Sylfaen a Chraidd – Mae Prosiectau Ymarferol Fersiwn B yn fyw

Read more

October 4th, 2023

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod fersiwn B o’r prosiectau ymarferol ar gyfer y cymhwyster Sylfaen a Chraidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar wefan Sgiliau i Gymru

Mae fersiynau newydd y Prosiectau Ymarferol yn cynnwys: 

  • briffiau prosiect newydd ar gyfer pob maes crefft
  • tasgau newydd a gridiau marcio
  • lleihau y maint cyffredinol a’r gofynion o ran deunyddiau, i wella’r gallu i reoli’r prosiectau ymarferol.

Mae’r fersiynau diweddaraf ar gael i’w lawrlwytho ar dudalen y cymhwyster ar gyfer y Sylfaen a’r Craidd o dan ‘Deunyddiau Asesu Byw’. Nid yw fersiynau blaenorol ar gael mwyach. 

Adnoddau dysgu digidol – Adnoddau newydd ar gyfer uned dilyniant 201 

Mae adnodd ychwanegol i diwtoriaid ar gael ac mae’n cynnwys y canlynol:  

  • Uned 201 Cyflogaeth a Chyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu. 

Mae’r adnodd hwn ar gyfer y cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ac mae ar gael ar wefan Sgiliau i Gymru. 

Mae’r adnodd yn cynnwys: 

  • Cynlluniau gwaith 
  • Cyflwyniadau PowerPoint  
  • Taflenni gwaith 
  • Cwestiynau amlddewis.  

Gweld adnodd Dilyniant mewn Adeiladu Uned 201 >

Gweld adnodd Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Uned 201 >

Rydym hefyd wrthi’n datblygu – Uned 202 sy’n cynnwys ‘Arferion sy’n newid dros amser’ a fydd ar gael yn ystod mis Medi 2023.

Profion llywio 

Yn ogystal â’r asesiadau enghreifftiol sydd ar gael, gallwch hefyd gael mynediad at ‘Brawf llywio’ sy’n helpu dysgwyr i ddefnyddio’r llwyfan profi ar gyfer cymwysterau Adeiladu City & Guilds yn unig.  

Mae’n bosibl cael mynediad at rhain ar dudalennau gwe’r cymhwyster Adeiladu o dan ‘Deunyddiau asesu enghreifftiol’

Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ddefnyddio’r botwm toglo yng nghornel dde uchaf pob tudalen we.