Mae Canllawiau Cyflwyno digidol ar gael am ddim ar gyfer y cymwysterau hyn. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu dylunio i helpu i gyflwyno unedau gorfodol y cymwysterau, gan gynnig cefnogaeth gyffredinol i diwtoriaid wrth gyflwyno unedau crefft newydd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws ysgrifennu cynlluniau gwaith ac yn sicrhau bod y cynnwys iawn yn cael sylw.
Mae’r cymorth yn cynnwys enghreifftiau o’r canlynol:
- deddfwriaeth, rheoliadau, dogfennau a chanllawiau perthnasol
- systemau gweithdrefnau gwaith diogel
- cyngor ymarferol priodol
- unrhyw gyfarpar arbenigol sydd ei angen a sut mae ei ddefnyddio
- dulliau/technegau da i’w defnyddio
- egwyddorion mathemategol/gwyddoniaeth sylfaenol sy’n sail i’r uned.