Adeiladu – Gwaith Coed Pensaernïol

Lefel 3

Read more

Ar gael o fis Medi 2022 ymlaen

Mae’r City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gwaith Coed Pensaernïol ei ddatblygu i alluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol mewn crefft adeiladu o’u dewis.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft o’u dewis, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd
  • dysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2, neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth.
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 – Gwaith Coed Pensaernïol.

Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, yna mae’n rhaid bodloni gofynion penodol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth.

Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r grefft Gwaith Coed Pensaernïol, fel y’u cynhwysir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau dwy uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu’r sector adeiladu ac arferion o fewn y sector yng Nghymru. Gellir defnyddio’r cymhwyster ledled y DU a’i nod yw datblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda’r stoc adeiladu draddodiadol, newydd a chyn-1919, a deall technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, megis dronau a phrintio 3D.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser o fewn prentisiaeth. Cyn yr asesiadau, mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu perfformiad a’u gallu er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn hapus.

Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.

Os yw’r dysgwyr wedi ennill y cymwysterau Sylfaen a Dilyniant, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • un prawf aml-ddewis sydd wedi’i osod a’i farcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
  • un drafodaeth broffesiynol sydd wedi’i marcio’n allanol.

Os yw’r dysgwyr wedi cwblhau eu Cymhwyster Sylfaen ond heb gwblhau’r Cymhwyster Dilyniant, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • dau brawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
  • un drafodaeth broffesiynol sydd wedi’i marcio’n allanol.

Os bydd y dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb gyflawni’r cymhwyster Sylfaen neu’r cymhwyster Dilyniant yn y lle cyntaf, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • tri phrawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol.
  • un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi’i marcio’n fewnol
  • un prosiect sydd wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
  • un drafodaeth broffesiynol sydd wedi’i marcio’n allanol.
Cofrestru dysgwyr ar gyfer cymwysterau Adeiladu Lefel 3

I gofrestru eich dysgwyr Lefel 3 ar gyfer Adeiladu, bydd angen i chi ddefnyddio’r platfform Pro. I gael arweiniad ar ddechrau ar Pro a sut i gofrestru’ch dysgwyr, lawrlwythwch y canllawiau.

Dechrau defnyddio Pro (PDF)

Cofrestru eich Defnyddwyr (PDF)

Archebu eich Asesiad Allanol – Gateway a Chyfarfod Cynllunio (PDF)

Lefel 3 Cymwysterau Cymru, pob cymhwyster – Angen Cyfarfod Cynllunio (PDF)

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddysgwyr allu gweithio yn y grefft o’u dewis ledled y DU.

This page was last updated on 11/03/2024 at 17:08 pm

Cymwysterau cysylltiedig