Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Electrodechnegol

Lefel 3

Read more

Ar gael o fis Medi 2022 ymlaen

Bydd y cymhwyster Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Electro-dechnegol yn cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth.  Mae’n galluogi dysgwyr i ddangos ystod eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol ym maes gosod systemau ac offer electro-dechnegol.

Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau peirianneg gwasanaethau adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu ar hyn o bryd
  • dysgwyr sydd un ai wedi ennill y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r asesiadau a’r dysgu Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth.

Os yw’n cael ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, yna mae’n rhaid bodloni gofynion penodol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth.

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi eu cynnydd llwyddiannus gyda’r rhaglen hon.

Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r grefft, fel y’u cynhwysir yn y safonau cydnabyddedig.

Bydd dysgwyr yn treulio llawer o’u hamser ar yr unedau o’u dewis a byddant hefyd yn ymgymryd ag unedau sy’n cwmpasu Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Cymru a Chynllunio a Gwerthuso Ymarfer Gwaith yng Nghymru.

Bydd modd defnyddio’r cymhwyster ledled y DU a’i nod yw datblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector peirianneg a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser o fewn prentisiaeth. Cyn gwneud yr asesiadau, mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu perfformiad a’u gallu yn gyntaf er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn hapus.

Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio. Efallai y bydd yn rhaid i’r dysgwr hefyd ddilyn yr asesiadau a’r dysgu Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod ei brentisiaeth os nad yw wedi’i gyflawni’n barod.

Os yw’r dysgwr wedi ennill y cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn yr un llwybr crefft, mae’n rhaid iddo gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • dau brawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
  • Prawf Diogelwch Critigol, wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol (asesiadau ymarferol)
  • un Prosiect Ymarferol wedi’i osod gan y cyflogwr, a’i farcio’n fewnol yn y maes crefft
  • un Drafodaeth Broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.

Os bydd y dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb ennill y cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn yr un llwybr crefft, mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • tri phrawf aml-ddewis sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol
  • Prawf Diogelwch Critigol, wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol (asesiadau ymarferol)
  • un Prosiect Ymarferol wedi’i osod gan y cyflogwr, a’i farcio’n fewnol yn y maes crefft
  • un Drafodaeth Broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster (a’r prentisiaeth), yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddysgwyr allu gweithio o fewn crefft o’u dewis ledled y DU.

This page was last updated on 24/05/2023 at 07:46 am