Datblygwyd cymhwyster EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres er mwyn galluogi’r rhai sydd mewn dysgu seiliedig ar waith i ddangos a gwella eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth alwedigaethol o fewn y grefft hon.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, bydd dysgwyr yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n effeithiol ac yn gymwys yn eu crefft ledled y DU. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr 16 oed a throsodd sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y maes crefft berthnasol neu ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Dilyniant addas mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2).
Mae’n addas ar gyfer:
- dysgwyr 16 oed a throsodd sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster dilyniant addas mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
Os cymerir y cymhwyster fel rhan o brentisiaeth, rhaid bodloni gofynion penodol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol mewn Saesneg na mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Er hynny, disgwylir i ddysgwyr feddu ar ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Argymhellir bod dysgwyr yn datblygu eu sgiliau ffurfiol mewn Saesneg a mathemateg ymhellach, megis Sgiliau Hanfodol neu gymwysterau TGAU, er mwyn cefnogi dilyniant llwyddiannus drwy’r rhaglen hon.
Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth ar gyfer y grefft Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres, fel y’u nodir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gynllunio a chyflawni prosiectau yn eu crefft yn unol â safonau cydnabyddedig, cyn adolygu a gwerthuso ansawdd canlyniadau’r prosiectau hynny.
Bydd y cymhwyster yn drosglwyddadwy ledled y DU ac wedi’i gynllunio i ddatblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector gwasanaethau adeiladu yng Nghymru.
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser fel rhan o brentisiaeth.
Rhaid i’r dysgwr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- dau brawf Amlddewis a osodir ac a farcir yn allanol
- un Prosiect Ymarferol yn y maes crefft sy’n cael ei osod gan y cyflogwr a’i farcio’n fewnol
- un asesiad Holi Llafar a osodir yn allanol ac a farcir yn fewnol
- un Drafodaeth Broffesiynol a gaiff ei marcio’n allanol.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, bydd dysgwyr yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n effeithiol ac yn gymwys yn eu crefft ledled y DU. Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn cefnogi dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i feysydd cysylltiedig megis technolegau carbon isel, dylunio systemau a rheoli ynni adeiladau, yn ogystal â’r rhai sy’n ceisio symud ymlaen i rolau goruchwylio. Mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach ar gyrsiau eraill Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (BSE) Lefel 3 neu ar lefelau uwch, megis cymwysterau technegol Lefel 4 a thu hwnt.
- Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Oeri, Aerdymheru a Phympiau Gwres – Llawlyfr Cymwysterau (Uploaded on 24/08/2026 at 01:42 pm)
- Canllawiau i Cefnogi Canolfannau – Cefnogi canolfannau i ddarparu a sicrhau ansawdd cymwysterau Sgiliau i Gymru (Uploaded on 19/06/2026 at 02:30 pm)