Prentisiaethau: Drafftiau Cyn Cyhoeddi
Cyfle cynnar i weld er mwyn cynorthwyo gyda gwaith cynllunio eich canolfan
Er mwyn helpu ein canolfannau partner i baratoi at y diwygiadau galwedigaethol sydd ar y gweill yng Nghymru, mae City and Guilds yn rhoi mynediad cynnar at fersiynau drafft o lawlyfrynnau cymwysterau a Chanllawiau Cadarnhad Cyflogwyr ar gyfer cymwysterau newydd y Brentisiaeth Adeiladu Lefel 2.
Mae’r dogfennau hyn yn cael eu rhannu at ddibenion gwybodaeth yn unig. Maent yn cynnig golwg ragarweiniol ar y strwythurau a’r gofynion arfaethedig i’ch helpu chi i ddeall cyfeiriad y llwybr newydd.
Pwysig: Statws y Ddogfen
Cofiwch mai dogfennau DRAFFT yw’r rhain. Gallent newid, ac nid ydynt wedi’u cwblhau’n derfynol eto. Ni ddylid defnyddio’r deunyddiau hyn i addysgu, dysgu nac i asesu ar hyn o bryd.
Dogfennau Drafft i Gyfeirio Atynt
Fersiynau Cymraeg yn dod yn fuan.
Y Camau Nesaf a Chyhoeddi Terfynol
Rydym ni’n gweithio’n agos â Chymwysterau Cymru i gwblhau’r cyfresi hyn yn derfynol. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo, bydd y fersiynau terfynol yn cael eu cyhoeddi, ac fe wnawn ni roi gwybod i chi.
Mae disgwyl i’r Llawlyfrau Terfynol gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2026.
Cysylltu â’r Tîm
Os oes gennych gwestiynau ynghylch yr amserlen pontio neu sut y gallai’r drafftiau hyn effeithio ar eich cwricwlwm yn y dyfodol – tîm Cymorth Cwsmeriaid drwy e-bost: skillsforwales.customer@cityandguilds.com neu rif ffôn: 01924 930800.
Cyfeiriwch at y dudalen Cwestiynau Cyffredin bwrpasol am ragor o wybodaeth.
This page was last updated on 17/04/2026 at 09:44 am