Adeiladu – Teilsio Waliau a Lloriau

Lefel 3

Read more

Ar gael o fis Medi 2022 ymlaen

Mae’r City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Teilsio Waliau a Lloriau ei ddatblygu i alluogi’r rheini sy’n dysgu yn y gwaith i ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau galwedigaethol mewn crefft adeiladu o’u dewis.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau yn y cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 yn ystod eu prentisiaeth. Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn profi bod y dysgwyr yn gymwys ac yn eu galluogi i gael cyflogaeth yn y grefft o’u dewis, yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd
  • dysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2, neu a fydd yn cwblhau’r dysgu a’r asesiadau Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth.
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 – Teilsio Waliau a Lloriau

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi cynnydd llwyddiannus yn y rhaglen hon.

Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r grefft Teilsio Waliau a Lloriau, fel y’u cynhwysir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau dwy uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu’r sector adeiladu ac arferion o fewn y sector yng Nghymru. Gellir defnyddio’r cymhwyster ledled y DU a’i nod yw datblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda’r stoc adeiladu draddodiadol, newydd a chyn-1919, a deall technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, megis dronau a phrintio 3D.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser o fewn prentisiaeth. Cyn yr asesiadau, mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu perfformiad a’u gallu yn gyntaf er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn hapus.

Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.

Os yw’r dysgwyr wedi ennill y cymwysterau Sylfaen a Dilyniant, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • un prawf aml-ddewis sydd wedi’i osod a’i farcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
  • un drafodaeth broffesiynol sydd wedi’i marcio’n allanol.

Os yw’r dysgwyr wedi ennill y cymhwyster Sylfaen ond heb gwblhau’r Cymhwyster Dilyniant, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • dau brawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
  • un drafodaeth broffesiynol sydd wedi’i marcio’n allanol.

Os bydd y dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb ennill y cymhwyster Sylfaen neu’r cymhwyster Dilyniant yn y lle cyntaf, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • tri phrawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
  • un prosiect sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol.
  • un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi’i marcio’n fewnol
  • un prosiect sydd wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol sy’n cwmpasu crefft o’u dewis
  • un drafodaeth broffesiynol sydd wedi’i marcio’n allanol.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddysgwyr allu gweithio yn y grefft o’u dewis ledled y DU.

This page was last updated on 27/06/2022 at 14:05 pm

Cymwysterau cysylltiedig

Byddwch yn cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gennym ni.

Cofrestrwch nawr