcio’n fewnol

Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) Pecyn Asesu (PDF)

Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) Pecyn Prosiect Ymarferol Fersiwn B (PDF)

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu neu’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth ragarweiniol a sgiliau mewn dau lwybr o’u dewis. Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth i symud ymlaen i astudio ymhellach:

  • Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 – City & Guilds
  • Cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 – EAL
  • Adeiladu Lefel 3 (maes crefft) – City & Guilds
  • Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 (maes crefft) – EAL

Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth o fewn y sector yn y grefft o’u dewis.

This page was last updated on 07/09/2023 at 16:55 pm