Mae City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gorchuddio Lloriau wedi’i lunio i alluogi dysgwyr sy’n dysgu yn y gwaith i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o Orchuddio Lloriau a sut mae hyn yn cael ei gyflawni yng Nghymru.
Adeiladu – Gosod BricsMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Gosod Brics wedi’i lunio i alluogi dysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o osod brics. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion gweithleoedd adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.
Adeiladu – Gwaith Coed ar y SafleMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Gwaith Coed ar y Safle wedi’i lunio i alluogi dysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o waith coed ar y safle. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion gweithleoedd adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.
Adeiladu – SgaffaldioMae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Sgaffaldio wedi’i lunio i alluogi dysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o sgaffaldio. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion gweithleoedd adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.
Lefel 2 Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu – adnoddau Grŵp Colegau NPTCCroeso i gasgliad gwerthfawr o adnoddau o’r Digwyddiad Arferion Da a gynhaliwyd yn y Drenewydd ar 21 Mehefin. Cyflwynwyd yr adnoddau hyn yn ystod sesiynau grŵp ar ddau destun pwysig: “Adnoddau Dwyieithog ar gyfer y Cymhwyster Sylfaen trwy Moodle” a “Datblygu Adnoddau Lefel 3,” dan arweiniad ein cydweithwyr o Grŵp NPTC.
Mae casgliad o offer a fydd o ddefnydd i’r rhai sy’n ymwneud â dysgu’r cymhwyster Sylfaen, gan gynnwys cwisiau er mwyn profi gwybodaeth, deunyddiau cymorth ar gyfer cynllunio a gosod targedau, a chyflwyniadau PowerPoint ar gyfer yr unedau cyffredin gorfodol. Lluniwyd yr adnoddau hyn i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cymhwyster yn Gymraeg.
Croeso i gasgliad gwerthfawr o adnoddau o’r Digwyddiad Arferion Da a gynhaliwyd yn y Drenewydd ar 21 Mehefin. Cyflwynwyd yr adnoddau hyn yn ystod sesiynau grŵp ar ddau destun pwysig: “Adnoddau Dwyieithog ar gyfer y Cymhwyster Sylfaen trwy Moodle” a “Datblygu Adnoddau Lefel 3,” dan arweiniad ein cydweithwyr o Grŵp NPTC.
Ar gyfer y rhai sy’n addysgu Adeiladu Lefel 3, mae nifer o gyflwyniadau PowerPoint a thaflenni gwaith sydd wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer Unedau 301, 302 a 303. Mae’r adnoddau hyn wedi’u teilwra i gefnogi’r profiad dysgu ac addysgu wrth gyflwyno’r unedau hyn.
Mae’r adnoddau Lefel 3 ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cael cyfieithiadau yn y dyfodol.
Mae Canllawiau Cyflwyno digidol ar gael am ddim ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu dylunio i helpu i gyflwyno unedau gorfodol a dewisol y cymhwyster, gan gynnig cefnogaeth gyffredinol i diwtoriaid wrth gyflwyno unedau crefft newydd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws ysgrifennu cynlluniau gwaith ac yn sicrhau bod y cynnwys iawn yn cael sylw.
Mae’r cymorth yn cynnwys enghreifftiau o’r canlynol:
- deddfwriaeth, rheoliadau, dogfennau a chanllawiau perthnasol
- systemau gweithdrefnau gwaith diogel
- cyngor ymarferol priodol
- unrhyw gyfarpar arbenigol sydd ei angen a sut mae ei ddefnyddio
- dulliau/technegau da i’w defnyddio
- egwyddorion mathemategol/gwyddoniaeth sylfaenol sy’n sail i’r uned.
Mae adnoddau ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer Uned 201 a 202. Mae’r adnoddau yn cynnwys cynlluniau gwaith, cyflwyniadau Pwynt Pwer, taflenni gwaith a chwestiynau amlddewis.
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau ar gyfer y cymwysterau lefel 3 mewn Adeiladu
Mae Canllawiau Cyflwyno digidol ar gael am ddim ar gyfer y cymwysterau hyn. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu dylunio i helpu i gyflwyno unedau gorfodol ac unrhyw unedau dewisol y cymwysterau, gan gynnig cefnogaeth gyffredinol i diwtoriaid wrth gyflwyno unedau crefft newydd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws ysgrifennu cynlluniau gwaith ac yn sicrhau bod y cynnwys iawn yn cael sylw.
Mae’r cymorth yn cynnwys enghreifftiau o’r canlynol:
- deddfwriaeth, rheoliadau, dogfennau a chanllawiau perthnasol
- systemau gweithdrefnau gwaith diogel
- cyngor ymarferol priodol
- unrhyw gyfarpar arbenigol sydd ei angen a sut mae ei ddefnyddio
- dulliau/technegau da i’w defnyddio
- egwyddorion mathemategol/gwyddoniaeth sylfaenol sy’n sail i’r uned.
Adnoddau dysgu ac addysgu
Paratoi i ddarparu Lefel 3 mewn Gwaith Peiriannau Paratoi i ddarparu Lefel 3 mewn Peintio ac Addurno