Bydd y cymhwyster EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 – Crefftwr Gwresogi ac Awyru yn cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i ddangos ystod eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol fel Crefftwr Gwresogi ac Awyru.
Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.
Mae’n addas ar gyfer:
- dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu ar hyn o bryd
- dysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth.
Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, yna mae’n rhaid bodloni gofynion penodol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi eu cynnydd llwyddiannus gyda’r rhaglen hon.
Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r grefft Gosod Gwres ac Awyru, fel y’u cynhwysir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau dwy uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu’r sector peirianneg gwasanaethau adeiladu ac arferion o fewn y sector yng Nghymru.
Bydd modd defnyddio’r cymhwyster ledled y DU a’i nod yw datblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector peirianneg a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru.
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser o fewn prentisiaeth.
Rhaid i’r dysgwr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- dau brawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
- Prawf Diogelwch Critigol, wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol (asesiadau ymarferol)
- un Prosiect Ymarferol wedi’i osod gan y cyflogwr, a’i farcio’n fewnol yn y maes crefft
- un Drafodaeth Broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddysgwyr allu gweithio o fewn Crefft Gosod Gwres ac Awyru ledled y DU. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gymhwyster Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 – Crefftwr Gwresogi ac Awyru.
- Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Gwres ac Awyru – Llawlyfr Cymwysterau (Uploaded on 15/11/2022 at 04:55 pm)
- Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Gwres ac Awyru – Canllaw cadarnhad y cyflogwr (Uploaded on 30/08/2022 at 10:40 am)
- Canllawiau Cefnogi Canolfannau – Cefnogi canolfannau i ddarparu a sicrhau ansawdd cymwysterau Sgiliau i Gymru (Uploaded on 24/05/2023 at 07:35 am)
Related qualifications