Croeso i gasgliad gwerthfawr o adnoddau o’r Digwyddiad Arferion Da a gynhaliwyd yn y Drenewydd ar 21 Mehefin. Cyflwynwyd yr adnoddau hyn yn ystod sesiynau grŵp ar ddau destun pwysig: “Adnoddau Dwyieithog ar gyfer y Cymhwyster Sylfaen trwy Moodle” a “Datblygu Adnoddau Lefel 3,” dan arweiniad ein cydweithwyr o Grŵp NPTC.
Mae casgliad o offer a fydd o ddefnydd i’r rhai sy’n ymwneud â dysgu’r cymhwyster Sylfaen, gan gynnwys cwisiau er mwyn profi gwybodaeth, deunyddiau cymorth ar gyfer cynllunio a gosod targedau, a chyflwyniadau PowerPoint ar gyfer yr unedau cyffredin gorfodol. Lluniwyd yr adnoddau hyn i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cymhwyster yn Gymraeg.
This page was last updated on 10/10/2023 at 12:25 pm