Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Lefel 2

Read more

Mae’r Cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn darparu cyflwyniad eang i’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i lunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.

Mae’r cymhwyster wedi’i anelu at ddysgwyr rhan-amser sydd wedi ennill Prentisiaeth Adeiladu neu Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu, ac nad ydynt wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu o’r blaen. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuLefel 2 a 3 eraillsy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Gellir dilyn y cymhwyster dros flwyddyn gan amlaf fel rhaglen ddysgu ran-amser yn rhan o fframwaith Prentisiaeth; neu ar gyfer gweithredwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn y sector yn fwy cyffredinol.

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • gweithredwyr safleoedd sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn y sector yn fwy cyffredinol.

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol o ran Saesneg a mathemateg ar gyfer y cymwysterau hyn. Ond mae disgwyl y bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth sylfaenol dda o Saesneg a mathemateg. Rydym yn argymell bod dysgwyr yn datblygu rhagor o sgiliau Saesneg a mathemateg ffurfiol, fel Sgiliau Hanfodol neu TGAU i gefnogi eu cynnydd llwyddiannus gyda’r rhaglen hon.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned ‘graidd’, sy’n cwmpasu:

  • cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig,
  • cyflogaeth a sgiliau cyflogadwyedd; ac
  • iechyd a diogelwch.

Yn ogystal â’r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn dewis un maes crefft i dreulio amser ychwanegol yn dysgu amdano, a fydd yn cynnwys cynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau cyffredin.

Mae’r cymhwyster hwn yn arfogi dysgwyr â dealltwriaeth eang a thrawsbynciol o’r sector, sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu datblygiad eu hunain.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys 374 awr o ddysgu dan arweiniad. Bydd dysgwyr yn gallu cwblhau’r cymhwyster hwn dros flwyddyn cyn cael prentisiaeth, neu’n rhan-amser dros flwyddyn ochr yn ochr â’u prentisiaeth. Rhaid i ddysgwyr gwblhau’r cymhwyster Sylfaen neu Graidd cyn gallu cwblhau eu prentisiaeth. Bydd yr holl ddysgwyr yn cwblhau’r chwe uned ‘craidd’ ac un uned crefft.

I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:

  • un prawf amlddewis ar-sgrin sydd wedi’i osod a’i farcio’n allanol
  • un prosiect ymarferol sydd wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol sy’n cwmpasu un maes crefft

un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi’i gosod yn allanol a’i marcio’n fewnol

Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) – Pecyn Prosiect Ymarferol Fersiwn B (PDF)

Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) – Pecyn Asesu (PDF)

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu neu’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth ragarweiniol a sgiliau mewn dau lwybr o’u dewis. Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth i symud ymlaen i astudio ymhellach:

  • City & Guilds Lefel 2 Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu
  • EAL Lefel 2 Cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • City & Guilds Lefel 3Adeiladu mewn maes crefft
  • EAL Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu mewn maes crefft

Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth o fewn y sector yn y grefft o’u dewis.

This page was last updated on 18/07/2024 at 11:26 am